Doethuriaeth Broffesiynol
Pam dewis doethuriaeth broffesiynol?
Mae doethuriaeth broffesiynol yn fframwaith ble mae arfer proffesiynol yn darparu cyd-destun hanfodol ar gyfer llwybr strwythurol resymegol a threfnus i gyflawni gwobr lefel ddoethurol yn llwyddiannus. Nod y rhaglen yma yw cyfuno gwybodaeth academaidd a phroffesiynol gan arwain at ddarn o ymchwil estynedig a gwerth chweil. Wedi’i gyflwyno mewn thesis ac wedi’i arholi (ar ffurf viva) gan arbenigwyr, bydd hyn yn ffurfio cyfraniad annibynnol a gwreiddiol, academaidd a phroffesiynol i faes ymarfer dethol.
Pam y rhaglen yma?
Mae’r rhaglen Doethurol Broffesiynol yma wedi ei chynllunio i adlewyrchu gwybodaeth a phrofiad proffesiynol y myfyrwyr eu hunain fel y cyd-destun y maent yn ei gyfrannu i’w hastudiaeth. Yn ogystal â pharatoi i ymgymryd ag ymchwil academaidd, mae’n darparu cyfleoedd ar gyfer myfyrdod beirniadol trwy archwilio materion arweinyddiaeth a/neu faterion cymdeithasol-wleidyddol eraill o ddewis. Eir ar drywydd hyn yn annibynnol a’i drafod mewn tiwtorialau gyda thiwtor personol a bennir ar ddechrau’r rhaglen.
Yn amlwg, mae’r gallu i ymchwilio o fewn maes arbenigol yn dibynnu ar amrywiaeth eang o sgiliau a’r defnydd o arfer myfyriol. Gan hynny, mae’r rhaglen yma yn cynnig agwedd bwrpasol, gan wneud defnydd o’r holl adnoddau sydd ar gael o fewn y brifysgol i wella a datblygu gwybodaeth fel rhan o ddatblygiad proffesiynol pob myfyriwr unigol. Gyda hyn mewn golwg, mae’r graddau a ddyfernir yn rhai galwedigaethol berthnasol ac yn drylwyr yn academaidd, wedi eu cynllunio yn benodol i gynnig cyfle unigryw i ddatblygu safbwynt “cymwysedig” at ymchwil o fewn cyd-destun cysylltiedig â phwnc.
Graddau a ddyfernir o fewn y fframwaith yma:
Mae’r rhaglen yma wedi ei chynllunio yn benodol i annog gweithio o fewn grŵp a sefydlu proses o oruchwylio cyfoedion, felly mae strategaeth recriwtio â thema yn rhan o gynllun y rhaglen. Bydd hyn yn darparu strwythur ble gall y myfyrwyr ymwneud â charfan o fyfyrwyr eraill a staff academaidd er mwyn darparu ‘cymuned o ddysg’ yn ystod y cyfnod y byddant yn astudio.
• Doethur mewn Gwyddorau Iechyd (D.H.Sci)
• Doethur mewn Iechyd Cyhoeddus (Dr. P.H.)
• Doethur mewn Addysg (Ed. D.)
• Doethur Iechyd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (D.Health)
Bydd y llwybr trwy’r cwricwlwm yma yn cael ei drafod gyda’ch goruchwylydd personol er mwyn cynghori ymgeiswyr ynghylch dewisiadau eraill posib.

