Text begins here:
Cyfrifeg Busnes
BA (Anhr) Cyfrifeg Busnes
FdA Rheolaeth Busnes gyda Chyfrifeg
Cyfrifeg yw asgwrn cefn busnesau a diwydiant. Mae nifer o brif swyddogion gweithredol yn dechrau ar eu gyrfaoedd busnes mewn cyfrifeg neu gynllunio a rheoli ariannol.
Mewn unrhyw fusnes, mae deall arian y sefydliad neu gwmni yn dyngedfennol wrth wneud penderfyniadau ac i lwyddiant y busnes yn y dyfodol. Nid yn unig y bydd astudio Cyfrifeg Busnes yn datblygu sgiliau rhifyddol, ond bydd hefyd yn eich dysgu sut i ddadansoddi cyfrifon busnes a’u defnyddio fel sail ar gyfer penderfyniadau a chyfeiriad y busnes. Gellir cymhwyso’r sgiliau datrys problemau hyn i ystod o weithdrefnau ac arferion busnes.
Ffeithiau allweddol
- Darlithwyr sydd â chryn brofiad diwydiannol a phroffesiynol
- Cysylltiadau rhagorol â chyrff proffesiynol a busnesau lleol
- Ystod eang o astudiaethau sy’n cwmpasu pynciau busnes cyffredinol yn ogystal â materion ariannol
- Mae blwyddyn gyntaf gyffredin yn golygu y cewch ddewis teitl arbenigol terfynol eich gradd ar ddiwedd y flwyddyn honno
- Gallai’r radd arwain at gael eich eithrio o ystod o arholiadau proffesiynol ar lefel Sylfaen a helpu tuag at aelodaeth o gyrff cyfrifeg proffesiynol megis Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA) neu Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA)
- Mae cynllunio datblygiad personol wedi’i integreiddio trwy gydol y cwrs. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn datblygu’r fframwaith sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheolaeth effeithiol yn bersonol, yn academaidd ac o ran gyrfa
Cyfleoedd gyrfa
Mae Cyfrifeg Busnes yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Mae llawer o sefydliadau yn helpu graddedigion i gael cymwysterau proffesiynol i ddod yn gyfrifyddion. Mae’r cwrs hwn yn rhoi sgiliau cyfrifyddu i chi yn ogystal â’r sgiliau i fod yn rheolwr llwyddiannus.
Cynnwys y cwrs
BA (Anhr) Cyfrifeg Busnes
Wrth astudio’r cwrs hwn byddwch yn ymdrin ag ystod o bynciau sydd yn sylfaenol i arferion busnes da gan gynnwys marchnata, economeg, rheoli adnoddau dynol a chyfrifeg. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau TG a chyfathrebu yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o’r amgylchedd busnes, cyfrifyddu ariannol, treth, rheoli arian ac adroddiadau ariannol, rheoli strategol a busnes rhyngwladol. Cewch y cyfle i ddewis o blith opsiynau amrywiol megis arwain, cyfraith busnes, dadansoddi ystadegau, marchnata, a phrosiect sy’n seiliedig ar waith. Byddwch yn astudio prosiect ymchwil cyfrifeg ym mlwyddyn olaf y radd.
Asesu
Mae asesu yn gyfuniad o aseinaidau ac arholiadau.
Mae aseiniadau yn cynnwys astudiaethau achos, cyflwyniadau grŵp, adroddiadau, trafodaethau ar-lein, prosiectau ymchwil, dadansoddi ac adroddiadau cwmni.
Gofynion mynediad
240 pwynt yn lefel A neu gyfwerth.
Côd UCAS
Llawn amser: NN14
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd
FdA Rheolaeth Busnes gyda Chyfrifeg
Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio hanfodion busnes, gan fynd i’r afael â phynciau megis rheoli, cyfrifeg, rheoli adnoddau dynol, amgylchedd busnes a marchnata, yn ogystal â chyfrifyddu ariannol a threthi busnes. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau astudio a sgiliau seiliedig ar waith. Wrth i chi fynd ymlaen drwy’r cwrs byddwch yn dysgu am reoli gwybodaeth ariannol, cynllunio marchnata ac ymddygiad sefydliadol yn ogystal â chwblhau prosiect sy’n seiliedig ar waith. Ar ôl cwblhau’r FdA yn llwyddiannus, efallai y byddwch am ystyried mynd ymlaen i wneud y cwrs BA (Anrh) Cyfrifeg Busnes. Mae hyn fel arfer yn golygu ymuno â blwyddyn olaf y cwrs hwnnw.
Asesu
Mae asesu yn gyfuniad o ddysgu seiliedig ar waith, aseiniadau ac arholiadau. Mae aseiniadau yn cynnwys astudiaethau achos, cyflwyniadau grŵp, adroddiadau a dadansoddi cwmni.
Gofynion mynediad
120 pwynt o leiafswm o 1 lefel A neu gyfwerth. Mae’n bosibl yr ystyrir profiad seiliedig ar waith addas yn ogystal.
Côd UCAS
Llawn amser: N2N4
Hyd
Llawn amser: 2 flynedd
Cysylltwch â ni
Os ydych yn fyfyriwr/wraig o’r DU neu’r UE ac eisiau mwy o wybodaeth, neu er mwyn trafod unrhyw agwedd benodol ar y cwrs yma neu broses dderbyn ein Ysgol Fusnes, cysylltwch â SID (Desg Gwybodaeth Myfyrwyr).
Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr
Rhif ffôn: 01978 293439 Ebost: sid@glyndwr.ac.uk
O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau.
|