Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Therapi Galwedigaethol

BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol

Therapi Galwedigaethol yw asesu a thrin cyflyrau corfforol a meddyliol drwy weithgarwch penodol, ystyrlon er mwyn atal anabledd a hyrwyddo annibyniaeth ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd.

Prif nod Therapi Galwedigaethol yw cynnal neu adfer gallu’r person a gofynion eu swyddi. Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio gyda phobl o bob oed sydd ag anableddau corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac anawsterau dysgu. Maent yn gweithio gyda phobl sydd â phroblemau cymhleth, pobl â mân anawsterau ymdopi a’r rhai sy’n gweithredu’n iawn ond yn dymuno cynnal a hyrwyddo eu lles eu hunain.

Bydd Therapydd Galwedigaethol yn asesu anghenion y person ac yna yn llunio rhaglen driniaeth a fydd yn galluogi’r person hwnnw i fyw mor annibynnol â phosibl. Caiff y triniaethau hyn eu hadolygu yn rheolaidd er mwyn gwerthuso cynnydd y person ac addasu’r driniaeth fel y bo angen.

Ffeithiau allweddol

  • Dyma’r unig radd therapi galwedigaethol ran-amser yng Ngogledd Cymru
  • Mae’r lleoliadau ymarfer yn ffurfio tua un traean o’r rhaglen ac fe gânt eu trefnu o fewn pellter teithio o’ch cartref lle bo hynny’n bosib. Mae un gweithdy preswyl penwythnos sydd wedi’i leoli’n ganolog
  • Mae’r cwricwlwm yn rhoi ystyriaeth gyfannol i ofal cleient gan integreiddio theori ag ymarfer
  • Gallwch fanteisio ar y bartneriaeth rhwng y cyrsiau Therapi Galwedigaethol a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor, gan roi modd i chi gael mynediad at staff ac adnoddau corfforol ledled Cymru
  • Mae mynediad i’r cwrs radd yn dod ag aelodaeth myfyriwr awtomatig o’r Coleg Therapyddion Galwedigaethol (COT) yn ei sgil. Ar ôl cwblhau’r radd byddwch yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd ac aelodaeth lawn o’r COT
  • Mae’r cwrs wedi ei gymeradwyo ar y gwerth uchel y mae’n ei roi ar gefnogi myfyrwyr yn eu hastudiaethau
  • Mae cyllid ar gael drwy Lywodraeth Cynulliad i dalu am ffioedd cwrs nifer o leoedd ar y rhaglen

Cyfleoedd gyrfa

Bydd graddedigion yn gallu cofrestru fel Therapydd Galwedigaethol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd, gan roi hawl iddynt weithio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU a thramor.

Cynnwys y cwrs

BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol

Cewch eich cyflwyno i’r prif themâu, athroniaethau, rolau a chyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â Therapydd Galwedigaethol, gan ddatblygu sgiliau ymarferol yn ogystal â sgiliau generig, trosglwyddadwy. Wrth i chi symud drwy’r cwrs byddwch yn canolbwyntio ar themâu camweithredu ac ymyrraeth therapiwtig, integreiddio prosesau therapiwtig, ystyriaethau moesegol, athroniaethau rheoli a deddfwriaeth. Drwy gydol y cwrs byddwch yn mynd ar leoliadau ymarfer a fydd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau asesu, cynllunio, ymyrryd a gwerthuso beirniadol.

Asesu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu trwy gydol y cwrs gan gynnwys aseiniadau canolfan-seiliedig cleientiaid, traethodau, cyflwyniadau llafar a phoster, portffolios, traethawd estynedig ac arholiadau viva.

Gofynion mynediad

O leiaf Lefel A2 neu gyfwerth a thystiolaeth o brofiad bywyd/gwaith perthnasol

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr aeddfed ac ystyrir ceisiadau yn unigol ac yn ôl teilyngdod. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod wedi cwblhau Lefel-A TAG neu gymhwyster safonol cyfwerth cyn cychwyn y cwrs. Mae cymwysterau a ystyrir yn gyfwerth â Lefel-A TAG yn cynnwys Diploma Cenedlaethol BTEC (Gwyddoniaeth neu Astudiaethau Iechyd), GNVQ, cwrs mynediad neu fodiwlau Prifysgol Agored. Mae sgiliau technoleg gwybodaeth o fantais hefyd.

Os oes gennych gymwysterau ffurfiol gydag o leiaf 260 pwynt UCAS yn Lefel-A TAG neu gyfwerth, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o brofiad gwaith/bywyd perthnasol yr un fath. 

Rhan amser: cais uniongyrchol

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am lefydd wedi’u hariannu yw’r 31ain o Ionawr 2012. Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried ar gyfer llefydd a hunan-ariennir. 

Hyd

Rhan amser: 4 blynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk