Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Straeon myfyrwyr


Amy Jones

BA Anrh Astudiaethau Addysg a Phlentyndod, 2010

Ymgymrodd â chwrs TAR ym Mhrifysgol Hope Lerpwl.

“Mae’r modiwlau a astudiwyd ar y cwrs Astudiaethau Addysg a Phlentyndod wedi rhoi sylfaen gadarn o wybodaeth i mi am y cwricwlwm blynyddoedd cynnar a materion mewn addysg heddiw.”

Karen Cummings

Karen Cummings

Tyst AU Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2007
BA Anrh Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2010

Ymgymrodd â Thystysgrif Uwchraddedig mewn Ymarfer Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Proffesiynol Blynyddoedd Cynnar (SPBC) ym Mhrifysgol Caer.

“Roedd y cwrs plentyndod cynnar yn help mawr i mi newid fy mywyd. Dysgodd fi i ganolbwyntio mwy ac i ymroi fy amser i gyflawni fy amcanion.”


Suzanne Roberts

BA Anrh Addysg gydag Astudiaethau Plentyndod, 2009

Myfyrwraig Ymchwil

“Graddiais o Glyndŵr yn 2009 gyda gradd dosbarth 1af mewn Astudiaethau Addysg a Phlentyndod. Ym mis Rhagfyr 2010, llwyddais i gael Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig Prifysgol Cymru ac erbyn hyn rwyf yn astudio ar gyfer fy MPhil/PhD. Fel rhan o’m hymchwil byddaf yn astudio’r pwnc ‘Cyflwyno Llyfrau i Fabanod'.”

Kate Wilde

Kate Wilde

BA Anrh Astudiaethau Addysg a Phlentyndod, 2010

Gweithwraig Cefnogi Gofalwyr Ifanc Barnardo’s Sir y Fflint sy’n ymwneud â’r ‘Prosiect Dyfodol Mwy Disglair'

“Cafodd pob agwedd o fywyd prifysgol effaith gadarnhaol arna’i. O’r astudio, i wneud ffrindiau newydd da, mwynhau nosweithiau allan, a chael cefnogaeth gan Arweinwyr Rhaglenni a Darlithwyr gwych, mae’r cyfan wedi helpu i greu’r hyn ydw i heddiw a’r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol agos!”

Lucy Lovelock

Lucy Lovelock

BA Anrh Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2007

Gweithio ym maes cefnogi teuluoedd ar gyfer Cychwyn Cadarn yn Sir y Fflint.

“Credaf fod y radd yma yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio efo plant, pobl ifanc a theuluoedd mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol nad ydynt wedi’u cymhwyso tuag at ddysgu ond yn fwy tuag at gefnogi teuluoedd, gwasanaethau cymdeithasol a gwaith prosiect.” 


Margaret Phillips

BA Anrh Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2009

Gweithio fel asesydd NVQ.

“Roeddwn yn asesydd cyn i mi ddechrau astudio ond mae meddu ar radd yn fy ngalluogi i asesu cymwysterau lefel uwch.” 


Kate Wagner

BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2008

Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Teulu a Phlentyndod

“Roedd gan y cwrs gradd yma rôl anhepgor yn fy newid gyrfa o fod yn gyfreithwraig i fod yn ddarlithydd addysg uwch, yn ogystal â rhoi cyfleoedd i mi ymwneud ag ymchwil a gradd uwch.”

Jenny Jones

Jenny Jones
BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2008

Swyddog Ymchwil Plant a Phobl Ifanc a Gweithwraig Cefnogi Gwybodaeth i Ofalwyr yn AVOW (Cymdeithas Cyrff Gwirfoddol yn Wrecsam)

“Mwynheais y cwrs yn arw gan fod ganddo ystod o fodiwlau, sgyrsiau gwybodaeth rheolaidd gan wahanol gyrff a phobl broffesiynol a nifer o leoliadau ymarferol ac amrywiol. Mae’r wybodaeth a’r profad a gefais yn sgil fy astudiaethau wedi bod o fudd mawr i mi yn fy swydd.”


Sarah McCulloch

BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2005

Chatterbox Playtimes (Cydlynydd Iaith a Chwarae) – Sir y Fflint

“Mynychais ddiwrnod gwybodaeth gan gydlynydd y gwasanaeth Iaith a Chwarae a rhyfeddu at yr hyn oedd yn cael ei gynnig i’r plant a’r rhieni mewn cydweithio trwy chwarae nes i mi ofyn a fyddai’n bosib i mi gael lleoliad yno.  Gweithiais yn galed yn ystod y lleoliad hwnnw gan wneud popeth a ofynwyd gen i, gan ddysgu gymaint. Ar ôl cwblhau fy ngradd, cynigiwyd rhywfaint o waith llanw i mi, a ddatblygodd yn gytundeb rhan-amser …i gytundeb llawn amser. Roedd yna swydd wag yn mynd ar gyfer cydlynydd , ac er gwaetha cystadleuaeth galed, fe gefais y swydd.  Y foeswers yw – dangoswch iddyn nhw beth sy’ gennych i’w gynnig, gwnewch eich gorau bob amser a phwy a ŵyr ble bydd eich llwybr yn arwain.”


Helen Jones

FdA Astudiaethau Plentyndod Cynna, 2007
BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2008

Athrawes Gynradd

“Dewisais wneud y cwrs Astudiaethau Plentyndod Cynnar yn rhan-amser am y ddwy flynedd gyntaf gyda’r nos, cyn cwblhau’r flwyddyn olaf fel myfyrwraig lawn amser. Rhoddodd hyn gyfle i mi weld agweddau gwahanol trwy weithio’n rhan-amser a gwirfoddoli am ddiwrnod yr wythnos mewn meithrinfa.  Yn ystod y cwrs, deuthum yn ymwybodol o’r modd y gwnaeth arloeswyr addysg gynnar symbylu’r modd y mae plant yn dysgu heddiw.”

Philip Lloyd

Philip Lloyd

BA Anrh Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2009

Darlithio Gofal Plant yn rhan-amser yng Ngholeg Iâl

“Roeddwn wedi cwblhau Lefelau 2 a 3 fy Diploma mewn Gofal Plant ac felly roedd y BA Anrh mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar yn ddilyniant naturiol i mi. Un o’r pethau gorau am y cwrs oedd ei bod yn rhwydd iawn pontio i Addysg Uwch ac mae Prifysgol Glyndŵr yn lle braf iawn.”

Lisa Hannaby

Lisa Hannaby

FdA mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar in 2009
BA Anrh Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2010

Darlithydd Addysg Bellach/Gweithwraig Plant a Theulu Awdurdod Lleol/Astudiaeth Uwchraddedig

“Cefais gymaint o gyfleoedd yn sgil ymgymryd â’r FdA – nid yn unig o ran y swyddi y medrwn wneud cais amdanyn nhw ond hefyd o ran symud ymlaen i astudiaeth bellach.  Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio tridiau’r wythnos yn darlithio ar y rhaglen Diploma mewn Gofal Plant ac Addysg yng Ngholeg Iâl a deuddydd yr wythnos i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyda’r Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal. Rwyf hefyd wedi parhau i weithio gyda’r Tîm Rhianta a Chefnogi Teuluoedd, yn rhan-amser. Rwyf yn ôl ym Mhrifysgol Glyndŵr yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Addysg ac ym mis Medi byddaf yn astudio ar gyfer TAR yng Ngholeg Iâl.”


Mary Mountford

BA Anrh Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2008

Athrawes Blynyddoedd Cynnar

“Roedd gen i ddiddordeb mewn mynd yn athrawes ond dim ond un pwnc Gwyddoniaeth yr oeddwn i wedi’i astudio felly doedd gen i ddim yr hyn oedd ei angen i gofrestru’n syth ar gyfer TAR. Felly, cofrestrais ar y BA Anrh mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar yng Nglyndŵr, sy’n cynnig llwybr amgen i addysgu.  Ar ôl graddio, es ymlaen i wneud TAR yn Aberystwyth ac erbyn hyn rwyf yn athrawes lanw Blynyddoedd Cynnar.” 

Kelly Jarvis

Kelly Jarvis

BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar, 2004

Arweinydd Cyn-Ysgol yng Nghanolfan Dysgu Cynnar a Gofal Plant ‘Start’ i Gyngor Swydd Amwythig

“Dechreuais weithio fel Arweinydd Cyn-Ysgol yn 2006 ac yn fuan wedyn dechreuais weithio tuag at gael Statws Proffesiynol Blynyddoedd Cynnar Professional (2007).  Ers hynny rwyf wedi arwain a chefnogi cydweithwyr wrth ddarparu lefel uchel o ofal ac addysg i blant hyd at 5 oed. Bûm yn ddigon lwcus i ymweld â Reggio Emilia, yr Eidal ac ymgymryd â datblygiad proffesiynol eang.  Rwyf yn aelod o Bwyllgor Gwaith Chwarae Ardal Croesoswallt ac yn Brif Weithwraig Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Gogledd Swydd Amwythig.”

Ruth Davies

Ruth Davies

BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar gydag Addysg, 2006

Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Addysg, Teuluoedd a Phlentyndod

“Roedd yr hyblygrwydd a gynigiwyd i mi fel myfyrwraig ran-amser yn amhrisiadwy, yn fy ngalluogi i gyfuno fy rolau fel mam, gwraig ac ymarferydd mewn lleoliad addysg i gyflawni fy uchelgais i fod y cyntaf yn fy nheulu i gael gradd. Yn ogystal, penderfynais barhau i astudio i fod yn ddarlithydd a pharhau ag ymchwil o ganlyniad uniongyrchol i anogaeth gan fy narlithwyr.”

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk