Theatr a Pherfformio
BA (Anrh) Theatr, Teledu a Pherfformio
Ewch â’ch actio i lefel gyfan gwbl newydd, neu i unrhyw gyfeiriad creadigol fel y mynnwch chi! Dewch i ddarganfod cyfleoedd newydd ar y llwyfan, o flaen y camera ac yn y gymuned leol.
Mae cysylltiad agos wastad wedi bod rhwng actio a pherfformio ar gyfer y teledu a’r theatr. Ond bydd angen casgliad trawiadol o sgiliau arnoch i wneud yn si ˆw r eich bod yn disgleirio yn y ddau.
Mae ein gradd newydd Theatr, Teledu a Pherfformio yn rhoi’r sgiliau sylfaenol i chi ar gyfer bywyd yn y theatr - boed ar y llwyfan, mewn theatr gymhwysol, gweithio yn y gymuned, neu mewn meysydd eraill yn y byd theatr a chyfathrebu. Bydd yn esgor ar opsiynau gyrfa llawer pellach yn ogystal.
Byddwch yn datblygu sgiliau siarad cyhoeddus diguro a bod â’r sgiliau rheoli a threfnu i wneud gwahaniaeth.
Ffeithiau allweddol
- Canolfan celfyddydau berfformio newydd £3m ar gyfer ymarfer a pherfformiadau byw
- Mae gennym gysylltiadau diwydiannol â sefydliadau theatr proffesiynol, gan gynnwys Clwyd Theatr Cymru, sy’n golygu profiad gwaith penigamp i chi, gan gynnwys cyfleoedd i weithio gydag enwau adnabyddus
- Cyfleoedd profiad gwaith unigryw gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau sector cyhoeddus fel y GIG
- Theatr deithiol - perfformiwch sioeau sydd â thema materion cyfoes i bobl ifanc mewn ysgolion
- Gallwch weithio ar gynyrchiadau Cymraeg
- Prosiectau yn seiliedig ar y cyfryngau a fydd yn ehangu eich sgiliau ac yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy – cewch weld sut mae perfformio ar y llwyfan yn wahanol i berfformio ar gyfer teledu, ffilm a radio; cewch weld beth sy’n digwydd yng nghefn y llwyfan – mae gennych y dewis i ganolbwyntio eich sylw ar gyfarwyddo neu sain a goleuadau
- Amrywiaeth o ddulliau asesu - o draethodau sy’n seiliedig ar theori i arwain eich gweithdy drama eich hun neu lunio darn o theatr ar gyfer pobl ifanc
- Dewch i ddarganfod sut y mae grym y theatr wedi effeithio ar fywydau cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o bobl dros gyfnod o amser yng Nghymru, y DU a thramor
- Cyfle i loywi eich eglurder lleisiol a meithrin sgiliau newydd wrth symud
Cynnwys nodweddiadol y cwrs:
- Drwy gymysgedd o’r ymarferol a theori, bydd y radd yn datblygu eich sgiliau darllen ar gyfer y llwyfan, y testun mewn perfformiad, cyfarwyddo a’r broses perfformiad uwch. Mae meysydd astudio yn cynnwys drama yn y gymuned, ymarfer actio, astudiaethau symud, perfformio teledu, drama gymhwysol, y ddrama ym Mhrydain ar ôl y rhyfel, perfformio byw, cyfarwyddo ar gyfer y theatr, profiad gwaith.
Cyfleoedd gyrfa
- actio
- cyfarwyddo
- rheoli theatr
- teithio gyda gwaith theatr mewn addysg
- cynhyrchu teledu a radio
