Celfyddyd Gain
MA Celfyddyd Gain
Mae’r cwrs MA Celfyddyd Gain yn rhoi cyfle gwych i chi ddatblygu eich creadigrwydd ac arloesedd mewn arfer Celfyddyd Gain. Dewiswch faes o astudiaeth bersonol trwy ystod o gyfryngau a dulliau: trwy luniadu, paentio, gwneud printiau neu gelfyddyd gosod. Byddwch yn datblygu sgiliau beirniadol ac yn hybu eich arfer artistig er mwyn cyflawni lefelau uchel o gyrhaeddiad.
Diolch i strwythur y cyrsiau meistr yn Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru, mae yna gyfle i archwilio eich syniadau mewn meysydd cysylltiedig o ddiddordeb arbenigol. Gallwch fynd â’ch gwaith i feysydd newydd trwy gydweithrediadau cytunedig, datblygu meysydd newydd trwy gydweithio’n agos gyda phobl eraill ar brosiectau ymchwil penodol a manteisio ar y cyfle i ailwerthuso eich arfer. Mae’r cwrs yn annog archwilio genres gwahanol i’r rhai sy’n bodoli’n barod.
Nodweddion arbennig
Mae gan yr Ysgol gysylltiadau gwych gydag ysgolion a phrifysgolion dylunio a chyfryngau eraill ledled y byd. Mae’r rhain yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymweliadau astudio posibl a chyfnewidfeydd myfyrwyr. Mae’r partneriaethau hyn yn cynnwys Academi Domus, Milan/Rhufain; Academi Italiana, Fflorens/Rhufain; Yr Academi Gelf a Dylunio yn Sofia; ICAT, Chennai, India a Phrifysgol Renmin, Beijing, Tsieina.
Cyfleoedd gyrfaol
Mae’r cyfleoedd i fyfyrwyr ar ddiwedd y cwrs yn dda iawn. Roedd 92% o’n holl raddedigion ac uwchraddedigion mewn gwaith cysylltiedig â’u gradd o fewn 12 mis ar ôl graddio.
Rydym yn anelu i sicrhau fod gan Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru bortffolio o waith ac ystod o sgiliau sydd nid yn unig yn eu helpu i ddod o hyd i swydd yn y diwydiant dylunio a chyfryngau, ond hefyd yn eu helpu i hybu eu gyrfaoedd a gweithio o fewn ystod o senarios gwaith. Credwn ei bod yn bwysig iawn i fyfyrwyr allu gweithio yn rhyngwladol.
Cynnwys y cwrs
Mae eich astudiaethau arbenigol wrth galon y cwrs yma. Ynghyd â chefnogaeth diwtorial, rydym yn darparu modiwlau mewn methodolegau ymchwil ac ymarfer i’ch helpu i ddod o hyd i a datblygu syniadau a themâu. Byddwch yn cael cyfleoedd i gydweithredu a gweithio gyda myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill; gall hyn fod yn brosiect masnachol yn ogystal. Byddwch yn ymgymryd â thraethawd estynedig a chyflwyniad meistr.
Asesu
Ar ddiwedd pob prif gyfnod, asesir eich gwaith yn gryno, ar ffurf beirniadaethau, seminarau, adolygiadau gan gyfoedion ac atborth unigol trwy diwtorialau. Mae asesu diwedd un y cwrs ar ffurf arddangosfa a sioe derfynol. Mae myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith yn allanol i’r Brifysgol. Mae arddangosfa y Dylunwyr Newydd yn Llundain yn un enghraifft.
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i chi fod â gradd anrhydedd mewn pwnc perthnasol. Os ydych yn dymuno ymuno â’r cwrs ar adeg ac eithrio dechrau’r rhaglen trwy gario credydau lefel meistr presennol, bydd eithriadau o gyfnod cynnar y cwrs yn cael eu hystyried.
Hyd y cwrs
Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd

