Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Darlledu a Newyddiaduraeth

BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau'r Cyfryngau

BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth ac Astudiaethau’r Sgrîn

Does dim byd tebyg i’r wefr o weithio yn y cyfryngau – mae’n gyffrous, yn rhoi boddhad mawr, yn llawn o amrywiaeth – ond ble mae eich dawn ar ei chryfaf?Newyddiaduraeth print, amlgyfrwng, yn gyflwynydd neu tu ôl i’r llenni yn cynhyrchu radio a theledu?

Mae’n hawdd gweld pam fod cynifer o bobl yn cael eu denu i yrfaoedd ym myd teledu, radio, print a’r cyfryngau ar-lein. Mae pob un o’r cyfryngau hyn yn datblygu’n gyflym ac ni chewch ddau ddiwrnod sydd yr un fath. Bydd ein cyrsiau Darlledu a Newyddiaduraeth yn eich paratoi am fywyd gwerth chweil ym myd y cyfryngau. Byddwn yn dangos i chi sut i gael gafael ar ddeunydd a llunio adroddiadau newyddion ac eitemau ar gyfer radio, teledu, papurau newydd, cylchgronau a gwefannau.

Mae ffocws cryf ar y cyfryngau newydd, felly mae cynhyrchu fideos a deunydd sain ar gyfer y we yn rhannau allweddol o’r cwrs. Erbyn diwedd eich astudiaethau bydd gennych hefyd sgiliau cyfathrebu gwych. Os ydych chi eisiau gweithio fel newyddiadurwr amlgyfrwng i’r wasg, mae’n bosibl mai ein Tystysgrif Addysg Uwch mewn Newyddiaduraeth, wedi’i hachredu gan gorff y diwydiant sef y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr (NCTJ), yw’r union beth rydych yn chwilio amdano.

Diolch i bartneriaeth â NWN Media Cyf., mae cyfle ar y cwrs blwyddyn hwn i dreulio deuddydd bob wythnos ar bapur newydd blaenllaw yng Ngogledd Cymru neu Gaer.

Ffeithiau allweddol

  • Adeilad newydd i’r Diwydiannau Creadigol yn llawn o’r offer technolegol diweddaraf ar gyfer newyddiadurwyr darlledu ac amlgyfrwng
  • Addysgir gan ddarlithwyr sydd wrthi’n gweithio ym myd y cyfryngau ac sydd â blynyddoedd o brofiad ym maes darlledu, newyddiaduraeth, ysgrifennu copi a chysylltiadau cyhoeddus
  • Mae Calon FM, gorsaf radio gymunedol, yn darlledu’n fyw oddi ar ein campws yn Wrecsam. Mae cyfleoedd i gymryd rhan tu ôl i’r llenni, cynhyrchu rhaglenni, creu deunydd sain a fideo ar gyfer gwefan Calon FM neu fod yn gyflwynydd
  • Profiad ymarferol – cyfle i weithio ar brosiectau byw ym maes darlledu ac argraffu
  • Cyfleoedd profiad gwaith rhagorol – mae cydweithio agos â’n Canolfan Gyrfaoedd yn rhoi mynediad i gyfoeth o leoliadau gwaith yn y cyfryngau

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

  • dulliau ymchwil i newyddiadurwyr a darlledwyr
  • newyddiaduraeth y llawr gyntaf
  • sgiliau personol, proffesiynol ac academaidd
  • y broses gomisiynu - gwerthu syniadau
  • y busnes cyfryngau
  • newyddiaduraeth amlgyfrwng
  • darlledu cymhwysol
  • y gyfraith a moeseg yn y cyfryngau

Cyfleoedd gyrfa

  • darlledu ar y radio a theledu
  • newyddiadurwr y wasg, cylchgrawn neu ar-lein
  • swyddfa cysylltiadau cyhoeddus
  • swyddog cyfathrebu corfforaethol
  • gweithiwr proffesiynol yn y cyfryngau digidol

Cynnwys y cwrs

BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau’r Cyfryngau

Mae Cysylltiadau’r Cyfryngau yn canolbwyntio ar hanes cyfathrebu i gynulleidfaoedd torfol a dod i ddeall y damcaniaethau sy’n sail i gyfathrebu negeseuon. Mae’r pynciau hyn yn cyd-fynd yn dda ag agweddau mwy ymarferol darlledu a newyddiaduraeth.

Asesu

Asesir ar gyfer y rhaglen hon trwy bortffolio, cyfarwyddiadau prosiect ac adroddiadau a chyfnodolion.

Gofynion mynediad

240 pwynt yn lefel A neu gyfwerth.

Côd UCAS

Llawn amser: PP35

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5 mlynedd

Cwestiynau a holir yn am - BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau’r Cyfryngau


BA (Anrh) Darlledu, Newyddiaduraeth ac Astudiaethau’r Sgrîn

Mae bywyd yn yr 21ain ganrif wedi ei nodweddu gan yr hyn yr ydym yn ei weld drwy’r sgrîn - setiau teledu, sgrîniau sinema, gliniaduron, nodiaduron a gêmau fideo. Mae Astudiaethau’r Sgrîn yn edrych yn fanwl ar sut yr ydym yn dehongli negeseuon o’r sgrîn – sef diwylliant sgrîn – gan gynnwys y rheiny o gêmau cyfrifiadurol a gwefannau megis YouTube a Facebook.

Asesu

Asesir ar gyfer y rhaglen hon trwy bortffolio, cyfarwyddiadau prosiect ac adroddiadau a chyfnodolion.

Gofynion mynediad

240 pwynt yn lefel A neu gyfwerth.

Côd UCAS

Llawn amser: P900

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd

Rhan amser: 5 mlynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk