Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Rheolaeth Busnes a Digwyddiadau

BA (Anrh) Rheolaeth Busnes a Digwyddiadau

FdA Rheolaeth Gwyliau a Digwyddiadau

Mae rheoli a goruchwylio gwyliau a digwyddiadau o bob math a maint – o ddigwyddiadau cymunedol i rai sydd ag effaith fyd-eang – oll angen tîm proffesiynol o bobl sydd ag ystod amrywiol o sgiliau.

Bydd y radd sylfaen mewn rheoli digwyddiadau yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn diwydiant cyffrous ac amrywiol sydd wedi tyfu’n sylweddol o ran maint a phwysigrwydd yn y degawd diwethaf. Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn datblygu eich sgiliau, gwybodaeth a’r cymwysterau angenrheidiol i drefnu, rheoli a gweithredu amrywiaeth o ddigwyddiadau a gwyliau.

Bydd y sgiliau hyn yn werthfawr mewn meysydd megis cynadleddau, lletygarwch corfforaethol, diwylliant, gwyliau, gwestai a chyrchfannau, hamdden, pasiantau, twristiaeth a theithio. Mae llawer o’r sgiliau hyn yn drosglwyddadwy i sectorau eraill ac mae galw mawr am y sgiliau hyn mewn nifer o fusnesau a meysydd rheoli.

Ffeithiau allweddol

  • Mae profiad ymarferol yn rhan hollbwysig o’r cwrs.

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

Mae’r pynciau a astudir yn cynnwys marchnata, y diwydiant gwˆ yl a digwyddiadau, cynllunio cyllid, rheoli adnoddau dynol, marchnata, y gyfraith a
rheoli prosiect.

Cyfleoedd gyrfa

  • adloniant corfforaethol
  • codi arian a marchnata digwyddiadau
  • rolau cefnogi digwyddiadau a chydlynu digwyddiadau

Cynnwys y cwrs

BA (Anrh) Rheolaeth Busnes a Digwyddiadau

Bydd y cwrs hwn yn eich darparu â’r sgiliau strategol a gweithredol i gynllunio, gweithredu a rheoli gwyliau a digwyddiadau o’r syniad dechreuol hyd at gwblhau yn llwyddiannus. Byddwch yn astudio’r prif elfennau busnes sy’n ymwneud â rheoli digwyddiadau – o gyllid, a rheoli gwybodaeth i farchnata eich digwyddiad a delio ag agweddau rheoli adnoddau dynol. Byddwch hefyd yn gwneud prosiect sy’n eich galluogi i ganolbwyntio ar faes sydd o ddiddordeb i chi yn y diwydiant gwyliau a digwyddiadau.

Hyd y cwrs

Llawn amser

Tair blynedd

Gofynion mynediad a gwneud cais

240 pwynt UCAS yn lefel A2 neu gyfatebol

Côd UCAS: N821


FdA Rheolaeth Gwyliau a Digwyddiadau

Mae’r cwrs rheoli yma wedi cael ei gynllunio i alluogi datblygiad sgiliau rheoli sy’n cefnogi gŵyl neu ddigwyddiad llwyddiannus. 
Mae’r rhain yn cynnwys rheolaeth gyffredinol, rheoli prosiectau, marchnata, cynllunio a rheolaeth.

Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar ddarparu cyfuniad o wybodaeth academaidd wedi’i ategu gan sgiliau ymarferol i ddatblygu rheolwyr effeithiol mewn diwydiant amrywiol sy’n ehangu.

Yn ogystal, mae’r cwrs hefyd yn cynnig cyfle i astudio ystod ehangach o fodiwlau seiliedig-ar-fusnes.

Fel rhan annatod o’r cwrs byddwch yn magu profiad ymarferol o fewn y diwydiant. Bydd disgwyl i chi gael lle ar leoliad gwaith mewn gŵyl neu ddigwyddiad o’ch dewis chi ar ddiwedd semester 2 a chwblhau dyddiadur dysgu yn ystod y cyfnod yma.

Rhoddir arweiniad parthed dewis ac addasrwydd lleoliadau er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad perthnasol.

Hyd y cwrs

Llawn amser
Dwy flynedd

Gofynion mynediad a gwneud cais

120 pwynt UCAS
Cais uniongyrchol.

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk