|
|
||
|
|
Gwyddorau Chwaraeon ac YmarferMRes Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Mae’r radd MRes yma wedi ei chynllunio ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ym maes gwyddor chwaraeon ac ymarfer. Mae’r radd wedi ei chynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno cyrraedd y brig yn y maes hwnnw. Mae’r radd uwchraddedig hon wedi cael ei chynllunio i ddarparu cwrs hyblyg sy’n cynnwys modiwlau ymchwil ac a addysgir y gellir eu haddasu i’ch helpu i fynd ar drywydd y maes sydd o ddiddordeb i chi. Fel rhan o’r cwrs, byddwch yn cael y cyfle i gwblhau modiwl dysgu trafodedig sy’n eich galluogi i addasu eich gradd i gydfynd â’ch pwnc o ddiddordeb neu nod gyrfaol penodol. Er enghraifft, fe allech ddymuno ymgymryd â lleoliad cymwysedig wrth baratoi ar gyfer Profiad Goruchwyliedig BASES; datblygu ystod o ddefnyddiau marchnata i gyhoeddi digwyddiadau iechyd/ffitrwydd; neu gwblhau achos astudiaeth seiliedig-ar-waith. Pwrpas elfennau craidd y rhaglen yw darparu hyfforddiant strwythuriedig mewn methodoleg ymchwil a sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn hysbysu datblygiad cynnig ymchwil trefnus a dichonadwy.
Prif ffeithiau
Hyd y cwrsLlawn-amser: 1 flynedd Rhan-amser: 2 - 3 blynedd Lleoliad: Wrecsam Mis dechrau: Medi Fe allai fod yn angenrheidiol i rai myfyrwyr gael gwiriad CRB yn dibynnu ar ffocws eu hastudiaeth annibynnol. Cyfleoedd gyrfaMae’r radd unigryw yma wedi ei haddasu i ofynion penodol yr unigolyn, gan ei gwneud nid yn unig yn eithriadol o hyblyg ond hefyd yn berthnasol iawn yn y byd go iawn. Gallai’r MRes hefyd gael ei defnyddio fel sbringfwrdd i PhD. Modiwlau’r cwrs
Gofynion mynediadGwahoddir ceisiadau gan y rheiny sydd â gradd anrhydedd dosbarth 2:2 (neu uwch) ym maes gwyddor chwaraeon ac ymarfer (neu ddisgyblaeth berthnasol). Mae’n bosib hefyd yr ystyrir cymhwyster anraddedig a lleiafswm o ddwy flynedd o brofiad sy’n berthnasol i’r maes astudio, ac sydd ar y cyd yn cael eu hystyried gan Brifysgol Glyndŵr i fod o safon boddhaol ar gyfer mynediad i radd Meistr Ymchwil. AsesuAsesir y modiwlau mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys y cyfle i addasu rhai asesiadau i’ch gofynion eich hun. |
Am fwy o wybodaeth |