Astudiaethau Cwnsela gyda Phlant a Phobl Ifanc
MA Astudiaethau Cwnsela gyda Phlant a Phobl Ifanc
Mae yna ddiddordeb cynyddol drwy’r Deyrnas Unedig gyfan yn lles meddyliol plant ac oedolion ifanc, ac mae hyn yn ei gwneud yn amser cyffrous i astudio’r gangen benodol hon o gwnsela.
Mae cwnsela yn rhoi amgylchedd diogel a chyfrinachol i bobl ifanc fynegi a dod i ddeall eu teimladau, meddyliau ac emosiynau. Gall gynnig dealltwriaeth drwy therapi sy’n rhoi’r person yn ganolog. Pan geir problemau yn ymwneud ag ymddygiad, gall hwyluso cyfathrebu. Mae hefyd yn gallu rhoi cymorth mewn sefyllfa o wrthdaro teuluol.
Mae gofyn i gwnselwyr sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc fod â sgiliau gwrando rhagorol, amynedd, dealltwriaeth, a diddordeb mewn plant. Rhaid iddynt hefyd fod yn sensitif i anghenion plentyn, a bod yn ymwybodol o'u teimladau personol eu hunain tuag at faterion a allai godi yn ystod eu sesiynau cwnsela. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhaid i’r cwnselydd weithredu gan hysbysu gweithwyr proffesiynol eraill yn sgil gwybodaeth a ddatgelir yn ystod sesiwn cwnsela.
Mae'r rhaglen arloesol hon yn darparu addysg a hyfforddiant ôl-raddedig cychwynnol ar gyfer gweithio’n therapiwtig yn y byd cwnsela. Bydd yn eich arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth arbenigol y bydd eu hangen arnoch i weithio yn y maes hwn.
Prif ffeithiau
- Mae aelodau'r tîm yn gweithio, neu wedi gweithio, fel cwnselwyr, therapyddion chwarae a gweithwyr cymdeithasol mewn ystod o feysydd
- Mae dysgu drwy brofiad yn rhan annatod o'r rhaglen. Bydd yn cynyddu eich hunanymwybyddiaeth yn ogystal ag ymwybyddiaeth o sut yr ydych yn rhyngweithio â phobl eraill. Mae hyn yn hanfodol, oherwydd fel ymarferydd bydd yn rhaid i chi sylwi pryd y bydd eich anghenion chi eich hun yn amharu ar rai’r cleient ifanc
- Mae ymarfer yn elfen hanfodol o'r rhaglenni rhan-amser a llawn-amser fel ei gilydd
- Mae'r cwrs yn defnyddio cyfuniad integredig o addysgu wyneb-yn-wyneb a chymorth ar-lein
Hyd y cwrs
Rhan-amser
2 flynedd
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi
Cyn y cewch gynnig lle ar y cwrs hwn bydd gofyn i chi lenwi ffurflen y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a thalu'r ffi briodol, er mwyn gallu gwirio a ydych yn addas ar gyfer gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n agored i niwed.
Cyfleoedd gyrfa
Pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gennych ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r sgiliau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer ymarfer ac ymchwil. Byddwch yn gallu:
- delio â materion cymhleth cwnsela a therapi chwarae, a ffurfio barn wybodus ar gyfer pobl briodol eraill megis goruchwylwyr proffesiynol;
- gweithredu'n annibynnol i gynllunio, gweithredu, dadansoddi a gwerthuso eich gwaith; a
- dangos menter wrth fynd i’r afael â materion yn y gweithle a’u datrys.
Mae hwn yn faes sy'n esblygu, ac yn arwain at gyfleoedd cyflogaeth newydd ar draws ystod o gyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Yr ysgol fydd y prif ffocws ar gyfer datblygu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig, ac yng Nghymru yn enwedig. Mae cyrff gwirfoddol yn cynnig cwnsela i blant y mae'n well ganddynt gael eu gweld y tu allan i'r ysgol. Mae sefydliadau arbenigol, megis y Samariaid neu Gofal Galar CRUSE, yn gofalu am blant sydd ag anghenion penodol. Ac wrth gwrs mae yna hefyd gyfleoedd ar gyfer ymarfer preifat.
Cynnwys y cwrs
Gan ddefnyddio cyfuniad o ddysgu drwy brofiad a dulliau eraill o ddysgu ac addysgu, bydd y rhaglen hon yn rhoi modd i chi ddatblygu pob un o'r rhinweddau a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y maes hwn. Byddwch yn astudio ystod o faterion deddfwriaethol, polisi a damcaniaethol sy'n ymwneud â chwnsela plant a phobl ifanc. Mae'r cwrs yn cyfuno astudio pynciau a sgiliau penodol gydag archwiliad o werthoedd personol ac mae’n annog hunanymwybyddiaeth a datblygiad personol.
- Datblygiad Plentyn a Pherson Ifanc a Chwnsela a Therapi Chwarae
- Amgylchiadau a phroblemau mewn Cwnsela a Therapi Chwarae gyda Phlant a Phobl Ifanc
- Practicwm Cwnsela a Therapi Chwarae gyda Phlant a Phobl Ifanc 1
- Practicwm Cwnsela a Therapi Chwarae gyda Phlant a Phobl Ifanc 2
- Lleoliad Ymarfer dan oruchwyliaeth – Cwnsela a Therapi Chwarae gyda Phlant a Phobl Ifanc (100 awr)
- Cwnsela Plant a Phobl Ifanc yn y Cyd-destun Rhyngwladol
- Traethawd Estynedig
Gofynion derbyn
Os ydych yn gweithio mewn proffesiwn gofalu megis dysgu, gwaith cymdeithasol neu nyrsio byddwch yn addas ar gyfer y radd hon. Mae hyn oherwydd eich bod yn debygol o fod yn emosiynol aeddfed ac â’r profiad bywyd angenrheidiol i ddelio â gofid emosiynol plant a phobl ifanc bregus. Dylai fod gennych radd gyntaf neu gyfwerth, neu brofiad proffesiynol perthnasol. Rydym yn chwilio am bobl sydd yn gallu:
- arddangos aeddfedrwydd emosiynol;
- astudio’n barhaus, ac yn hunangyfeiriedig;
- mynegi gwybodaeth a dadleuon yn glir yn ysgrifenedig; a
- gweithio fel aelod o grŵp bach.
Rhaid i chi hefyd fod yn barod i ymgymryd â'r her o ddatblygu a chynyddu eich hunanymwybyddiaeth. Bydd disgwyl i chi gymryd mwyfwy o gyfrifoldeb am adnabod eich anghenion dysgu eich hun a gwneud defnydd o adnoddau sydd ar gael.

