Ymarfer Celf
MA Ymarfer Celf
Nod y cwrs yw eich datblygu fel artist/gwneuthurwr ac i sicrhau bod gennych y sgiliau a'r dychymyg i gynhyrchu gwaith heriol sy’n seiliedig ar adfyfyrio meddylgar ac arferion arloesol.
Mae’r MA Ymarfer Celf yn un o gyfres o dair gradd Meistr celf a dylunio sy’n cael eu dysgu. Fel myfyriwr celf a dylunio, bydd gofyn i chi ddatblygu'r gallu i reoli gwybodaeth gymhleth er mwyn cyfoethogi eich creadigrwydd. Caiff rhai agweddau ar hyn eu rhannu gyda myfyrwyr eraill a byddwch yn dysgu rhai o'r ffyrdd y gellir rheoli prosiectau celf yn gyffredinol, ond bydd agweddau eraill yn deillio o ddadansoddi eich ymarfer eich hun a bydd yn arwain at ddealltwriaeth athronyddol o'ch gwaith eich hun a gwaith pobl eraill.
- Celfyddyd Gain
- Celfyddyd Gymhwysol
- Lluniadu a Gwneud Printiau
Prif ffeithiau
- Cyfle i arddangos eich gwaith, cystadlu a chymryd rhan mewn ymweliadau astudio cysylltiedig
- Caiff y cwrs ei ddysgu gan staff sydd wrthi’n ymchwilio ac sydd hefyd yn artistiaid a dylunwyr
- Trwy gydweithio’n agos ar yr aseiniadau, bydd myfyrwyr o feysydd pwnc cysylltiedig yn cael cyfleoedd i gydweithio â'i gilydd (ac, o drafod, â'r rheini mewn meysydd pwnc eraill). Mae'r sefyllfa hon yn efelychu’r gweithle yn y byd cyfoes, lle bydd gofyn efallai i staff arbenigol gwrdd ag arbenigwyr o feysydd pwnc gwahanol a phartneriaid diwydiannol, a datblygu syniadau mewn ymgynghoriad â hwy
- Mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar waith mewn stiwdio a bydd gennych fynediad da at ystod o offer arbenigol ar gyfer amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau
Bydd y cwrs yn eich tywys trwy'r wybodaeth hanfodol, gan gynnwys trafodaethau a dadlau ynghylch damcaniaethau cyfredol. Cewch hefyd eich annog i adolygu'r materion diwylliannol a damcaniaethol sy'n gysylltiedig ag arferion celf yn ogystal â meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o’ch pwnc a'r dylanwadau sydd ar waith ynddo. Mae'r cwrs yn ymchwilio i faes allweddol gofynion esthetig, seicolegol a diwylliannol cynulleidfa darged.
Cynlluniwyd y cwrs MA hwn i ddwyn ynghyd meysydd ymarfer arbenigol sy’n rhannu egwyddorion craidd damcaniaethau celf a dylunio, a hynny drwy agweddau at ymarfer celf a dylunio. Y cysyniad y tu ôl i'r cwrs hwn yw cael ymarferwyr celf a dylunio medrus i ddatblygu eu gallu i ddyfeisio ffyrdd newydd a heriol o ddefnyddio eu gwybodaeth.
Hyd y cwrs
Llawn amser
Blwyddyn, gan weithio o fis Medi i fis Medi (o leiaf 3 diwrnod yn y brifysgol a 2 ddiwrnod pellach o astudio preifat bob wythnos)
Rhan-amser
2 flynedd, gan weithio o fis Medi i fis Mehefin (1 diwrnod yn y brifysgol a diwrnod arall o astudio preifat bob wythnos)
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi
Cyfleoedd gyrfa
Ein nod yw cynhyrchu ymarferwyr gweithredol sy’n annibynnol ac yn llawn cymhelliant, ac sy’n gallu ymateb yn greadigol i ystod o gyfleoedd ac arddangos dychymyg yn eu prosesau meddwl.
Rydym am sicrhau bod gan ein graddedigion bortffolio o waith, ac y byddant yn meithrin ystod o sgiliau a fydd yn eu helpu i sefydlu eu hunain fel ymarferwyr proffesiynol, yn ogystal â’u galluogi i chwilio am gyfle i weithio ochr yn ochr â meysydd creadigol eraill wrth ddilyn eu dyheadau neu wrth gyflawni amcanion gyrfa.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn adlewyrchu natur y diwydiannau dylunio sy'n dibynnu ar y gallu i gyfathrebu rhwng meysydd ymarfer arbenigol.
- Dulliau Ymchwil
- Traethawd Estynedig a Chyflwyniad Meistr
- Defnyddio Ymchwil i Ymarfer Creadigol
- Llwybr Ymarfer Arbenigol
Opsiynau
- Ymarfer Cydweithredol
- Llwybr Sgiliau Pontio
- Llwybr Gweithio â Chleientiaid
- Llwybr Ymgysylltu a Throchi
- Llwybr Sgiliau o fewn Cyd-destun
Gofynion derbyn
Fel arfer, dylech fod â gradd anrhydedd dda mewn pwnc perthnasol ond caiff ceisiadau eu hystyried gan bobl sydd â digon o dystiolaeth o brofiad yn y pwnc sy’n cyfateb i’r dyfarniad hwn.
Asesu
Ar ddiwedd pob prif gam yn ystod y cwrs, caiff eich gwaith ei asesu. Bydd modd cael adborth ychwanegol ar eich cynnydd drwy feirniadaethau, seminarau, adolygiadau gan gyfoedion ac adborth unigol mewn tiwtorialau gyda staff pwnc.