Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Ynni Adnewyddadwy a Thechnolegau Cynaliadwy

BEng (Anrh) Ynni Adnewyddadwy a Thechnolegau Cynaliadwy

Mae galw mawr am genhedlaeth newydd o reolwyr, peirianwyr a thechnegwyr gwybodus. Mae eu hangen arnom i ennill y ras i ddatblygu rhaglenni a thechnolegau ynni effeithiol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Rhoddwyd targed i’r Deyrnas Unedig i gael 15% o’i holl ynni – gan gynnwys o leiaf 30% o drydan – o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020. Yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael, roedd y trydan a gynhyrchid o ffynonellau adnewyddadwy yn 2009 yn cynrychioli 6.7% o gyfanswm cynhyrchiad trydan y DU, i fyny o 5.6% yn 2008 [ffynhonnell: yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (2010) Crynhoad o Ystadegau Ynni y Deyrnas Unedig].

Hefyd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn uchelgeisiol yn ymroddedig i sicrhau lefelau sero o ran carbon ym mhob cartref newydd erbyn 2016.  Gyrfa yn y maes ynni adnewyddadwy yw un o’r ffyrdd mwyaf cadarnhaol ac uniongyrchol y gallwch chi gyfrannu at y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a difrod amgylcheddol byd-eang.

Mae yna gynlluniau buddsoddi uchelgeisiol a gorchymyn gwleidyddol i lwyddo er mwyn cyflawni Cytundeb Kyoto a fabwysiadwyd yn 1997. Mae’r cwrs hwn yn annog myfyrwyr i ddysgu sut i wneud y gorau o gyfleoedd ar gyfer cynhyrchu carbon isel ac adnewyddadwy yn ogystal â microgynhyrchu a chynhyrchu ar raddfa gymunedol.

Ffeithiau allweddol

  • Labordai dylunio â chymorth cyfrifiadurol, labordai electroneg modern, meddalwedd dynwared systemau gweithgynhyrchu arbenigol, labordai offeryniaeth o safon diwydiant, cyfleuster Rapid Prototyping sydd o safon diwydiant (dull dyddodi ymdoddedig)
  • Labordy twnnel gwynt is-sonig a labordai deinameg thermohylifol llawn offer, gan gynnwys olwyn pelton a thyrbin francis sy’n gweithredu’n llawn
  • Maint dosbarthiadau yn fach sy’n golygu cyngor a chefnogaeth gref yn y tiwtorialau ac wrth arbrofi yn y labordy
  • Mae cyfleoedd ar gyfer ymweliadau diwydiannol i gwmnïau lleol
  • Byddwch yn cael gwneud defnydd o becynnau meddalwedd safon diwydiant megis: Altium Designer, EWB Multisim, HP VEE, MATLAB & Simulink, ABAQUS, AutoCAD, Fluent, ProEngineer, SolidWorks
  • Byddwch yn gymwys i ymuno â’r Sefydliad Ynni (EI) ac/neu’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) ac/neu Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) ac/neu Gymdeithas y Peirianwyr Adeiladu (ABE), fel aelodau myfyrwyr, ar ôl talu ffi
  • Os ydych ar yr FdEng byddwch yn gymwys i ymuno â’r Sefydliad Ynni (EI) ac/neu’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) ac/neu Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) ar lefel Technegydd Peirianneg. Caiff darpar aelodau eu gwahodd i gyfweliad, a phennir ffioedd aelodaeth yn ôl gradd, statws a chyfrifoldebau

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

Mae sylfaen ein cyrsiau yn eang, er mwyn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau a’r gallu i gyfrannu at gynllunio systemau a phrosesau ynni adnewyddadwy wrth ddiwallu gofynion y dyfodol ym marchnadoedd y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.

Cyfleoedd gyrfa

Gallwch weithio fel peiriannydd dylunio graddedig mewn meysydd electroneg a lloeren, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol, neu fynd i yrfa ymchwilio, astudio ymhellach ar lefel MSc, neu gael gyrfa yn dysgu neu’n darlithio.

Cynnwys y cwrs

BEng (Anrh) Ynni Adnewyddadwy a Thechnolegau Cynaliadwy

Mae hwn yn gwrs hynod unigryw yn y Deyrnas Unedig oherwydd y cyfuniad o astudio a gynigir ganddo. Mae’r cwrs yn cynnwys elfennau o beirianneg drydanol a mecanyddol, yn ogystal ag ymdrin â’r amgylchedd adeiledig a gwyddoniaeth.

Asesu

Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd ag aseiniadau, arbrofion labordy, astudiaethau achos a CAD. Bydd cyfuniad o’r rhain yn ffurfio rhan o’ch asesiad ynghyd ag arholiadau ffurfiol. Ni cheir arholiadau ffurfiol yn y flwyddyn gyntaf.

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydedd yw o leiaf 240 pwynt UCAS yn lefel A2 neu gyfatebol. Fe allai profiad addas gael ei dderbyn yn hytrach na chymwysterau ffurfiol, yn amodol ar gyfweliad.

Côd UCAS

Llawn amser: HH36
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5-6 mlynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk