Text begins here:
Cwnsela a Seicotherapi
MA Cwnsela a Seicotherapi*
Dyma gyfle i ennill MA mewn cwnsela a seicotherapi sy’n canolbwyntio ar y person ac ar brofiad. Bydd yn eich paratoi i weithio gyda phobl ifanc ac oedolion mewn sefydliadau ac wrth weithio ar eich liwt eich hun.
Os ydych am hyfforddi fel cwnselydd sy’n rhoi’r person yn ganolog i’ch gwaith – os ydych am gynnig y posibilrwydd o gael perthynas empathig a dilys gan yn y pen draw ddarparu perthynas therapiwtig effeithiol - mae angen i chi brofi gwirionedd yr honiadau yn ymwneud â chwnsela person-ganolog drosoch eich hun.
Mae hynny'n golygu eich bod angen cwrs sy’n cyd-fynd â'r safbwynt person-ganolog. Mae addysg sy’n canolbwyntio ar berson yn hollbwysig i Brifysgol Glyndŵr. Yn y cwrs hwn, mae’r cyflenwi a’r cynnwys wedi’u trwytho yn nealltwriaeth gyfoes y theori ac ymarfer a gyflwynwyd gan sylfaenwyr y ddamcaniaeth canolbwyntio-ar-y-cleient, sef Carl Rogers a'i gydweithiwr, yr athronydd a’r damcaniaethwr Eugene T. Gendlin:
- Derbyn yn empathig, peidio beirniadu, ac asesu sy’n onest ac yn ddidwyll er mwyn hwyluso potensial pobl. Gall y rhain ynddynt eu hunain fod yn ddigonol ar gyfer newid, gwella, a symud therapiwtig dwys.
- Mae symud therapiwtig yn fwy tebygol o ddigwydd, ac yn tueddu i fod yn gyflymach, pan fo unigolyn yn rhoi sylw gofalus a chyfeillgar funud-wrth-funud i’w profiad, yn ogystal ag i’r ffordd y caiff ei brosesu. Rhoddir pwyslais cyfartal ar y ddau agwedd hyn yn y traddodiad person-ganolog a chaiff chwarae a therapi mynegiant eu profi yng ngoleuni hynny. Caiff beirniadaethau eu hystyried hefyd. Rhoddir sylw i ddatblygiadau cyfoes megis y berthynas rhwng cwnsela ac ysbrydolrwydd; cysyniadau am y broses a sut mae'r rhain yn cysylltu â’r model meddygol; yn ogystal â phwysigrwydd therapiwtig tynerwch. At ei gilydd, mae'r cwrs yn eich paratoi ar gyfer eich lleoliadau clinigol, a chyflogaeth maes o law, yn gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion naill ai mewn sefydliadau neu mewn lleoliadau mwy entrepreneuraidd.
Prif ffeithiau
- Mae'r cwrs yn bodloni'r holl ofynion hyfforddi ar gyfer achredu unigol gyda'r Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi (BACP)
- Caiff y canolbwyntio ar brofiad ei addysgu a'i annog fel cymorth i ddatblygu eich ymwybyddiaeth eich hun ac mae’n rhywbeth y gallech ei gyflwyno yn eich ymarfer clinigol.
Hyd y cwrs
Rhan-amser
3 blynedd
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi
Cyn y cewch gynnig lle ar y cwrs hwn bydd gofyn i chi lenwi ffurflen y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a thalu'r ffi briodol, er mwyn gwirio a ydych yn addas ar gyfer gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.
* yn amodol ar gael ei ddilysu
Cyfleoedd gyrfa
Mae cwnsela a seicotherapi yn her bersonol a phroffesiynol. Bydd y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cwnsela mewn Ysgolion yng Nghymru yn cynyddu'r galw am gynghorwyr sydd wedi’u hyfforddi'n briodol, a bydd therapyddion effeithiol sydd wedi'u hyfforddi'n dda ac sy’n benderfynol o sefydlu eu hunain mewn practis preifat bob amser yn dod o hyd i gyfleoedd. Ymhle bynnag yr ydych am weld eich hun mewn pum mlynedd, os yw'n golygu gweithio fel cwnselydd neu seicotherapydd yna mae angen hyfforddiant cadarn arnoch, ac mae'n fwyfwy tebygol y byddwch hefyd angen cymhwyster cydnabyddedig o Brifysgol.
Gofynion derbyn
Mae angen gradd anrhydedd mewn cwnsela neu bwnc perthnasol neu gymhwyster cyfwerth. Derbynnir myfyrwyr i’r cyrsiau drwy gyfweliad a datganiad cais byr. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd â’r ymrwymiad angenrheidiol, yr aeddfedrwydd, profiad o fywyd, a’r cymhwysedd academaidd i elwa o’r hyfforddiant hwn.
Asesu
Cyn belled ag y bo modd, mae’r asesu yn dilyn model person-ganolog yn ymwneud â chyfrifoldeb ac atebolrwydd unigol. Caiff aseiniadau academaidd trylwyr eu monitro ar gyfer ansawdd academaidd a chynigir sylwadau arnynt fel rhan o'r sgwrs hyfforddi gyson. Maent yn cynnwys traethodau, adysgrifau, prosiect ymchwil a chyflwyniadau. Mae cwblhau'r lleoliadau clinigol yn rhan hanfodol o'r cwrs.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|