Text begins here:
Saesneg
BA (Anrh) Saesneg
BA (Anrh) Saesneg a Hanes
BA (Anrh) Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Ydych chi’n mwynhau darllen, ysgrifennu a thrafod llyfrau a syniadau? Astudiwch hanesion hynod ac amrywiol llenyddiaeth o Brydain ac o bedwar ban y byd.
Mae gweithiau llenyddol Saesneg bob amser wedi adlewyrchu diwylliant cyfoethog y cyfnod yr ysgrifennwyd hwy ynddynt. Yn y cwrs hwn cewch y cyfle i werthfawrogi pam. Mae ein gradd Saesneg yn eich helpu chi i ddatblygu i fod yn feirniad caboledig ar farddoniaeth, rhyddiaith a drama – yn ogystal ag yn awdur aeddfed eich hun.
Ffeithiau allweddol
- Ymdrinnir â thestunau o Brydain, Ewrop ac America
- Dysgu annibynnol – canolbwyntiwch ar arddull lenyddol neu gyfnod penodol o’ch dewis chi ar gyfer eich traethawd hir yn y flwyddyn olaf
- Trafodaethau bywiog – cewch rannu eich hoffter o lenyddiaeth â myfyrwyr o’r un anian â chi
Cynnwys nodweddiadol y cwrs:
- theori feirniadol
- cyflwyniad i ddrama a ffilm
- cyflwyniad i naratif
- cyflwyniad i farddoniaeth
- addasu Shakespeare
- ysgrifennu ym Mhrydain wedi’r rhyfel
- ysgrifennu rhamantaidd a Fictoraidd
- llenyddiaeth y byd
- moderniaeth a diwylliant
- ysgrifennu ôl-fodern ac ôl-drefedigaethol
- rhywedd, rhywioldeb ac ysgrifennu
- traethawd hir: ymchwil bersonol
Cyfleoedd gyrfa
Bydd sgiliau o’ch gradd Saesneg yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth o rolau ac amgylcheddau, gan gynnwys: llywodraeth leol, rheoli, cyhoeddi neu farchnata. Gallai astudiaeth bellach ar lefel ôl-raddedig arwain at yrfa mewn newyddiaduraeth, dysgu, y gyfraith neu amgueddfeydd.
Cynnwys y cwrs
BA (Anrh) Saesneg
Os ydych wrth eich bodd yn darllen, yn ysgrifennu ac yn mynegi eich syniadau a’ch barn am lyfrau a syniadau, dyma’r cwrs i chi. Cewch ddatblygu gwerthfawrogiad eang o lenyddiaeth Saesneg mynd i’r afael â damcaniaethwyr a damcaniaethau beirniadol a dod i ddeall yn llawn gyd-destun cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ysgrifennu.
Asesu
Defnyddir ystod o ddulliau asesu ar y cwrs yma gan gynnwys: aseiniadau gwaith cwrs, arholiadau heb eu gweld, porffolios, cyflwyniadau dosbarth ac ymchwiliadau/adroddiadau llenyddol a thraethawd estynedig.
Gofynion mynediad
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yma yw 240 pwynt yn lefel A level neu gyfwerth. Yn ddelfrydol, byddwch wedi astudio lefel A Saesneg.
Côd UCAS
Llawn amser: Q300
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd Rhan amser 6 blynedd
BA (Anrh) Saesneg a Hanes
Astudiwch themâu o hanes Cymru, Prydain ac Ewrop yn yr Oesoedd Canol hyd at gyfnod y Dadeni a hanes Modern, a hynny ochr yn ochr â’r Saesneg. Mae hwn yn ategiad academaidd perffaith at astudio Saesneg; gallwch gyfuno eich rhuglder fel darllenydd ac awdur â sgiliau ymchwilio a beirniadol yr hanesydd.
Asesu
Defnyddir ystod o ddulliau asesu ar y cwrs yma gan gynnwys: aseiniadau gwaith cwrs, arholiadau heb eu gweld, porffolios, cyflwyniadau dosbarth ac ymchwiliadau/adroddiadau llenyddol a thraethawd estynedig.
Gofynion mynediad
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yma yw 240 pwynt yn lefel A level neu gyfwerth. Yn ddelfrydol, byddwch wedi astudio lefel A Saesneg.
Côd UCAS
Llawn amser: QV31
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd Rhan amser 6 blynedd
BA (Anrh) Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Os yw eich hoffter o’r Saesneg yn gwyro yn fwy tuag at ysgrifennu yn hytrach na darllen, yna dyma’r llwybr i chi. Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu yn greadigol ar gyfer oedolion a phlant mewn barddoniaeth a rhyddiaith ac ar gyfer y radio a’r sgrîn.
Asesu
Defnyddir ystod o ddulliau asesu ar y cwrs yma gan gynnwys: aseiniadau gwaith cwrs, arholiadau heb eu gweld, porffolios, cyflwyniadau dosbarth ac ymchwiliadau/adroddiadau llenyddol a thraethawd estynedig.
Gofynion mynediad
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yma yw 240 pwynt yn lefel A level neu gyfwerth. Yn ddelfrydol, byddwch wedi astudio lefel A Saesneg.
Côd UCAS
Llawn amser: WQ83
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd Rhan amser 6 blynedd
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|