Text begins here:
Gofal Plant Therapiwtig
Mae gan bob plentyn y gallu ynddynt eu hunain i wella a datblygu. Trwy gaffael y doniau i weithio yn therapiwtig gyda phlant emosiynol gythryblus, fe allech eu helpu i gyflawni hyn.
Mae’r cyrsiau hyn wedi cael eu cynllunio i hyrwyddo ac annog rhagoriaeth mewn gwaith gyda phlant sydd wedi cael eu trawmateiddio yn sgil dioddef camdriniaeth. Maent yn darparu dealltwriaeth hanfodol i drawma plentyndod a hyfforddiant gwella. Mae’r cyrsiau yn rhoi ffocws cryf ar brosesau grŵp gofal plant therapiwtig, ble mae’r sefyllfa ddysgu yn adlewyrchu lleoliad gofal plant therapiwtig.
Maent yn ymgorffori arfer da yn y sector yn ogystal â chanolbwyntio ar y pynciau/meysydd allweddol a fydd yn eich galluogi i fod yn arbenigwr ymroddedig.
Ffeithiau allweddol
- Mae’r graddau hyn yn seiliedig ar waith ac yn alwedigaethol berthnasol
- Cyflenwir rhai elfennau o’r cwrs ar-lein
- Addysgir y cyrsiau gan staff arbenigol sydd â chefndir mewn gwaith cymdeithasol ac yn weithredol yn y maes gofal plant
- Mae tiwtorialau ar gael yn Gymraeg
- Mae ymarfer myfyriol yn rhan bwysig o’r cyrsiau
Cyfleoedd gyrfa
Mae gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion y graddau hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant wedi’u trawmateiddio sydd mewn gofal preswyl. Byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r radd anrhydedd ar ôl cwblhau’r radd sylfaen yn llwyddiannus.
Cynnwys y cwrs
BA (Anrh) Gofal Plant Therapiwtig
Mae’r cwrs atodol hwn yn canolbwyntio ar gymhwyso gofal plant therapiwtig mewn gwahanol asiantaethau a lleoliadau. Mae myfyrwyr a staff yn cydweithio fel cymuned sy’n dysgu ar ystod o ddulliau mewn gofal plant therapiwtig gan gynnwys: arfer gwrth-ormesol, gwaith â ffocws iddo, gwaith
grwˆ p, materion moesegol a rheolaeth. Ceir pwyslais parhaus ar y gorgyffwrdd a’r cysylltiadau rhwng dysgu personol, proffesiynol ac academaidd, a darperir cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.
Asesu
Ceir ystod o ddulliau asesu ar gyfer y cwrs yma gan gynnwys astudiaethau achos, cyflwyniadau a thraethodau. Bydd angen cwblhau traethawd estynedig fel rhan o’r asesu terfynol.
Gofynion mynediad
Gallwch symud ymlaen i’r radd anrhydedd ar ôl cwblhau’r radd sylfaen yn llwyddiannus. Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y cwrs yma, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas i weithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed.
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 2 flynedd, atodol o FdA
FdA Gofal Plant Therapiwtig
Byddwch yn astudio’r sylfeini ar gyfer cynorthwyo gwellhad plant wedi’u trawmateiddio gan gynnwys y modd y mae prosesau gwella yn cael eu cyflenwi a gweithdrefnau, triniaethau a mesurau arfer gorau. Mae rhai o’r materion a drafodir yn cynnwys y modd y mae plant yn datblygu, sut i helpu plant i ddelio gyda cholled, ymlyniad a galar, hunaniaeth ac amrywiaeth a materion yn ymwneud â datblygiad rhywiol. Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth am ddeallusrwydd emosiynol, yn gwella eich cyfathrebu gyda phlant ac yn dysgu sut i annog plant i gyfathrebu.
Asesu
Ceir ystod eang o ddulliau asesu ar gyfer y cwrs yma, gan gynnwys portffolios, astudiaethau achos, cyflwyniadau, traethodau, gweithlyfrau a sylwebaethau.
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i chi fod yn gweithio mewn lleoliad ble’r ydych mewn cysylltiad â phlant sydd yn gwella o drawma. Mae’n rhaid i chi hefyd allu trefnu amser i ffwrdd o’ch gweithle er mwyn mynychu darlithoedd. Os nad oes gennych brofiad cyflogaeth perthnasol fe’ch cynghorir i gysylltu â SACCS (www.saccs.co.uk) i ddechrau am fanylion cyfleoedd cyflogaeth a allai eich galluogi i gael eich derbyn ar y cwrs. Gweler ein Criminal Records Bureau (CRB) form.
Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y cwrs yma, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen Cwestiynnau a Ofynir yn Aml a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas i weithio gyda phlant ac oedolion sy’n agored i niwed.
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 2 flynedd
FdA Gofal Plant Therapiwtig - Cwestiynnau a Ofynir yn Aml
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|