Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Hanes

BA (Anrh) Hanes

BA (Anrh) Saesneg a Hanes

BA (Anrh) Hanes ac Ysgrifennu Creadigol

Dewch i astudio’r gorffennol a datblygu sgiliau hanesydd. Mae’r radd arloesol ac ymarferol hon yn rhoi sylw i gerrig milltir mewn hanes a’u heffaith ar fywyd a chymdeithas.

Dewiswch o blith ystod eang o bynciau sy’n cwmpasu 2000 o flynyddoedd o hanes. Dewch i ddarganfod y ffyrdd y mae newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol wedi llunio ein byd. Wrth ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol a mynd i safleoedd hanesyddol allweddol, byddwch yn datblygu sgiliau allweddol megis ymchwilio, dadansoddi a chyfathrebu. Bydd y cwrs hwn yn ysbrydoli eich diddordebau personol ac yn gwella eich datblygiad gyrfa.

Ffeithiau allweddol

  • Gradd hanes ymarferol
  • Cewch ymweld â thai aristocrataidd a safleoedd eraill o ddiddordeb hanesyddol
  • Amgylchedd astudio cefnogol
  • Datblygwch eich sgiliau ymchwilio, dadansoddi, dehongli, cyfathrebu a chyflwyno
  • Cyfleoedd profiad gwaith. Mae lleoliadau ar gael mewn archifau, llyfrgelloedd a chanolfannau treftadaeth
  • Dadansoddwch ddogfennau gwreiddiol o’r gorffennol
  • Astudiwch hanes lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Cynnwys nodweddiadol y cwrs

Mae’r pynciau astudio yn cynnwys:

  • trosedd a chosb
  • diwylliant poblogaidd a’r cyfryngau torfol
  • hanes lleol
  • hunaniaeth genedlaethol
  • cerrig milltir hanesyddol
  • iechyd a ffordd o fyw yn y gorffennol
  • llys a diwylliant oes Elisabeth
  • cartrefi a bywydau’r uchelwyr
  • Glyndŵr a Chymru’r Oesoedd Canol
  • bwyd, ffasiwn ac adloniant
  • byd y Dadeni Dysg
  • hanes yn y gweithle
  • ‘Y byd ar ei ben i waered’: Cymru a Lloegr yr 17eg ganrif
  • cychwyn cymdeithas newydd ym Mhrydain y 19eg ganrif
  • America: o goloneiddwyr i gowbois
  • traethawd hir: prosiect ymchwil personol

Cyfleoedd gyrfa

Archifau; rheoli cofnodion; rheoli treftadaeth, amgueddfeydd; dysgu. Mae gradd mewn hanes hefyd yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y gyfraith, adnoddau dynol a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â marchnata.

Cynnwys y cwrs

BA (Anrh) Hanes

Cewch y cyfle i astudio themâu o’r Oesoedd Canol a chyfnod y Dadeni hyd at y cyfnod modern drwy astudio Cymru, Prydain, Ewrop a’r byd.

Asesu

Mae’r tîm hanes yn falch o amrywiaeth ei ddulliau asesu. Mae’r rhain yn cynnwys traethodau ysgrifenedig, arholiadau, cyflwyniadau llafar, astudiaethau gwaith maes, seminarau dosbarth, gweithdai, cofnodlion adlewyrchol a phortffolios ymchwil.

Gofynion mynediad

240 pwynt yn lefel A neu gyfwerth, yn ddymunol gyda Hanes yn lefel A2. Gweler y gofynion cyffredinol.

Côd UCAS

Llawn amser: V100
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5/6 blynedd


BA (Anrh) Saesneg a Hanes

Rhannwch eich astudiaethau rhwng y ddau bwnc hwn sy’n cyd-fynd yn wych â’i gilydd - y cyfuniad gradd clasurol. Bydd eich gwaith ar lenyddiaeth Saesneg yn cynnwys ysgrifennu o Brydain, America ac Ewrop, gan archwilio themâu hunaniaeth, traddodiad, rhywedd a chenedl drwy holl hanes llenyddiaeth Saesneg.

Asesu

Mae’r tîm hanes yn falch o amrywiaeth ei ddulliau asesu. Mae’r rhain yn cynnwys traethodau ysgrifenedig, arholiadau, cyflwyniadau llafar, astudiaethau gwaith maes, seminarau dosbarth, gweithdai, cofnodlion adlewyrchol a phortffolios ymchwil.

Gofynion mynediad

200 pwynt yn lefel A neu gyfwerth, yn ddymunol gyda Hanes yn lefel A2. Gweler y gofynion cyffredinol.

Côd UCAS

Llawn amser: QV31

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5/6 blynedd


BA (Anrh) Hanes ac Ysgrifennu Creadigol

Mae’r cyfuniad hwn o bynciau yn rhoi modd i chi wella eich sgiliau ymarferol a chreadigol a’u defnyddio mewn ffordd llawn dychymyg. Mae’r elfen Hanes yn rhoi llwyfan perffaith ar gyfer datblygu eich arddull ysgrifennu unigol chi.

Asesu

Mae’r tîm hanes yn falch o amrywiaeth ei ddulliau asesu. Mae’r rhain yn cynnwys traethodau ysgrifenedig, arholiadau, cyflwyniadau llafar, astudiaethau gwaith maes, seminarau dosbarth, gweithdai, cofnodlion adlewyrchol a phortffolios ymchwil.

Gofynion mynediad

200 pwynt yn lefel A neu gyfwerth, yn ddymunol gyda Hanes yn lefel A2. Gweler y gofynion cyffredinol.

Côd UCAS

Llawn amser: WV81

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5/6 blynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk