Text begins here:
Datblygiad Cynaliadwy
BSc (Anrh) Datblygu Cynaliadwy
Y diwydiant datblygu cynaliadwy yw un o'r rhai mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae galw mawr am weithwyr proffesiynol yn y ddisgyblaeth hon i reoli prosiectau adeiladu cynaliadwy ledled y byd.
Mae cynllunwyr, adeiladwyr a rheolwyr wedi bod yn gweithio i gyrraedd targedau carbon isel ac effeithlonrwydd ynni ers nifer o flynyddoedd. Mae’r radd hon yn canolbwyntio ar yr arferion gorau ledled y maes amgylchedd adeiledig. Nod y cwrs yw paratoi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol i ddiwallu anghenion cyflogwyr sydd angen ffordd integredig o fynd ati mewn datblygiadau newydd ac wrth adnewyddu ac ailddefnyddio adeiladau sy'n bodoli eisoes.
Ffeithiau allweddol
- Mae’r radd hon wedi’i hachredu yn y DU ac Ewrop gan Gymdeithas Ewropeaidd y Peirianwyr Proffesiynol
- Byddwch yn gymwys i ymuno â Chymdeithas y Peirianwyr Adeiladu (ABE) a Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB) ar lefel myfyrwyr, ar argymhelliad tiwtor, ac mae aelodaeth fel arfer am ddim neu am bris gostyngol
- Mae cyfle yn y radd i archwilio meysydd o ddiddordeb unigol i chi, er bod pwyslais arbennig ar ddulliau adeiladu modern sy'n defnyddio deunyddiau cynaliadwy ac effeithiau darparu ar economïau lleol
Cynnwys y cwrs
BSc (Anrh) Datblygu Cynaliadwy
Mae'r cwrs yn cwmpasu ystod eang o bynciau:
- datblygu’r amgylchedd adeiledig
- y gyfraith
- economeg
- adeiladu
- y farchnad eiddo
- syrfeio a phrisio
- materion ynni adnewyddadwy
- cynaliadwyedd wrth ymarfer
- mae astudiaethau rhyng-broffesiynol yn eich galluogi i ymarfer sgiliau gwaith tîm a chyfrifoldeb corfforaethol
Byddwch yn datblygu gwybodaeth dechnegol yn ogystal â datblygu’r sgiliau canlynol:
- arwain tîm
- dadansoddi ac ymchwiliadau
- cyflwyniadau
- datrys problemau
- sgiliau arloesi a dylunio
Asesu
Mae’r dulliau asesu yn cynnwys tasgau seiliedig-ar-waith dynwaredol, cyflwyniadau, dyluniadau, adroddiadau proffesiynol ac aseiniadau grŵp gyda thasgau tîm, rhai ohonynt yn amser reoledig.
Gofynion mynediad
Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydedd yw 240 pwynt UCAS yn lefel A2 neu gyfatebol. Croesewir ymgeiswyr gyda chymwysterau eraill a/neu brofiad perthnasol. Gallai y rheiny gyda chymwysterau proffesiynol neu gymwysterau lefel addysg uwch gael mynediad ar lefel uwch.
Rhan-amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan-amser: 5 mlynedd
O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|