Text begins here:
Cyfrifiadureg
MSc Cyfrifiadureg
MRes Cyfrifiadureg
Mae’r cyrsiau newydd hyn wedi eu bwriadu ar gyfer graddedigion o ddisgyblaethau cyfrifiadurol sydd am ddiweddaru neu ganolbwyntio eu sgiliau a’u gallu cyfrifiadurol i weithio’n effeithiol yn y diwydiant cyfrifiadureg.
Mae'r cwrs MSc wedi'i gynllunio i ddarparu graddedigion â'r sgiliau i gwrdd ag anghenion diwydiannol a masnachol ac i’w galluogi i ymarfer fel gweithwyr proffesiynol cyfrifiadureg a TG. Mae wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg, felly os oes gennych ddiddordebau a sgiliau penodol o’ch astudiaethau neu brofiad blaenorol, gallwch ddewis o blith y dewis ehangaf o fodiwlau. Mae’r cwrs yn cyfuno modiwlau craidd mewn cyfrifiadureg hanfodol â themâu arbenigol sy’n rhoi sylw i’r meysydd y mae galw cyfredol amdanynt. Drwy hyn, gallwch sicrhau portffolio o fodiwlau sy’n cyfateb â llwybr gyrfa o’ch dewis chi.
Mae’r cwrs MRes yn radd Meistr sy’n seiliedig ar ymchwil, ac mae ar gyfer pobl sydd eisoes â gradd gyntaf neu radd drosi Meistr mewn cyfrifiadureg ac sy’n dymuno archwilio a datblygu eu potensial eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil ar lefel ôl-raddedig. Mae'r cynnwys yn canolbwyntio ar dechnegau uwch ar gyfer datblygu systemau gwybodaeth ac amlgyfryngau.
Prif ffeithiau
- Cyfle i astudio yn fanwl amrywiaeth eang o bynciau
- Mae modiwlau opsiynol yn rhoi modd i chi feithrin sgiliau arbenigol mewn amrywiaeth o feysydd
- Caiff darlithoedd/tiwtorialau a sesiynau ymarferol eu cyfoethogi drwy ddefnyddio deunyddiau ychwanegol ar-lein sy’n llawn adnoddau, gan roi modd i chi barhau i ddysgu’n annibynnol trwy amrywiaeth o ddulliau
- Addysgir gan staff sy’n arwain ymchwil i feysydd y rhyngrwyd a rhwydweithiau cyfrifiadurol•• Mae gweithgareddau ymchwil yn gysylltiedig â grŵp ymchwil cyfrifiadura’r Brifysgol, sef y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Rhyngrwyd Gymwysedig (CAIR). Yn y Ganolfan hon, mae timoedd ymchwil/prosiect yn astudio agweddau gwahanol ar Dechnolegau a Chymwysiadau’r Rhyngrwyd gan gynnwys Algorithmau’r Rhwydwaith, Cynllunio a Rheoli Rhwydwaith a Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiadur
Hyd y cwrs
Llawn amser
MSc: blwyddyn
MRes: blwyddyn
Rhan-amser
MSc: 2-3 blynedd
MRes: 2-3 blynedd
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi
Cyfleoedd gyrfa
Mae'r cyrsiau hyn yn agor y drws i ystod eang o gyfleoedd gyrfa mewn diwydiant, masnach a’r byd academaidd, gyda graddedigion yn mynd i swyddi fel dylunwyr a pheirianwyr meddalwedd, dadansoddwyr neu ymgynghorwyr yn y diwydiant meddalwedd cyfrifiadurol. Gall yr MSc hefyd arwain at astudiaeth bellach neu ymchwil ôl-raddedig.Bydd graddedigion wedi dangos dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol, llawer ohono ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth; dealltwriaeth gynhwysfawr ac ymarferol o dechnegau perthnasol; gwreiddioldeb wrth ddefnyddio gwybodaeth; y gallu i werthuso ymchwil a methodolegau cyfredol, a’r gallu i ddysgu yn annibynnol fel sy’n ofynnol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
Cynnwys y cwrs
Mae cynllunio datblygiad personol yn rhan annatod o broses ddysgu pob elfen o’r cwrs.
MSc Cyfrifiadureg
- Astudiaethau Ôl-radd a Dulliau Ymchwilio
- Technolegau Newydd a Thechnoleg y Dyfodol
- Caledwedd a Meddalwedd Rhwydweithio
- Technolegau a Thechnegau Rhwydweithio
- Traethawd Estynedig / Opsiynau Prosiect
- Rheoli Prosiect TG
- Heriau Proffesiynol mewn Cyfrifiadura
- Amgylcheddau Datblygu Amlgyfryngau
- Cynhyrchu Sain a Cherddoriaeth Cymhwysol
- Dylunio a Datblygu Gwefan Fasnachol
- Datblygu Cymwysiadau Gwe a SymudolMRes Cyfrifiadureg
- Astudiaethau Ôl-radd a Dulliau Ymchwilio
- Technolegau Newydd a Thechnoleg y Dyfodol
- Opsiynau Prosiect Ymchwil
- Rheoli Prosiect TG
- Heriau Proffesiynol mewn Cyfrifiadura
- Amgylcheddau Datblygu Amlgyfryngau
- Cynhyrchu Sain a Cherddoriaeth Cymhwysol
- Caledwedd a Meddalwedd Rhwydweithio
- Technolegau a Thechnegau Rhwydweithio
- Dylunio a Datblygu Gwefan Fasnachol
- Datblygu Cymwysiadau Gwe a Symudol
Gofynion derbyn
Y gofyniad derbyn safonol ar gyfer y rhaglenni hyn yw gradd anrhydedd â dosbarth 2:2 ar y lleiaf mewn maes pwnc sy’n gysylltiedig â Chyfrifiadureg, neu gymhwyster cyfwerth mewn unrhyw radd sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ac sydd ag elfen gyfrifiadurol ac/neu beirianneg gref. Mewn rhai achosion gellid derbyn ymgeiswyr sydd â phrofiad masnachol neu ddiwydiannol sylweddol, yn amodol ar gyfweliad a geirda.
Asesu
Ar gyfer yr MRes, disgwylir i chi gynnal seminar ar eich prosiect ymchwil yn ogystal â chyflwyno thesis ysgrifenedig. Bydd sawl un o’r modiwlau a ddysgir yn cynnwys astudiaeth dan arweiniad i’r llenyddiaeth ymchwil, gan gynnwys seminarau a thrafodaethau tiwtorial.
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth, neu i drafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu ein proses dderbyn, gallwch gysylltu â Nigel Houlden, a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu:
Nigel Houlden, Tiwtor Derbyn
Ysgol Cyfrifiadura a Thechnoleg Cyfathrebu, Prifysgol Glyndŵr Rhif ffôn uniongyrchol: 01978 293082 Ebost: n.houlden@glyndwr.ac.uk
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|