Peirianneg Trydanol ac Electronig
BEng (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig
Mae electroneg wrth wraidd bron iawn pob cymhwysiad diwydiannol cyfoes yn y byd diwydiannol ac yn ein cartrefi – o gyfrifiaduron a chydrannau diwydiannol i systemau sain a lluniau.
Mae cynnydd cyflym a chyson technoleg yn galw am beirianwyr electronig hynod gymwys a medrus. Bydd astudio peirianneg drydanol ac electronig yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd cyffrous, a bydd eich astudiaeth yn rhoi i chi’r sgiliau peirianneg technegol yn ogystal ag arbenigedd technoleg, cyfathrebu a dylunio.
Byddwn yn eich hyfforddi mewn mwy na dwsin o becynnau meddalwedd sydd o safon y diwydiant, gan roi mynediad i chi i offer peirianneg o safon y diwydiant yn ein labordai electroneg a pheirianneg a Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD).
Ffeithiau allweddol
- Labordai dylunio â chymorth cyfrifiadurol, labordai electroneg modern, meddalwedd dynwared systemau gweithgynhyrchu arbenigol, labordai offeryniaeth o safon diwydiant, cyfleuster Rapid Prototyping sydd o safon diwydiant (dull dyddodi ymdoddedig)
- Un o lond llaw o ddynwaredwyr hedfan (flight simulators) yn y Deyrnas Unedig
- Sied awyrennau sydd ag awyrennau jet a phiston a systemau llywio sy’n gweithredu’n llawn (llwybr gradd afioneg)
- Cerbydau modur Jaguar a Toyota sy’n rhoi mynediad i chi i ddiagnosteg moduron
- Mynediad i becynnau meddalwedd o safon diwydiant megis: MATLAB a Simulink, Texas Instruments Code Composer Studio, Analog Devices VisualDSP, Altium Designer, HPVee, Xilinx ISE, Altera MAX+PLUS II, Microchip MPLAB, a meddalwedd Allen Bradley PLC
- Byddwch yn gymwys i ymuno â’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) fel aelod sy’n fyfyriwr, ac yn gallu gwneud cais am statws ‘Aelod’ ar ôl cyfnod o waith diwydiannol priodol (gradd anrhydedd yn unig, ffi yn daladwy) neu’n gymwys i ymuno ar lefel Technegydd Peirianyddol (HND, HNC ac FdEng)
- Gwahoddir darpar aelodau am gyfweliad, a phennir ffioedd aelodaeth yn ôl gradd, statws a chyfrifoldebau
- Cysylltiadau cryf â diwydiant. Mae yna gyfleoedd i ymweld â chwmnïau lleol ac yn y rhanbarth er mwyn cael profiad gwaith amhrisiadwy yn y diwydiant peirianneg
- Canolbwyntir ar arbenigo mewn Pwˆ er, Electroneg, Offeryniaeth a Rheoli (Peirianneg Drydanol/Electronig ac HND Technoleg Drydanol ac Electronig)
Cynnwys nodweddiadol y cwrs:
- CAD
- rhaglenni cyfrifiadurol
- rheoli busnes
- rheoli prosiectau
- optegau hedfan a ffibr
- radar
- diagnosteg a dylunio
- gwyddoniaeth peirianneg ddigidol ac analog
- peiriannau a systemau pwˆ er
- microbrosesau
- peirianneg ar gyfer sain a lluniau
- cylchedau trydanol
- mathemateg gymhwysol
- yn ogystal â sgiliau peirianneg technegol, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau gweithredu cynlluniau, rheoli busnes a rheoli prosiectau
Cyfleoedd gyrfa
Mae prinder cydnabyddedig o beirianwyr trydanol/ electronig cymwysedig yn y DU. Oherwydd hyn bydd cymhwyster yn y maes yn eich gwneud yn ddeniadol i gyflogwyr yn syth. Byddwch gennych y sgiliau i gyfrannu at gynllunio a datblygu prosesau a systemau electronig. Mae cyfleoedd cyflogaeth yn bodoli yn y diwydiant awyrofod o ran systemau offeryniaeth awyrennau (lefel technegydd neu beiriannydd) neu yn y lluoedd arfog.
