Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Rheolaeth Adnoddau Dynol

MA Rheolaeth Adnoddau Dynol

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), sef corff proffesiynol mwyaf Ewrop ar gyfer adnoddau dynol a datblygu proffesiynol.

MA Rheolaeth Adnoddau Dynol pic

Prif ffeithiau

  • Mae gan Brifysgol Glyndŵr a’i thîm busnes berthynas hirsefydlog â’r CIPD.
  • Mae gan ein tiwtoriaid brofiad diwydiannol a phroffesiynol sylweddol.
  • Byddwch yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth o safon uchel mewn amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar.

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer arbenigwyr proffesiynol sydd wedi dewis canolbwyntio eu gyrfaoedd yn y byd Adnoddau Dynol/personél. Mae’r cwrs yn cynnwys y cymwysterau sy’n gysylltiedig â Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), sef Sefydliad proffesiynol mwyaf Ewrop ar gyfer y rheiny sy’n ymwneud â rheoli a datblygu pobl. 

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD neu reolwyr profiadol sydd ar lefel ganolig neu uwch. O ganlyniad, maent yn debygol o feddu ar brofiad gwaith perthnasol yn ogystal â meddu ar gymwysterau addysgol ffurfiol priodol sy’n addas ar gyfer rhaglen meistr. Diben y rhaglen astudio yw datblygu neu hybu galluoedd proffesiynol mewn unigolion sydd eisoes yn brofiadol neu sy’n dymuno ychwanegu at y profiad hwnnw trwy raglen strwythuredig.

Hyd y cwrs

Rhan-amser

3 blynedd

Lleoliad: Wrecsam

Mis dechrau: Medi

Mae cynnwys yr MA hwn yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltu theori gydag ymarfer AD. Mae’n mynd ati’n feirniadol i ymdrin ag ymarfer cyfredol a datblygiadau tebygol ar gyfer y dyfodol.

Cyfleoedd gyrfa

Mae galw mawr am gymwysterau sydd yn gysylltiedig ag aelodaeth broffesiynol y CIPD. Bydd y cwrs yn eich helpu i rwydweithio gyda chydweithwyr proffesiynol, ac yn rhoi modd i chi gael gafael ar yr wybodaeth broffesiynol ddiweddaraf. Bydd y cwrs yn cynorthwyo eich ymroddiad i safonau uchel o ran ymddygiad proffesiynol. Cynlluniwyd y rhaglen yn unol â gofynion CIPD a gellir cyflawni’r diploma ôl-raddedig trwy gwblhau’r ddwy flynedd gyntaf o astudiaeth yn llwyddiannus. Mae’r drydedd flwyddyn astudio yn rhoi dilyniant llyfn ymlaen i’r cymhwyster gradd Meistr ar gyfer graddedigion CIPD.

Cynnwys y cwrs

Blwyddyn 1:

  • Y cyd-destun ar gyfer Rheoli AD
  • Arwain a rheoli pobl
  • Rheoli dawn a phobl

Blwyddyn 2:

  • Rheoli gwobrwyo gweithwyr
  • Rheoli’r berthnas rhwng gweithwyr
  • Datblygu adnoddau dynol

Blwyddyn 3:

  • Traethawd estynedig

Gofynion derbyn

Mae’n rhaid i chi fodloni un o’r amodau canlynol:

  • Meddu ar radd israddedig gan gorff dyfarnu graddau cymeradwyedig.
  • Meddu ar gymhwyster anraddedig y mae’r Brifysgol yn ystyried i fod o safon foddhaol ar gyfer mynediad ôl-raddedig.
  • Meddu ar brofiad gwaith perthnasol a ystyrir i wneud iawn am y diffyg cymwysterau ffurfiol, a’ch bod wedi bod mewn swydd o gyfrifoldeb rheoli am o leiaf dair blynedd. Gallai ymgeisydd sydd eisoes wedi cyflawni Statws Gradd CIPD gan y Cynllun Datblygu Proffesiynol CIPD cyfredol neu flaenorol gael caniatâd i symud ymlaen yn uniongyrchol i wneud y traethawd estynedig.

Asesu

Cewch eich asesu trwy gyfuniad o arholiadau ac aseiniadau sy’n cynnwys astudiaethau achos, cyflwyniadau, adroddiadau ymchwil, dyddiadur adfyfyrio a thraethawd estynedig. Bydd angen i’r ymgeiswyr ymuno â’r CIPD a thalu ffi tanysgrifio blynyddol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer aelodaeth broffesiynol.

Cysylltwch â ni

Os ydych yn fyfyriwr/wraig o’r DU neu’r UE ac eisiau mwy o wybodaeth, neu er mwyn trafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu broses dderbyn ein Ysgol Fusnes, cysylltwch â SID (Desg Gwybodaeth Myfyrwyr).

Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr
Rhif ffôn: 01978 293439
Ebost: sid@glyndwr.ac.uk

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk