Text begins here:
MRes Gwyddoniaeth a Thechnoleg Polymer
Defnyddir polymerau toddadwy mewn dŵr mewn ystod eang o gynnyrch diwydiannol gan gynnwys bwyd, cyffuriau, cosmetigau, gofal personol, paent, inc ayb. oherwydd eu gallu i dewychu a gelio toddiannau dyfrllyd a sefydlogi gwasgariadau ac emylsiynau.
Bydd y cwrs yma yn eich darparu gyda’r wybodaeth i ddeall ymddygiad polymerau toddadwy mewn dŵr sy’n digwydd yn naturiol a synthetig ar lefel foleciwlaidd, a’r modd y mae hyn yn dylanwadu ar eu swmp-ymddygiad. Atgyfnerthir ac ymhelaethir ar ddarlithoedd gan astudiaeth o systemau polymer bywyd go-iawn yn y labordy.
Ffeithiau Allweddol
- Byddwch yn dysgu am y rolau hanfodol a chwaraeir gan bolymerau mewn cyfoeth o senarios diwydiannol – o fwyd, cosmetigau a gofal personol, cyffuriau, cynhyrchu papur, inc a chaenau, mwyngloddio a drilio am olew i enwi dim ond rhai. Yn eich prosiect ymchwil byddwch yn dod wyneb yn wyneb ag arbenigwyr o ddiwydiannau gweithgynhyrchu ac yn ymgymryd â rhaglen o arbrofion a gynlluniwyd i ddatblygu’r sgiliau sydd arnoch eisiau eu dysgu.
- Y fformiwla lwyddiannus... Mae gwyddonwyr coloid yn y Ganolfan Polymerau Toddadwy mewn Dŵr wedi bod yn helpu cwmnïau cenedlaethol a rhyng-genedlaethol ddatrys eu problemau fformiwleiddio ers dros 25 mlynedd. Ar y cwrs yma byddwch yn dysgu cyfrinachau’r grefft tu ôl i fformiwleiddio llwyddiannus – delio gyda materion fel sefydlogi cynnyrch (sefydlogi emylsiynau a gwasgariadau), rheoli clystyriadau, rheoleg (nodweddion llif, teimlad yn y geg, geliad), a goresgyn problemau cydnawsedd gyda systemau amlgyfansawdd.
Cyfleoedd Gyrfaol
Mae gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg Polymerau o Brifysgol Glyndŵr yn eich darparu gyda’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Byddwch yn barod i gamu’n hyderus i fyd o weithgynhyrchu gyda chyfoeth o wybodaeth a sgiliau i’w cynnig.
Mae’r cwrs yn darparu cyfleoedd gyrfaol rhagorol mewn ystod eang o sectorau diwydiannol. Gall graddedigion ddisgwyl cael swydd ymchwil a datblygu mewn meysydd sy’n ymwneud â dyfeisiau biomeddygol, fformiwleiddio fferyllol, bwyd a diod, adfer petroliwm, agrogemegau, polymerau swyddogaethol/cemegau arbenigol, inc, paent a chaenau neu gosmetigau a chynnyrch gofal personol.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu llwybr uniongyrchol i astudiaeth ddoethuriaethol, i’r rheiny sy’n dymuno ymgymryd â hyfforddiant ymchwil pellach neu ddilyn gyrfa academaidd.
Cynnwys y Cwrs
Mae’r cwrs yn cynnwys 3 modiwl 20 credyd o gynnwys a addysgir a phrosiect ymchwil 120-credyd.
Cynnwys a addysgir
Mae’r darlithoedd a’r gweithdai wedi’u cynllunio i’ch hyfforddi i ddeall moleciwlau polymer eu hunain, a’r ffordd y maent yn rhyngweithio â’i gilydd, a chyda thoddyddion, gwlychwyr, gronynnau ac arwynebau. Byddwch yn:
- astudio egwyddorion sylfaenol nodweddion polymerau trwy ystod o dechnegau dadansoddol gan gynnwys FT-IR, UV-vis, NMR, ESR a sbectrosgopeg fflworoleuedd
- meistroli mesuriad dosbarthiad masol torfol gan ddefnyddio cromatograffi hydreiddiad gel gyda gwasgaru golau laser amlonglog (GPC-MALLS), ac electrofforesis gel
- defnyddio technegau mesur gronynnau fel delweddu digidol a diffreithio laser i fesur agregau, clystyrau a dafnau o emylsiwn
- darganfod Cemeg Werdd – archwilio ystod eang o fiopolymerau anhygoel wedi’u hechdynnu o adnoddau naturiol….gan gynnwys polymerau gwrthficrobaidd o wastraff pysgod cregyn, ac oligosacaridau o laswelltydd wedi’u tyfu’n lleol
- dysgu am bolymerau artiffisial ac yn bwysig, biopolymerau wedi’u haddasu’n fiolegol
- mesur gludedd a rheoleg datrysiadau polymer a gweld sut y gellid dehongli hyn i roi gwybodaeth strwythuriedig am systemau a gelau wedi’u tewychu.
Asesu
Asesir Dulliau Dadansoddol trwy ymarferion datrys-problemau llyfr agored ac arholiadau dibaratoad ffurfiol.
Asesir modiwlau arbenigol trwy asesiad trafodedig a addaswyd i anghenion penodol y myfyriwr, a nodir mewn cytundeb dysgu. Mae asesiadau mynegiannol yn cynnwys adolygiad beirniadol o lenyddiaeth sy’n ymwneud â modiwlau, gwaith ymarferol mewn labordy (synthesis polymerau, prosesu neu ddadansoddi offerynnol), cyflwyniadau poster a chyflwyniadau llafar.
Edrychir ar y prosiect ymchwil yn gyfan gwbl trwy arholiad viva voce ym mhresenoldeb arholwr mewnol ac allanol.
Dyma rai o’n cyn-fyfyrwyr
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|