Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
Mae troseddeg yn bwnc rhyngddisgyblaethol cyffrous sy’n tynnu ar gymdeithaseg, seicoleg a’r gyfraith er mwyn astudio sut y caiff trosedd ei diffinio, pam fod pobl yn troseddu, a sut mae cymdeithas yn ymateb.
Os ydych yn chwilio am yrfa yn y maes cyfiawnder troseddol/cymunedol a hwnnw’n faes sy’n prysur ehangu, yna mae’r MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn ddelfrydol i chi. Mae’r cwrs hwn yn wych, hefyd, os ydych yn gweithio yn y system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd ac yn dymuno ehangu eich gwybodaeth. Byddwch yn cael eich annog i edrych yn feirniadol ar ystod o themâu a materion allweddol sy’n flaenllaw yn y tirlun cyfiawnder troseddol.
Prif ffeithiau
- Mae’r gweithdy cyntaf wedi’i gynnal am ddeuddydd ar ddechrau pob blwyddyn; caiff y ddau weithdy arall wedyn eu cynnal am ddiwrnod yr un. Caiff y sesiwn cyntaf ei ddarparu am ddeuddydd ar ddechrau’r semester, a’r sesiwn wedi hynny am ddiwrnod
- Mae’r cwrs yn defnyddio technoleg gwybodaeth i greu amgylchedd dysgu rhithwir ar gyfer astudio a chael cefnogaeth
- Mae astudio ar-lein yn golygu y gall myfyrwyr wneud y radd o unrhyw le yn y byd
Hyd y cwrs
Rhan-amser
2-3 blynedd
Lleoliad: Ar-lein; Wrecsam
Mis dechrau: Medi
Cyfleoedd gyrfa
Mae’r cwrs yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae’r cwrs yn ddelfrydol os ydych yn gweithio ym maes prawf, yr heddlu, gwaith troseddu ieuenctid, carchardai, gwaith cymdeithasol neu waith cymunedol.
Cynnwys y cwrs
- Trosedd yn yr 21ain Ganrif
- Risg a Pherygl
- Damcaniaethu Trosedd
- Dull Ymchwil
- Traethawd Estynedig
Opsiynau - dau o blith y canlynol:
- Trosedd Casineb, Amrywiaeth a Rhagfarn
- Plant a Phobl Ifanc fel Dioddefwyr a Throseddwyr
- Rheoli Cyffuriau a Defnyddwyr Cyffuriau
- Dysgu Trafodedig
Gofynion derbyn
Rhaid eich bod wedi cwblhau gradd israddedig yn llwyddiannus gyda gradd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth.
Asesu
Aseiniadau, ymchwil a gwaith cwrs. Bydd angen i chi gwblhau traethawd estynedig er mwyn cael MA.

