Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Gwyddor yr Amgylchedd

BSc (Anrh) Gwyddor yr Amgylchedd

Lleihau llygredd a sut i wneud y defnydd gorau o ffynonellau ynni adnewyddadwy yw canolbwynt y cwrs gradd yma. Gan ddarparu hyfforddiant cadarn mewn cemeg, ecoleg, y ddaear a’r amgylchedd, ac archwilio ecosystemau a bioleg trwy brosiectau cadwraeth bywyd go iawn.

Mae pobl a chyrff ledled y byd yn gweld yr angen i gyflawni dyfodol cynaliadwy. Ond tra bod peth cynnydd wedi cael ei wneud mae yna lawer i’w wneud o hyd o ran lleihau’r defnydd o adnoddau anadnewyddadwy, lleihau llygredd, a mwyhau’r defnydd o ailgylchu ac adnoddau adnewyddadwy. Yn sgîl eich astudiaethau, byddwch yn datblygu lefel uwch o ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol, yn ogystal â sgiliau yn ymwneud â rheoli ac adfer gwybodaeth.

Byddwch hefyd yn ymgymryd â gwaith grŵp a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm, a phrosiectau unigol er mwyn datblygu ymarfer a hunanddibyniaeth mewn rheoli prosiect.

Ffeithiau allweddol

  • Cewch ymgymryd â gwaith maes ledled Gogledd Cymru
  • Pwyslais cryf ar sgiliau ymarferol a thechnegau safon diwydiant
  • Gallwch ddewis arbenigo mewn dadansoddiad labordy neu reolaeth cadwraeth
  • Cyfleoedd ar gyfer lleoliadau cadwraeth ymarferolMae cefnogaeth diwtorial ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg

Cyfleoedd gyrfa

Mae bron pob busnes ac awdurdod lleol yn galw am amgylcheddwyr proffesiynol. Mae pobl sydd â gradd mewn gwyddor yr amgylchedd yn cael gyrfaoedd mewn:

  • cyrff cadwraeth
  • adrannau cynllunio neu wasanaethau cefn gwlad awdurdodau lleol
  • y diwydiant ailgylchu
  • ymgynghoriaeth amgylcheddol
  • mae graddedigion hefyd yn dewis ymgymryd ag astudiaethau pellach, er enghraifft mewn meysydd penodol fel coedwigaeth neu reolaeth adnoddau dŵr

Cynnwys y cwrs

BSc (Anrh) Gwyddor yr Amgylchedd

Yn ogystal â chael hyfforddiant sylfaenol mewn cemeg a sgiliau labordy, byddwch yn cwmpasu ystod o bynciau gan gynnwys ecoleg a bioamrywiaeth, systemau amgylcheddol a daear, a dysgu am arolygon amgylcheddol. Yn nes ymlaen yn y cwrs byddwch yn archwilio ecosystemau, materion yn ymwneud â llygredd, rheolaeth adnoddau a chynialadwyedd, bioleg cadwraeth ac atmosffereg yn ogystal â datblygu sgiliau ymchwil mewn meysydd maes ac ymchwil, dadansoddi data a chadwraeth ymarferol.

Modiwlau a strwythur y cwrs

Asesu

Byddwch yn cael eich asesu trwy waith cwrs ac arholiadau. Bydd gwaith cwrs yn cynnwys adroddiadau gwaith maes a labordy, cyflwyniadau poster a thraethodau.

Gofynion mynediad

240 pwynt o A level neu gyfwerth, gan gynnwys Bioleg neu Ddaearyddiaeth yn ddelfrydol. Gweler y Modiwlau a strwythur y cwrs.

Côd UCAS

Llawn amser: F854
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser 5 mlynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk