Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd

BA (Anrh) Astudiaethau Addysg a Phlentyndod*

BA (Anrh) Astudiaethau Teuluoedd a Phlentyndod*

FdA Gofal ac Addysg Plentyndod Cynnar*

Pam dewis Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd?

Mae pwyslais y Llywodraeth ar bwysigrwydd gofal ac addysg yn y blynyddoedd cynnar yn golygu bod y cyfleoedd gwaith yn y maes hwn yn eithriadol. Mae’r cyrsiau hyn yn trafod yr holl agweddau pwysig sydd ynghlwm â gweithio gyda phlant a theuluoedd, gan gynnwys deddfwriaeth y llywodraeth a sut y mae’n effeithio ar y ddarpariaeth. Mae’r cyrsiau gradd yn ymchwilio i faterion o ran iechyd, lles ac addysg plant, teulu a chymdeithas.

Nodweddion arbennig

  • Cysylltiadau ardderchog â sefydliadau gofal plant ar gyfer cyfleoedd lleoliad gwaith.
  • Cewch ddewis o blith amrywiaeth o leoliadau gwahanol yn ôl eich profiadau a’ch diddordebau eich hun.
  • Byddwch yn gymwys i fod yn aelod myfyriwr o PANN (Undeb Gweithwyr y Blynyddoedd Cynnar) (BA (Anrh) yn unig). Mae’r aelodaeth yn rhad ac am ddim trwy gydol eich astudiaethau.
  • Gweithiwch wrth astudio (FdA yn unig).
  • Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn elwa o fod yn rhan o Ganolfan newydd y Brifysgol ar gyfer y Plentyn.

Darllenwch straeon gan rai o'n cyn-fyfyrwyr

Cyfleoedd gyrfaol

Mae nifer cynyddol o gyfleoedd gyrfa sy’n gysylltiedig â mentrau Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth y Cynulliad yn y byd plant: addysgu ac astudiaethau pellach; TAR (cynradd); Tystysgrif mewn Addysg PCET (ôl-16); cyfleoedd gradd meistr; ymgynghorydd ar yrfaoedd; statws ymarferydd y blynyddoedd cynnar; addysg arbennig; swyddi cynorthwy-ydd dysgu cymunedol; gweithiwr plentyn/teulu; gweithio aml-asiantaeth; gweithiwr chwarae; lleferydd ac iaith.

Gwybodaeth am y cwrs

BA (Anrh) Astudiaethau Addysg a Phlentyndod*

Cynnwys y cwrs

Mae’r radd hon ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant a theuluoedd mewn lleoliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol. Mae’r rhaglen astudio yn gyfuniad o astudiaeth academaidd ac ymarfer profiad gwaith. Mae elfennau addysg anffurfiol a ffurfiol wedi’u cynnwys, megis y Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm Cenedlaethol a ffactorau eraill sy’n effeithio ar addysgu a dysgu. Mae’n cynnig llwybr arall i mewn i ddysgu, ar yr un pryd â dewisiadau eraill o ran gyrfaoedd sy’n cynnwys gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Gofynion mynediad

Rhaid i chi gael TGAU Cymraeg neu Saesneg (gradd C neu uwch) ac (i) 240 pwynt yn Lefel A neu (ii) un o’r cymwysterau canlynol neu gyfwerth: Diploma BTEC yn y Blynyddoedd Cynnar (Teilyngdod), Diploma CACHE mewn Gofal Plant ac Addysg (240 pwynt), NVQ (Lefel 3) sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant, BTEC Astudiaethau Iechyd (Teilyngdod), Diploma Mynediad i Addysg Uwch, GNVQ / TAAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol (240 pwynt). Disgwylir hefyd fod gennych brofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd. Gweler y gofynion cyffredinol.

Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y cyrsiau hyn bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen Swyddfa Cofnodion Troseddol a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas ar gyfer gweithio gyda phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed.

Côd UCAS

Llawn amser: i'w gadarnhau
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 6 mlynedd

* Mae’r cwrs yma yn disgwyl cael ei ddilysu.

BA (Anrh) Astudiaethau Teuluoedd a Phlentyndod*

Cynnwys y cwrs

Y gymuned, plant a theuluoedd sydd wrth wraidd y cwrs hwn. Byddwch yn gwneud gwaith academaidd a phrofiad gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau yn y gymuned, gan ennill dealltwriaeth ragorol o faterion sy’n ymwneud â phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i astudio dull o ystyried y ‘plentyn cyfan’ a’u datblygiad cyfannol. Mae gan y radd hon ymagwedd aml-asiantaeth, ac mae’n cynnwys ymchwiliad i’r ddynameg sy’n newid mewn teuluoedd a chymunedau.

Cynnwys nodweddiadol y cwrs: pwysigrwydd chwarae; datblygiad plant; iechyd a lles; ymddygiad plant; cynhwysiad; cwricwlwm y blynyddoedd cynnar/cynradd; dinasyddiaeth; sgiliau astudio; ymchwil a lleoliad.

Gofynion mynediad

Rhaid i chi gael TGAU Cymraeg neu Saesneg (gradd C neu uwch) ac (i) 240 pwynt yn Lefel A neu (ii) un o’r cymwysterau canlynol neu gyfwerth: Diploma BTEC yn y Blynyddoedd Cynnar (Teilyngdod), Diploma CACHE mewn Gofal Plant ac Addysg (240 pwynt), NVQ (Lefel 3) sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant, BTEC Astudiaethau Iechyd (Teilyngdod), Diploma Mynediad i Addysg Uwch, GNVQ / TAAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol (240 pwynt). Disgwylir hefyd fod gennych brofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd. Gweler y gofynion cyffredinol.

Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y cyrsiau hyn bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen Swyddfa Cofnodion Troseddol a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas ar gyfer gweithio gyda phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed.

Côd UCAS

Llawn amser: i'w gadarnhau
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 6 mlynedd

* Mae’r cwrs yma yn disgwyl cael ei ddilysu.

FdA Gofal ac Addysg Plentyndod Cynnar*

Cynnwys y cwrs

Mae’r radd hon wedi’i bwriadu ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant rhwng 3 a 7 oed. Os hoffech ddatblygu eich proffesiynoldeb wrth weithio gyda phlant a theuluoedd, bydd y cwrs hwn yn datblygu arbenigedd ar gyfer darparu yng Nghyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar. Byddwch yn datblygu sgiliau a dealltwriaeth o weithio gyda phlant, yn ogystal â’u teuluoedd. Bydd y sgiliau hyn yn cynnwys datblygiad plant, meithrin perthynas, a chwricwlwm ar gyfer plant a chwarae.

Gofynion mynediad

Cymhwyster blynyddoedd cynnar perthnasol ar Lefel 3, yn ogystal â phrofiad gwaith dwy flynedd o leiaf gyda phlant y blynyddoedd cynnar neu gyfnod allweddol un, mae’n rhaid i chi fod yn gweithio mewn lleoliad blynyddoedd cynnar (cyflogedig neu wirfoddol) am o leiaf 150 awr y flwyddyn a bod y lleoliad yn fodlon eich cefnogi drwy eich gradd. Gweler y gofynion cyffredinol.

Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y cyrsiau hyn bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen Swyddfa Cofnodion Troseddol a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas ar gyfer gweithio gyda phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed.

Côd UCAS

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 2 flynedd

* Mae’r cwrs yma yn disgwyl cael ei ddilysu.

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk