Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Darlunio ar gyfer Cyhoeddiadau Plant

MA Darlunio ar gyfer Cyhoeddiadau Plant

Mae hwn yn gwrs Meistr unigryw sydd nid yn unigyn delio gyda thechnegau darlunio a sgiliau lluniadu ond hefyd yn edrych ar gymhlethdodau dilyniant naratif, dweud stori a dylunio cymeriadau. Trwy ddewis y cwrs arbenigol yma byddwch yn cael gwerthfawrogiad llawn o hyd a lled yr adran helaeth, hynod gystadleuol a dyrys yma diwydiant dylunio. Mae’r rhaglen hon yn cael llawer iawn o gefnogaeth gan  ddarlunwyr a chyhoeddwyr plant blaenllaw, felly mae’r rhagolygon cyflogaeth ar gyfer graddedigion yn rhagorol.

Yn Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Glyndŵr, ein nod yw i chi ddatblygu mwy na dim ond eich sgiliau artistig. Mae’r Ysgol yn cynnig arbenigaethau mewn animeiddio, darlunio cyffredinol, amlgyfryngau, nofelau graffeg a dylunio graffeg yn ogystal â lefelau uwch o dechnoleg gwybodaeth, sgiliau busnes, proffesiynol a threfniadaethol a chyfathrebu. Mae gan raddedigion Prifysgol Glyndŵr gofnod rhagorol o gyhoeddi gwaith a chael eu cyflogi o fewn meysydd cyflenwol gêmau cyfrifiadurol, amlgyfryngau a nodweddion arbennig animeiddio.   

Nodweddion arbennig

  • Mae gan y radd gwricwlwm lluniadu ‘traddodiadol’, yn arbennig o ran lluniadu ffigurau, anthropomorffiaeth a datblygucymeriadau.
  • Mae yna hefyd ffocws galwedigaethol cryf gyda theithiau tramor perthnasol, megis yr Ŵyl Llyfrau Plant ryngwladol yn Bologna ac ymweld â chyhoeddwyr yn Llundain.
  • Mae gan Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru gysylltiadau masnachol rhagorol gyda chyhoeddwyr Prydeinig blaenllaw, yn seiliedig ar ein henw da am safonau proffesiynol uchel.
  • Rydym yn cael llwyddiant blynyddol mewn cystadlaethau darlunio a dylunio cenedlaethol.
  • Byddwch yn cael y cyfle i ymgymryd ag astudiaethau dylunio yng Ngwlad Pwyl fel rhan o’r cwrs.
  • Mae mynediad i ddisgyblaethau dylunio eraill yn annog portffolios neilltuol a phroffesiynol iawn, gan ddarparu ar gyfer anghenion y diwydiant tra’n hyrwyddo cryfderau personol.
  • Mae geithdai a chynlluniau ‘Artistiaid Preswyl’ o fewn ysgolion cynradd lleol ar gael i hoelio sylw a rhyngweithio gyda’r gynulleidfa darged.
  • Addysgir y cwrs gan awduron ‘The Encyclopaedia of How to Write and Illustrate Children’s Books’, Quarto Publishing 2008.

Cyfleoedd gyrfaol

Daeth 100% o’n graddedigion Cyhoeddiadau Plant o hyd i waith neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach o fewn 6 mis ar ôl graddio: mae 44% yn rhedeg eu busnesau eu hunain.

Rydym yn anelu i sicrhau fod gan raddedigion Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru borffolio o waith ac ystod o sgiliau sydd nid yn unig yn eu helpu i gael gwaith o fewn y diwydiant dylunio a chyfryngau, ond hefyd yn eu helpu i hybu eu gyrfaoedd a gweithio o fewn ystod o senarios gwaith. Rydym yn meddwl ei bod yn bwysig iawn fod myfyrwyr yn gallu gweithio’n rhyngwladol. 

Cynnwys y cwrs

Mae eich astudiaethau arbenigol wrth galon y cwrs yma. Ynghyd â chefnogaeth diwtorial, rydym yn darparu modiwlau mewn arfer a methodolegau ymchwil i’ch helpu chi ddod o hyd i a datblygu syniadau a themâu. Byddwch yn cael cyfleoedd i gydweithredu a gweithio gyda myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill; gall hyn fod yn brosiect masnachol hefyd. Byddwch yn ymgymryd â thraethawd estynedig a chyflwyniad meistr. 

Asesu

Ar ddiwedd pob prif gyfnod, asesir eich gwaith yn gryno, ar ffurf beirniadaethau, seminarau, adolygiadau gan gyfoedion ac atborth unigol trwy diwtorialau. Mae asesu diwedd un y cwrs ar ffurf arddangosfa a sioe derfynol. Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith yn allanol i’r Brifysgol. Mae arddangosfa y Dylunwyr Newydd yn Llundain yn un enghraifft. 

Gofynion mynediad

Mae’n rhaid i chi fod â gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol. Os ydych yn dymuno ymuno â’r cwrs ar adeg ac eithrio dechrau’r rhaglen trwy gario credydau lefel meistr presennol, bydd eithriadau o gyfnod cynnar y cwrs yn cael eu hystyried.

Hyd y cwrs

Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk