Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Rheolaeth a Diogelwch Rhwydwaith Cyfrifiadurol

BSc (Anrh) Rheolaeth a Diogelwch

Mae systemau a rhwydweithiau cyfrifiadurol yn cysylltu pobl a busnesau ar raddfa fyd-eang. Mae busnes a diwydiant yn dibynnu ar dechnolegau rhwydwaith amrywiol, ac mae galw mawr am weithwyr proffesiynol i gynllunio a rheoli systemau rhwydwaith effeithlon.

Mae hwn yn gwrs sy’n llawn dop o dechnoleg ac mae’n cynnwys cymysgedd o fodiwlau technoleg, rhwydweithio a diogelwch a llwythi o gyfleoedd ymarferol. Mae pwyslais ar osod, gweithredu, diogelwch, a chynnal systemau cyfrifiadurol a rhwydweithiau sy’n cael eu defnyddio mewn busnes a diwydiant. Bydd

y cwrs yn eich arfogi â’r sgiliau hanfodol nid yn unig er mwyn gallu cynllunio a gweithredu systemau, ond hefyd i’w rheoli yn effeithiol a sicrhau fod y bobl sy’n eu defnyddio yn elwa ar eu potensial llawn. Byddwch yn dysgu sut i reoli, dylunio, gweithredu, ffurfweddu, a gweithredu rhwydweithiau diogel yn broffesiynol.

Cewch ddysgu hefyd sut i adnabod ystod o fygythiadau i ddiogelwch rhwydwaith yn ogystal â llunio a gweithredu strategaethau a mecanweithiau amddiffyn.

Ffeithiau allweddol

  • Cyfleusterau helaeth o ran cyfrifiaduron sydd â mynediad i’r rhyngrwydLabordy cyfrifiaduron arbenigol sy’n bwrpasol ar gyfer rhwydweithio cyfrifiadurol
  • Mae’r maes pwnc cyfrifiadura wedi’i gydnabod gan Academi Cisco. Cewch y cyfle i gwblhau cymhwyster Partner Rhwydwaith Ardystiedig Cisco (CCNA) wrth i chi astudio ar gyfer eich gradd
  • Defnyddir offer diweddaraf Systemau Cisco yn ein sesiynau ymarferolCeisir achrediad ar gyfer y radd anrhydedd gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS) a fyddai’n golygu y byddech yn cael eich eithrio o ran 1 a rhan 2 o Arholiadau Proffesiynol y Gymdeithas
  • Mae’r cwrs hwn yn ymateb i fylchau sgiliau cydnabyddedig a byddwch yn datblygu’r ddealltwriaeth feirniadol, y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael gwaith cyflogedig llwyddiannus
  • Mae’r Brifysgol yn gartref i CAIR – sef canolfan ymchwil adnabyddus am ymchwil gymwysedig yn ymwneud â’r rhyngrwyd
  • Caiff y Brifysgol ei chydnabod am ei hymchwil blaenllaw yn y maes Rhwydweithiau

Cynnwys nodweddiadol y cwrs

Byddwch yn gweithio ar gynllunio, gosod a chefnogi LANs (rhwydweithiau ardal-leol), WANs (rhwydweithiau ardal-eang), systemau rhyngrwyd a mewnrwyd. Byddwch yn dysgu sut i ddarparu cymorth gweinyddol ar y safle o ddydd i ddydd i ddefnyddwyr meddalwedd mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwaith, gan gynnal a chadw rhwydwaith caledwedd a meddalwedd, dadansoddi problemau, monitro rhwydweithiau, casglu data er mwyn gweld beth yw anghenion cwsmeriaid ac yna nodi, dehongli a gwerthuso gofynion system a rhwydwaith.

BSc (Anrh) Rheolaeth a Diogelwch Rhwydwaith Cyfrifiadurol

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn dysgu sut i weithio o fewn cyfyngiadau masnachol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel y rhain: y gallu i reoli eich dysg eich hun a’ch datblygiad personol a phroffesiynol; cyfathrebu’n effeithiol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu; cyflwyno a dehongli cyfrifiadau rhifau yn briodol; sgiliau adalw gwybodaeth yn effeithiol (gan gynnwys y defnydd o borwyr, chwiliaduron, a chatalogau llyfrgell ar-lein); defnyddio cyfleusterau TG yn effeithiol ac yn effeithlon; gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm gyda’r arweiniad lleiaf posibl.

Asesu

Gwelir asesu fel rhan annatod o ddysgu ac mae meini prawf asesu yn gysylltiedig â chanlyniadau dysgu modiwlau unigol. Mae’r dulliau asesu yn cynnwys asesiadau ymarferol, adroddiadau a thraethodau, dadansoddi astudiaethau achos, cyflwyniadau llafar, papurau seminar, gwaith prosiect, Portffolio Datblygiad Personol, arholiadau a phrofion dosbarth heb eu gweld. Bydd asesu yn cynnwys aseinaidau unigol a grŵp / tîm.

Cyfleoedd gyrfa

  • rheolwr rhwydwaith
  • dadansoddwr rhwydwaith
  • gweinyddwr systemau
  • arbenigwr diogelwch cyfrifiadurol
  • galwedigaethau eraill yn ymwneud â chyfrifiaduron

Gofynion mynediad

Y gofynion cyffredinol ar gyfer y radd anrhydedd yw 240 pwynt UCAS yn lefel A neu gyfwerth. Yn ogystal, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi pasio pum TGAU gyda graddau A, B neu C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.

Côd UCAS

Llawn amser: G425

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5 mlynedd

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk