Text begins here:
Cyfrifiadura Cymhwysol
BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol
FdSc Cyfrifiadura Cymhwysol
Nid yw’n syndod fod galw mawr am arbenigwyr cyfrifiadurol, mae cyfrifiaduron a thechnoleg gyfrifiadurol bellach yn rhan o bopeth a wnawn bron iawn. Mae’r effaith y mae cyfrifiaduron yn ei gael ar bob agwedd o’n bywydau wedi dwysáu yn drawiadol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda thwf y Rhyngrwyd a chyfathrebu symudol yn gwthio newid yn ei flaen. Erbyn hyn, defnyddir cyfrifiaduron o fewn pob busnes, diwydiant a sefydliad bron.
Datblygwyd y cwrs hwn i gyflenwi angen cydnabyddedig am fwy o arbenigwyr cyfrifiadurol sy’n gallu datblygu meddalwedd cyfrifiadurol a chynllunio a chynnal systemau cyfrifiadurol. Drwy astudio Cyfrifiadura Cymhwysol, byddwch yn datblygu nifer o sgiliau ymarferol fydd yn ddefnyddiol mewn unrhyw faes busnes, megis sut i ddefnyddio technoleg gwybodaeth yn effeithiol yn ogystal â dod i ddeall meddalwedd arbenigol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno eich syniadau.
Wrth i chi symud ymlaen drwy’r cwrs byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol, gan gynnwys hunan-ysgogiad, rheoli amser, datrys problemau a rheoli prosiectau.
Ffeithiau allweddol
- Mae’r cyrsiau hyn yn ymateb i fylchau sgiliau cydnabyddedig Byddant yn rhoi’r wybodaeth, dealltwriaeth a'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogaeth lwyddiannus
- Ceisir achrediad ar gyfer y radd anrhydedd gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS)
- Mae Cynllunio Datblygiad Personol wedi'i integreiddio trwy’r cwrs cyfan er mwyn datblygu'r fframwaith sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheoli effeithiol yn bersonol, yn academaidd ac o ran gyrfa
- Y Brifysgol yw’r orau yng Nghymru ar gyfer rhagolygon graddedigion ym meysydd Cyfrifiadureg a TG, yn ôl The Times
- Mae’r Brifysgol yn gartref i CAIR – sef canolfan ymchwil adnabyddus am ymchwil gymwysedig yn ymwneud â’r rhyngrwyd
Cyfleoedd gyrfa
- dylunydd rhwydwaith
- rheolwr rhwydwaith
- datblygwr/datblygwr rhaglenni meddalwedd
- datblygwr gwe
- rolau rhyngweithiol amlgyfrwng
- cymorth TG
- ymgynghoriaeth TG
- e-fasnach
Cynnwys nodweddiadol y cwrs
Ar y cyrsiau Cyfrifiadura Cymhwysol cewch y cyfle i addasu’r cwrs fel y mynnoch o’r modiwlau sydd ar gael yng ngraddau cyfrifiadurol eraill y Brifysgol er mwyn bodloni eich diddordebau personol a’ch dyheadau gyrfa chi.
Cynnwys y cwrs
BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar sylfaen o ‘gyfrifiadura craidd’ ac yn eich cyflwyno i ddatblygiad meddalwedd a dylunio cronfeydd data gydag elfennau o rwydweithiau cyfathrebu a’r Rhyngrwyd. Cefnogir y sylfaen eang yma o wybodaeth gan sgiliau proffesiynol cadarn sydd yn hanfodol i waith tîm, datrys problemau a datblygu gyrfa. Yn nes ymlaen byddwch yn datblygu gallu mwy arbenigol mewn meysydd sy’n cyd-fynd orau â’ch dyheadau o ran gyrfa.
Asesu
Gwelir asesu fel rhan annatod o ddysgu ac mae meini prawf asesu yn gysylltiedig â chanlyniadau dysgu modiwlau unigol. Mae’r dulliau asesu yn cynnwys asesiadau ymarferol, adroddiadau a thraethodau, dadansoddi astudiaethau achos, cyflwyniadau llafar, papurau seminar, gwaith prosiect, Portffolio Datblygiad Personol, arholiadau a phrofion dosbarth heb eu gweld. Bydd asesu yn cynnwys aseinaidau unigol a grŵp / tîm.
Gofynion mynediad
Y gofynion cyffredinol ar gyfer y radd anrhydedd yw 240 pwynt UCAS yn lefel A neu gyfwerth. Yn ogystal, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi pasio pum TGAU gyda graddau A, B neu C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.
Côd UCAS
Llawn amser: G490
Rhan amser: Gwnewch gais yn uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd Rhan amser: 5 mlynedd
FdSc Cyfrifiadura Cymhwysol
Mae’r cwrs hwn yn gwrs ymarferol ei natur a’i nod yw eich darparu â’r theori a’r wybodaeth sy’n sail i systemau cyfrifiadurol, gan eich paratoi ar gyfer cyflogaeth fel Ymarferydd Cyfrifiaduron. Bydd yn rhoi cyfle i chi i ddeall natur ac egwyddorion prosesau busnes ac i gael profiad uniongyrchol ohonynt.
Asesu
Asesir trwy waith cwrs unigol a thîm ynghyd ag arddangos gallu i ddarparu gwaith ymarferol a phrosiectau.
Gofynion mynediad
Y gofynion cyffredinol ar gyfer y radd sylfaen yw 140 pwynt UCAS yn lefel A neu gyfwerth.
Côd UCAS
Llawn amser: G492
Rhan amser: Gwnewch gais yn uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 2 flynedd Rhan amser: 3 blynedd
O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau.
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|