Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Seicoleg

BSc (Anhr) Seicoleg

Seicoleg yw gwyddoniaeth y meddwl, a dywedir mai’r ymennydd dynol yw’r peiriant mwyaf cymhleth ar y ddaear. Mae’r radd hon yn agor y drws i astudiaethau eang ar ffynhonnell meddyliau ac ymddygiad.

Seicoleg yw astudiaeth o’r meddwl dynol ac ymddygiad pobl yn ogystal â’r syniadau, teimladau a’r cymhelliant sy’n sail i’r ymddygiad hwnnw. Mae’n un o’r ychydig bynciau sydd yn uniongyrchol berthnasol i fywyd pawb. Bydd gradd mewn seicoleg yn rhoi dealltwriaeth strwythuredig i chi ynghylch pam y mae pobl yn ymddwyn fel y maent.

Ffeithiau allweddol

  • Mae’r radd hon yn cynnig astudiaeth gynhwysfawr o seicoleg gyfoes a hyfforddiant ar sylfaen wyddonol seicoleg. Caiff ei ddarparu gan staff profiadol a brwdfrydig
  • Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o themâu a mathau o seicoleg
  • Mae’r cwrs gradd hwn wedi’i achredu gan Gymdeithas Seicoleg Prydain (BPS)
  • Caiff y radd ei dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, dosbarthiadau ymarferol, gwaith prosiect ac ymarferion cyfrifiadurol (e.e. mewn dulliau ymchwil ac ystadegau)
  • Drwy gydol y cwrs byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy cyflwyno yn llafar ac yn ysgrifenedig, cyfathrebu rhyngbersonol, arwain,
  • gwaith tîm a rheoli amser – sgiliau sydd oll yn hanfodol i lawer o yrfaoedd
  • Bydd siaradwyr gwadd arbenigol ac ymweliadau allanol yn rhan o’r cwrs
  • Mae’r cyfleusterau a ddefnyddir ar y cwrs yn cynnwys labordy seicometrig, labordai addysgu sydd â chyfleusterau cyfrifiadurol modern, lab perfformiad chwaraeon â thechnoleg uwch, ciwbicl arbrofion a labordy efelychu
  • Mae yma ddiwylliant ymchwil sy’n ffynnu, ac sy’n ymdrin ag ystod eang o feysydd seicoleg, gan gynnwys seicoleg iechyd, seicoleg wybyddol, seicoleg gymdeithasol, a’r gwahaniaethau rhwng unigolion

Dysgu ymarferol mewn seicoleg

Cyfleoedd gyrfa

Mae gradd mewn seicoleg yn agor i amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys:

  • Seicoleg addysg
  • Seicoleg alwedigaethol
  • Seicoleg iechyd
  • Seicoleg cwnsela

Dewis arall yw mynd ymlaen i hyfforddiant ôl-raddedig, ymchwilio neu ddysgu.

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

Caiff natur wyddonol seicoleg ei bwysleisio trwy gydol y cwrs, gyda modiwlau penodol yn ymwneud â: seicoleg gymdeithasol, seicoleg ddatblygiadol, gwahaniaethau unigol, seicoleg wybyddol, a seicobioleg. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ymchwil ac ystadegol drwy sesiynau ymarferol rheolaidd yn y labordy ac yn rhan olaf y cwrs byddwch yn cwblhau prosiect sylweddol ar bwnc o’ch dewis.

Cynnwys y cwrs

BSc (Anhr) Seicoleg

Drwy’r cwrs cyfan byddwch yn ennill gwell dealltwriaeth o ryngweithio cymdeithasol, datblygiad yr unigolyn a’r ffordd y mae’r ymennydd yn dehongli’r wybodaeth yr ydym yn delio â hi o ddydd i ddydd. Os ydych erioed wedi pendroni ynghylch ymddygiad pobl, a gofyn pam eu bod yn ymateb fel y maent neu wedi meddwl tybed sut y mae’r ymennydd dynol yn gweithio, yna bydd astudio’r radd hon yn ddelfrydol ar gyfer eich meddwl chwilfrydig ac yn eich helpu i ddod i ddeall hyn i gyd.

Asesu

Fe’ch asesir gan gyfuniad o waith cwrs (traethodau, portffolios ac adroddiadau ymarferol), cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd gofyn i chi wneud traethawd estynedig fel rhan o’ch asesiad blwyddyn olaf.

Gofynion mynediad

Bydd angen 260 pwynt UCAS arnoch yn lefel A neu gyfatebol, a TGAU neu gyfatebol mewn Mathemateg a Saesneg. Byddai pwnc gwyddonol o fantais, ond heb fod yn hanfodol. Croesewir ceisiadau gan unrhyw un sy’n arddangos y gallu a’r profiad i ymdopi gyda gofynion y rhaglen. Mae yna drefniadau mewn grym ar gyfer achredu profiad blaenorol: mae’n bosibl cael mynediad i’r crws gradd dan achrediad dysgu blaenorol a/neu brofiadol.

Yn yr un modd, croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol sy’n gallu arddangos gallu a phrofiad i ymdopi gyda gofynion y rhaglen. Dylai myfyrwyr nad ydyw eu mamiaith yn Gymraeg neu Saesneg fod â lleiafswm o 5.5 pwynt IELTS (English for International Opportunity) ym mhob un o bedwar maes iaith: siarad, ysgrifennu, gwrando a darllen.

Gweler y gofynion cyffredinol.

Côd UCAS

Llawn amser: C800
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk


Extra Cymdeithas Seicolegol Prydain (The BPS) Achredir y rhaglen fel un sy’n rhoi cymhwyster i’r Sail Raddedig ar gyfer Aelodaeth Siartredig, ar yr amod y cyflawnir y safon dderbyniol isaf o radd Anrhydedd dosbarth is. Dyma’r cam cyntaf tuag at fod yn Seicolegydd Siartredig.