Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Gwyddoniaeth Fforensig

BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig

Mae gwyddoniaeth fforensig wedi dod yn boblogaidd yn sgil dramâu teledu fel CSI, ond ym maes fforensig mae ffaith yn fwy anhygoel na ffuglen hyd yn oed! Mae gwyddoniaeth fforensig yn datblygu yn eithriadol o gyflym, yn arbennig ym meysydd bioleg fforensig a dadansoddi DNA – dysgwch am y rhain a’r holl ddatblygiadau cyffrous eraill yn y maes.

Mae gwyddoniaeth fforensig wedi newid o olion bysedd, esgidiau a grwpio gwaed syml i feysydd arbenigol megis dadansoddi cemegol, proffilio DNA a dadansoddi ysgerbydol, i enwi dim ond rhai.

Mae ein cyrsiau yn eich helpu i loywi sgiliau gwyddonol a dadansoddol gwyddonwyr fforensig er mwyn datrys ystod eang o achosion.

Ffeithiau allweddol

  • Staff profiadol, ymchwil-weithredol
  • Labordy ymchwilio lleoliadau trosedd pwrpasol
  • Cyfleoedd dysgu yn y gweithle
  • Profiad ymarferol o offer labordy modern
  • Modiwlau blaengar wedi’u harwain gan ymchwil ar ddulliau dadansoddi
  • Ymarfer mewn llysoedd go iawn
  • Chwarae-rôl ymchwilio lleoliadau trosedd wedi’u gosod gan uwch CSIs
  • Cyfleoedd i fynychu cyfarfodydd y Gymdeithas Gwyddoniaeth Fforensig
  • Cefnogaeth diwtorial ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Fel myfyriwr ar y cyrsiau hyn byddwch yn gymwys i fod yn Aelod Myfyriwr o’r Gymdeithas Gwyddoniaeth Fforensig. (Bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i’r Gymdeithas Gwyddoniaeth Fforensig. Mae yna ffi flynyddol o £40.00)

Cynnwys nodweddiadol y cwrs

Mae’r cwrs yn cwmpasu tair prif elfen gwyddoniaeth fforensig, sef: chwilio am ac adfer tystiolaeth, dadansoddi biolegol (gan gynnwys DNA), cemegol a chorfforol, a chyflwyno tystiolaeth mewn llys. Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn dysgu sut mae lleoliadau trosedd yn cael eu hymchwilio, yn gloywi eich sgiliau labordy allweddol a dysgu’r bioleg a’r cemeg sylfaenol y mae dadansoddi fforensig yn seiliedig arnynt. Yn nes ymlaen byddwch yn dysgu chwilio lleoliadau trosedd cymhleth a defnyddio offer a dulliau modern i ddadansoddi samplau. Yn y flwyddyn olaf byddwch yn caffael gwybodaeth a sgiliau datblygedig gan gynnwys sgiliau llys, a byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil mewn maes o’ch dewis chi.

Modiwlau - BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig

Cyfleoedd gyrfa

Gall cymhwyster gwyddonol gyda sgiliau trosglwyddadwy (h.y. ymchwil, ysgrifennu adroddiadau, meddwl beirniadol, datrys problemau, cyfathrebu, gweithio mewn tîm, sgiliau mathemategol a rhifyddeg,a gwneud penderfyniadau) yn creu cyfleoedd gyrfaol mewn sawl maes, gan gynnwys:

  • cyflogwyr gwyddoniaeth fforensig
  • addysgu
  • dadansoddi labordy
  • sector cyhoeddus
  • lluoedd arfog
  • tollau
  • yswiriant
  • heddlu
  • cyfleoedd astudio pellach

Cynnwys y cwrs

BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig

Byddwch yn astudio meysydd cemeg fforensig, tystiolaeth fforensig a thechnegau ffotograffig. Mae’r cwrs yn cwmpasu pynciau allweddol bioleg y gell, geneteg fforensig, cyffuriau a thocsicoleg, a dadansoddi offer. Byddwch hefyd yn datblygu ystod eang o sgiliau labordy ymarferol, gan gynnwys dadansoddi offer, ac yn dysgu sut i chwilio lleoliadau trosedd cymhleth ac adfer tystiolaeth. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gyflwyno tystiolaeth mewn llys.

Asesu

Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu method; y rheiny sy’n cynnwys lleoliad trosedd a chwarae rôl yn y llys, cyflwyniadau llafar a phoster, traethodau ac adroddiadau labordy, ac arholiadau ysgrifenedig. Asesir pob modiwl gan amryw o ddulliau, gan alluogi myfyrwyr i arddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd estynedig yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.

Gofynion mynediad

240 pwynt yn lefel A neu gyfwerth, i gynnwys o leiaf un pwnc gwyddonol, cemeg yn ddelfrydol. Gradd dda mewn TGAU mathemateg. Gweler y .

Côd UCAS

Llawn amser: F412
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser 6 mlynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk