Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cwestiynau a holir yn aml

Sut byddaf yn astudio?

Mae’r cwrs yma yn cynnig y ddau beth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn darpar newyddiadurwyr dan hyfforddiant – profiad gwaith ymarferol helaeth a’r cyfle i gael set gyfan o gymwysterau’r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr.

Byddwch yn treulio deuddydd yr wythnos ar leoliad gyda phapurau newydd rhanbarthol blaenllaw yng Ngogledd Cymru neu Gaer dan oruchwyliaeth newyddiadurwr profiadol. Yn ogystal, byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr un diwrnod yr wythnos gan weithio tuag at eich cymwysterau NCTJ.

Pa ysgoloriaethau ydych yn eu cynnig?

Mae’r Gronfa Armywiaeth Newyddiadurol ar gael i gefnogi hyfforddiant newyddiadurwyr o gefndiroedd cymdeithasol amrywiol ac ethnig heb y modd ariannol i fynychu cyrsiau hyfforddi’r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr. Mae’r gronfa yn cael ei rhedeg a’i gweinyddu ar ran y diwydiant gan yr NCTJ. Manylion ar gael yn www.journalismdiversityfund.co.uk.

Sut byddaf yn cael fy asesu?

Byddwch yn sefyll y gyfres gyfan o asesiadau ac arholiada’ru NCTJ sy’n arwain at gymhwyster cychwynnol yr NCTJ mewn newyddiaduraeth. Yn ogystal, asesir eich gwaith trwy bortffolio o’ch gwaith yn cwmpasu’r meysydd astudio – ysgrifennu newyddion a gohebu, cyfraith y cyfryngau, materion cyhoeddus a’r sgiliau technegol sydd eu hangen ar gyfer newyddiaduraeth fideo ac ar-lein.

Byddwch hefyd yn cael sesiynau adolygu rheolaidd gyda’ch tiwtor a’ch goruchwylydd lleoliad gwaith.

Canmoliaeth

Aaeth bron i ddau draean o’r myfyrwyr ar raglen 2009/10 ymlaen i gael swyddi fel gohebwyr dan hyfforddiant. Yn ogystal, cyflawnodd myfyrwyr 09/10 gyfradd basio o bron i 90% yn arholiadau’r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr yn y gyfraith, materion cyhoeddus a hel ac ysgrifennu newyddion.

Panel achredu’r NCTJ, Chwefror 2009: “Cafodd y cwrs da iawn yma gryn argraff ar aelodau’r panel ar y cyfan. Canmolwyd y bartneriaeth unigryw rhwng y brifysgol â NWN Media ganddynt. …. Mae’r cwrs wedi’i anelu’n gyfan gwbl tuag at anghenion y diwydiant a’r myfyrwyr ar y cwrs.”

Cwrdd â’r tiwtor

Mae Janet Jones yn newyddiadurwraig brofiadol a ymunodd â Phrifysgol Glyndŵr o’r Express & Star, papur newydd rhanbarthol mwyaf y DU, ble bu’n ddarlithydd yn ysgol newyddiaduraeth y cwmni. Mae’n brif arholydd a chadeirydd bwrdd arholi materion cyhoeddus yr NCTJ.

Cyrsiau israddedig
  • Cwestiynau a holir yn aml

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk