Seicoleg Marchogaeth
Pam dewis Seicoleg Marchogaeth?
Mae’r cwrs yn archwilio’r bartneriaeth unigryw rhwng y ceffyl a’r marchog yn ystod hwsmonaeth, hyfforddi a chystadlu. Mae’n anelu i ddatblygu dealltwriaeth o ymddygiad ceffylau, seicoleg marchogion a’u hymddibyniaeth ac yn amlygu pwysigrwydd lles ceffylau. Bydd yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni trwy astudio ymddygiad ceffylau a seicoleg chwaraeon ynghyd â dulliau hyfforddi mewn theori ac ymarfer. Bydd y cwrs yn darparu pecyn cytbwys o sgiliau a gwybodaeth sydd yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n bwriadu gweithio yn y diwydiant ceffylau. Y mae’r un mor addas ar gyfer y rheiny sy’n dymuno mynd i broffesiwn sy’n gysylltiedig â’r diwydiant gan ei fod yn cyfuno sylfaen wyddonol gadarn ynghyd â sgiliau ymchwil.
Bydd y cwrs gradd yn darparu myfyrwyr gyda’r sgiliau trosglwyddadwy sydd yn angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth. Byddant yn gallu cymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol a galluoedd ymarferol i’r cyd-destun gwaith ac yn arddangos dulliau o ymchwil, ymholi a gwerthuso beirniadol wrth ddelio gyda phroblemau damcaniaethol ac ymarferol. Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm ac yn gallu myfyrio yn feirniadol.
Nodweddion arbennig
- Defnydd o’r cyfleusterau yng nghampws Wrecsam Prifysgol Glyndŵr a’i gampws gwledig yn Llaneurgain, Sir Fflint.
- Cyfleusterau marchogol ymarferol rhagorol yn Llaneurgain.
- Mynediad i gyrsiau byrion ychwanegol a digwyddiadau marchogol a gynhelir ar gampws Sir Fflint.
- Byddwch yn cael cyfle i sefyll arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain (y BHS).
- Mae yna gyfle i astudio ymddygiad ceffylau a seicoleg chwaraeon dynol o fewn y cwrs.
- Amrywiaeth o siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol i alluogi dysg o fewn y cyd-destun gwaith.
- Defnydd o bortffolio datblygiad personol (PDP) trwy gydol y flwyddyn a fydd yn galluogi dysgwyr i fyfyrio ynghylch datblygiad y sgiliau sydd arnynt eu hangen ar gyfer cyflogaeth.
- Cyrsiau blaengar sy’n ymateb i arbenigedd datblygol o fewn y sector marchogol.
- Yr unig gwrs o’i fath yng Nghymru, ac yn un o ddim ond dau yn y DU.
Cyfleoedd gyrfaol
Disgwylir y bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i yrfaoedd o fewn y diwydiant ceffylau neu’n gysylltiedig ag ef. Bydd y cyrsiau hyn yn paratoi graddedigion ar gyfer gyrfaoedd sy’n gwneud defnydd o seicoleg marchogaeth, e.e. gwaith elusennol yn ymwneud â lles ceffylau, hyfforddi marchogion gan ddefnyddio dulliau cyfredol, neu sy’n gysylltiedig â’r maes pwnc mewn rhyw ffordd megis gyrfa mewn rheolaeth buarth marchogol masnachol.
Os byddwch yn cwblhau’r FdSc Seicoleg Marchogaeth yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i’r radd anrhydedd a chwblhau’r cwrs gydag un flwyddyn ychwanegol o astudiaeth lawn amser. Gall graddedigion o’r BSc (Anrh) Seicoleg Marchogaeth ddewis symud ymlaen i astudio ar lefel uwchraddedig.
Bydd y radd hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth o fewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r diwydiant ceffylau, er enghraifft, ymchwil a gwaith ymgynghori neu fe allant symud ymlaen i astudio ar lefel uwchraddedig.
Sut byddaf yn cael fy asesu?
Asesir y cyrsiau Gradd Sylfaen a BSc (Anrh) yn ôl gwaith cwrs yn unig.
