Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cyfarfod y myfyriwr

Kate forrester with pic

Kate Forrester, Tystysgrif Addysg Uwch mewn Newyddiaduraeth Brint 2009

Astudiodd Kate, 23, ar y cwrs Tystysgrif Addysg Uwch mewn Newyddiaduraeth Brint tra’n gweithio fel gohebydd i bapur newydd y Leader. Erbyn hyn y mae’n ohebydd Sir y Fflint i’r Daily Post.

Beth oedd eich barn am y cwrs ym Mhrifysgol Glyndŵr?

Roedd y cwrs yn ddelfrydol ar gyfer datblygu fy sgiliau a’m darparu gyda chymhwyster a gydnabyddir gan ddiwydiant. Cychwynnais fel gohebydd heb gymhwyster proffesiynol felly roedd yn wych fod Glyndŵr wedi gweithio mewn partneriaeth gyda’m cyflogwr ar y pryd er mwyn rhoi hwb i’m gyrfa.

Pa gyfleoedd y mae’r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Newyddiaduraeth Brint yn eu cynnig?

Roeddwn yn lwcus i gael swydd ohebu cyn cymryd y cwrs ond i unrhyw un sy’n gobeithio mynd i faes newyddiaduraeth leol mi faswn i’n dweud mai dyma’r llwybr i’w gymryd. Roedd yn golygu fy mod yn medru mynd ymlaen i gymryd fy nghymhwyster uwch, sy’n darparu cyfleoedd gyrfaol gwell, ac yn y rhan fwyaf o gwmnïau yn arwain at godiad cyflog.

Pa gefnogaeth a gawsoch wrth astudio’r cwrs?

Roeddwn yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos ac yn treulio pob dydd Gwener yn y brifysgol. Gwnaethom astudio materion cyhoeddus, cyfraith y cyfryngau, llaw fer (crefft hanfodol) ac ysgrifennu newyddion. I ddechrau roedd yn ymddangos fel llawer o wybodaeth i’w stwffio mewn cyfnod byr, ond mae’r modd y mae’r cwrs wedi’i gynllunio i gydfynd â’r profiad sydd gan y myfyrwyr yn barod yn ardderchog.

Roedd y rhai ar y cwrs nad oeddent yn ohebwyr ar y pryd yn cael deuddydd o brofiad gwaith gyda naill ai’r Leader neu un o’i chwaer-bapurau. Mewn newyddiaduraeth mae profiad go iawn yr un mor bwysig â gallu academaidd, felly mae cwrs sy’n cyfuno’r ddau yn wych.

Roedd safon yr addysgu yn y brifysgol yn uchel iawn. Cawsom ein haddysgu gan newyddiadurwyr gyda llawer iawn o brofiad a chafwyd nifer o sgyrsiau gan arbenigwyr cyfryngol er mwyn rhoi gwahanol safbwyntiau i ni.

Sut mae eich gyrfa wedi datblygu ers y cwrs?

Treuliais rywfaint o amser yn gweithio i’r Southport Visiter a’r Liverpool Echo ar ôl gadael y Leader, cyn manteisio ar y cyfle i ymuno â’r Daily Post. Rydw i’n mwynhau’r gwaith yn fawr. Ers i mi roi ’nhroed mewn ystafell newyddion am y tro cyntaf, roeddwn yn gwybod mai dyna’r oeddwn i eisiau ei wneud.

Mae pob diwrnod yn wahanol a dydych chi byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel. Mae’n gallu bod yn straen ar adegau ac mae angen i chi fod yn hyderus yn eich gallu eich hun, ond mae cael sylfaen gadarn mewn arfer proffesiynol gan gwrs a gydnabyddir gan ddiwydiant yn ffordd dda o hybu’r hyder hwnnw.

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk