Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

MSc Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Tystysgrif Uwchraddedig Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Diploma Uwchraddedig Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r sector gofal iechyd yn gorfod addasu i dueddiadau a pholisïau trwy’r adeg, gyda gweithwyr ym maes gofal iechyd yn gorfod arwain, trefnu a darparu gofal mewn amgylchedd cynyddol heriol sy’n newid trwy’r amser.

Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r cwrs yma wedi ei gynllunio ar gyfer ymarferwyr Gofal Cymdeithasol sy’n bwriadu symud eu gyrfaoedd ymlaen i gyfeiriad rheolaeth neu arweinyddiaeth. Mae’r rhaglen astudio wedi ei hanelu at ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi symud ymlaen i swyddi rheoli, neu’r rheiny sy’n gobeithio gwneud hynny.

Mae wedi ei gynllunio ar gyfer y rheiny sy’n amcanu i gymryd neu ddatblygu rôl  arweinyddiaeth o fewn y maes. Mae’r rhaglen astudio yn eich darparu gyda dewis eang o gyfleoedd dysgu.

Bydd y rhain yn eich galluogi i ganolbwyntio ar agwedd o reolaeth neu  arweinyddiaeth sy’n berthnasol i’ch swydd. Os ydych yn bwriadu aros mewn ymarfer nyrsio, mae yna opsiynau â ffocws clinigol ar gael. Amcan cyffredinol y cwrs yw eich darparu gyda’r wybodaeth i ategu datblygiad y sgiliau a ddynodwyd yn Fframwaith Nodweddion Arweinyddiaeth y GIG.

Prif ffeithiau

  • Yr hyblygrwydd mwyaf: dewiswch o blith ystod o fodiwlau opsiynol neu sicrhewch hyd at 40 credyd dysgu er mwyn cwrdd â’ch anghenion eich hun
  • Galluogi ymarferwyr i ddatblygu’r sgiliau arweinyddiaeth y mae swydd reolaethol yn gofyn amdanynt, neu gan ymarferwyr sy’n ceisio datblygu sgiliau rheolaethol
  • Mae nyrsys cofrestredig, bydwragedd a nyrsys iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol yn cael y cyfle i astudio modiwlau a gymeradwywyd gan y CNB. Bydd y rhain yn arwain at gydnabyddiaeth CNB neu gymwysterau CNB cofnodadwy
  • Cynnig y cyfle i astudio gydag ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol
  • Bydd y rhaglen yma yn cael ei datblygu yn barhaus yn ystod 2010/2011 er mwyn sicrhau ei bod yn dal yn ddefnyddiol i reolwyr Gofal Cymdeithasol 

Hyd y cwrs:

Rhan-amser
MSc: 3-5 mlynedd
Tystysgrif Uwchraddedig: 1-2 years
Diploma Uwchraddedig: 2-3 blynedd
Lleoliad: Wrecsam
Mis dechrau: Medi

Cyfleoedd gyrfa

Mae hyrwyddo sgiliau arweinyddiaeth yn uchel ar agenda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Ar bob lefel, gofynnir i gyflogedigion ymgymryd â rhaglenni wedi’u rhedeg gan wasanaeth. Cynlluniwyd y cwrs gradd er mwyn eich galluogi i integreiddio eich profiad yn y radd Meistr.
Bydd y cwrs hefyd yn eich paratoi i ymgymryd ag astudiaeth ar lefel Ddoethurol. Bydd yn hybu eich arbenigedd ymchwil, a dyma’r llwyfan delfrydol i ddatblygu eich sgiliau gwerthuso a synthesis tuag at wreiddioldeb meddwl.

Cynnwys y cwrs

Amcan cyffredinol y cwrs yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a mewnwelediadau newydd i arweinyddiaeth a rheolaeth o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fel sail ar gyfer datblygiad nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth.

Modiwlau’r cwrs

  • Dulliau ymchwil mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Materion Proffesiynol ac Arweinyddiaeth
  • Traethawd Hir

Modiwlau opsiynol

  • Gwerthuso a Datblygiad Theori ac Ymarfer (dysgu seiliedig-ar-waith)
  • Modiwlau trafodedig (hyd at 40 credyd)
  • Gofal Dynol
  • Mentora a Grymuso
  • Barn Broffesiynol a Gwneud Penderfyniadau
  • Arweinyddiaeth Glinigol a Barn Broffesiynol
  • Polisi ac Ymarfer Hybu Iechyd
  • Rhagnodi Annibynnol (V300)
  • Naratifau: Theori a Dull
  • Polisi ac Ymarfer Cymdeithasol

Gofynion mynediad

Mae angen i chi fod â gradd anrhydedd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol. Os nad oes gennych radd, fe allech gael mynediad os ydych wedi bod mewn swydd gyfrifol am o leiaf dwy flynedd sydd yn berthnasol i’r cynllun yr ydych yn gobeithio ymuno ag ef ac yn gallu profi eich gallu i astudio ar lefel Meistr.

Asesu

Gwaith ysgrifenedig, arholiadau byr ac, ar gyfer rhai modiwlau, portffolios.

 

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk