Therapïau Cyflenwol ar gyfer Gofal Iechyd
BSc (Anrh) Therapïau Cyflenwol ar gyfer Gofal Iechyd
Mae’r cwrs gradd Therapïau Cyflenwol ar gyfer Gofal Iechyd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu paratoad proffesiynol mewn therapi meddygaeth gyflenwol. Yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o athroniaeth meddygaeth gyflenwol, byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth am wyddorau iechyd, ymchwil a sgiliau therapiwtig.
Ar ddiwedd y cwrs gradd byddwch yn gallu mynd ar drywydd gyrfa lawn her a boddhad mewn aromatherapi, tylino, ac adweitheg.
Ffeithiau allweddol
- Mae’r graddau yn cwmpasu ystod o sgiliau therapiwtig mewn meddygaeth gyflenwol
- Achredir y cwrs gradd Meddygaeth Gyflenwol mewn Ymarfer gan Ffederasiwn y Therapyddion Cyfannol ac achredir y cwrs gradd Meddygaeth Dsieinaidd (Acwbigo) gan y Gymdeithas Meddygaeth Dsieineaidd Draddodiadol
- Mae gan Brifysgol Glyndŵr glinig ar y campws ble byddwch yn gallu cael yr holl brofiad sydd arnoch ei angen i fod yn glinigydd cymwys a phroffesiynol
- Bydd astudio’r cwrs gradd Therapïau Cyflenwol mewn Ymarfer yn eich galluogi i fod yn gymwys ar gyfer Ffederasiwn y Therapyddion Cyfannol (FHT) fel aelod dan hyfforddiant ac yn yr un modd bydd y cwrs gradd Meddygaeth Dsieineaidd (Acwbigo) yn eich galluogi i ymuno â’r Gymdeithas Meddygaeth Dsieineaidd Draddodiadol (ATCM) fel aelod dan hyfforddiant. Unwaith y byddwch yn gymwys, byddwch yn gallu hysbysu’r corff perthnasol o’r newid yn eich statws o fod yn fyfyriwr i fod yn ymarferydd
- Mae’r pwyslais arnoch chi yn cael profiad ymarferol yn ein clinig yn ogystal â dysgu sgiliau busnes allweddol i’ch galluogi i sefydlu eich busnes eich hunain pe baech yn dewis dilyn y llwybr gyrfaol yma
Cyfleoedd gyrfa
Mae’r cyfleoedd gyrfa yn cynnwys:
- hunangyflogaeth yn y sector preifat
- gweithio mewn canolfan therapi neu ganolfan ailhyfforddi chwaraeon
- addysgu
- astudio PhD neu radd Meistr
- Mae llawer o’n graddedigion meddygaeth gyflenwol yn sefydlu eu busnesau eu hunain
