Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Llyfrgell a Gwybodaeth

FdSc Ymarfer Llyfrgell a Gwybodaeth 

BSc (Anrh) Llyfrgell a Rheolaeth Gwybodaeth*

Mae’r gallu i hidlo gwybodaeth sy’n berthnasol ac yn ddefnyddiol yn bwysicach nag erioed. Mae sefydliadau yn fwrlwm o weithgarwch sy’n elwa o dechnolegau newydd a rhai band eang, ond sydd ar yr un pryd yn wynebu heriau sylweddol wrth reoli gwybodaeth.

 Ffeithiau allweddol

  • Wedi’i gefnogi gan Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth (CILIP), CyMAL Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru
  • Ceisir achrediad gan CILIP - byddai cwblhau cwrs achrededig yn llwyddiannus yn eich helpu i gael swyddi proffesiynol yn y DU a ledled y byd
  • Bloc addysgu preswyl unigryw – byddwch yn treulio pythefnos yma bob semester gan barhau â’ch dysgu yn hyblyg drwy ein cyfleusterau e-ddysgu arloesol
  • Darlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol o’r byd llyfrgell a’r maes rheoli gwybodaeth
  • Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â chyflogwyr - rhoi theori academaidd ar waith yn y gweithle

Cynnwys nodweddiadol y cwrs

  • rheoli ac adalw gwybodaeth
  • rheoli cronfa ddata
  • technegau ymchwilio
  • technegau chwilio uwch ar-lein
  • egwyddorion rheoli gwybodaeth a sut mae’r rhain

Yn sail i’r broses o gynllunio, gweithredu a gwerthuso llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth

FdSc Ymarfer Llyfrgell a Gwybodaeth 

Os ydych erioed wedi teimlo eich bod yn boddi yn y môr o wybodaeth sydd o’n cwmpas, boed yn y gwaith, gartref neu yn eich amser hamdden, mae’n bur debyg nad chi yw’r unig un. Mae swm enfawr o wybodaeth ar gael ym mhobman – mewn llyfrau, ar y teledu, ar y rhyngrwyd – mae peth ohono yn hanfodol, peth ohono yn dda i ddim.

Wrth hyfforddi fel llyfrgellydd a gweithiwr gwybodaeth proffesiynol, byddwch yn dechrau dod yn un o’r gorau am ddod o hyd i beth mae pobl ei angen, pan fyddant ei angen – a didoli unrhyw beth sy’n amherthnasol. Astudiwch y theori y tu ôl i drin gwybodaeth, yn ogystal â rheoli a gwerthuso’r wybodaeth honno, gan roi hyn ar waith yn y gweithle.

Cyfleoedd gyrfa

Byddwch yn sicr yn elwa o’r cwrs os ydych eisoes yn gweithio mewn llyfrgell – naill ai yn gyflogedig neu’n wirfoddol. Mae’n addas i chi os ydych yn ystyried dychwelyd i addysg uwch neu os ydych am ddatblygu eich gyrfa. Gallai’r radd sylfaen eich helpu ymlaen i swydd oruchwylio mewn llyfrgell. Cewch hefyd gyfleoedd mewn awdurdodau lleol, adrannau’r llywodraeth a llyfrgelloedd arbenigol.

Asesu

Gwelir asesu fel rhan integredig o ddysgu, ac mae meini prawf asesu yn gysylltiedig â chanlyniadau dysgu modiwlau. Bydd asesu ar y rhaglen yn gwneud defnydd o ystod o weithgareddau gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith grŵp, aseiniadau ymarferol, gwaith prosiect a phortffolio.

Gofynion mynediad

Y gofynion cyffredinol ar gyfer y radd sylfaen yw 140 pwynt UCAS yn lefel A neu gyfwerth. Yn ogystal, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi pasio pump TGAU gyda graddau A, B neu C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. Fodd bynnag, mae gan y Brifysgol agwedd hyblyg tuag at dderbyn myfyrwyr gyda chymwysterau ansafonol; yn arbennig myfyrwyr gyda phrofiad gwaith priodol.

Côd UCAS

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 2 flynedd


BSc (Anrh) Llyfrgell a Rheolaeth Gwybodaeth*

Mae hon yn radd atodol blwyddyn o hyd i’r rheiny sy’n cyflawni’r FDSc Ymarfer Llyfrgell a Gwybodaeth neu gymhwyster cyfatebol. Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i chi barhau â’ch astudiaethau yn y maes a chael gradd anrhydedd lawn. Cyflenwir y cwrs yma mewn bloc dros gyfnod o flwyddyn galendr.

Hyd y cwrs

Rhan-amser

1 blwyddyn atodol (blwyddyn galendr)

Gofyn mynediad a gwneud cais

Y radd sylfaen uchod neu gyfatebol o sefydliad arall

Rhan-amser: cais uniongyrchol

* Yn amodol ar gael ei ddilysu

 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk