Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Astudiaethau Cymraeg

BA (Anrh) Cymraeg Proffesiynol*

FdA Cymraeg Proffesiynol*

Yn sgil gofynion gwlad ddwyieithog, mae mwy a mwy o fusnesau yn galw am sgiliau ieithyddol Cymraeg uwch a chyfieithu Saesneg/Cymraeg.
Mae Cymru yn wlad ddwyieithog sydd, yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, wedi gweld twf arwyddocaol yn y defnydd o Gymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol a masnachol. Mae hyn wedi hybu cynnydd sylweddol yn yr angen am sgiliau cyfathrebu a chyfieithu o ansawdd uchel.  
Rydym wedi creu ein rhaglenni astudiaethau Cymraeg gyda busnesau mewn golwg. Mae mwy a mwy o gwmnïau yn cydnabod yr angen i gyfathrebu gyda’u cwsmeriaid – a’u staff – yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gan hynny mae sgiliau cyfieithu a chyfathrebu effeithiol yn hanfodol i ffyniant economi Cymru. 

Ffeithiau allweddol

  • Cyflenwir y cwrs ar-lein yn bennaf
  • Gweithdai a addysgir yn Ystafell William Morgan, ystafell bwrpasol ar gyfer addysgu’r Gymraeg, gyda chyfleusterau digidol rhyngwladol-flaenllaw  
  • Defnydd o gyfleusterau TG rhagorol, llyfrgell â stoc dda a chyfleusterau cefnogi myfyrwyr
  • Cwrs wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â’r diwydiant cysylltiadau Cymreig
  • Cwrs ymarferol sy’n eich galluogi i ymarfer eich sgiliau mewn prosiectau go iawn
  • Darlithoedd gwadd gan bobl broffesiynol sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cyflenwir y cyrsiau i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg

“Mae’r cwrs yn cynnwys elfennau yn ymwneud ag iaith, gramadeg ac egwyddorion ac arddulliau cyfieithu. Mae hyn wedi rhoi hyder i mi siarad Cymraeg o ddydd i ddydd yn y gymuned unwaith yn rhagor.”

Sarah-Lou Gaffney, graddedig FdA Cyfieithu Cymraeg

Cynnwys nodweddiadol y cwrs

Mae’r cyrsiau hyn yn rhannu modiwlau craidd cyffredin megis:

  • sgiliau Cymraeg uwch
  • egwyddorion cyfieithu
  • datblygiad personol a phroffesiynol
  • tafodieitheg
  • cyfieithu technegol

Cyfleoedd gyrfa

Datblygwyd y cwrs yma i gwrdd â  gofynion cyflogwyr. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfieithu yn ogystal ag amrywiaeth eang o gymwyseddau, sgiliau generig a phenodol, nodweddion a galluoedd sydd yn werthfawr iawn yn y gweithle dwyieithog, gan gynnwys technoleg gwybodaeth, gwerthuso, dadansoddi, a chyfathrebu ysgrifenedig Cymraeg mewn amryw o ddiwygiau ac arddulliau

BA (Anrh) Cymraeg Proffesiyno*

Mae’r cwrs gradd anrhydedd Cymraeg galwedigaethol yma yn eich darparu gydag ystod eang o sgiliau ieithyddol allweddol a fydd yn eich galluogi i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn amryw o leoliadau proffesiynol. Cynlluniwyd y rhaglen hon ar y cyd â phartneriaid diwydiannol ac fe ddylai eich darparu gyda’r sgiliau sydd ar gyflogwyr eu hangen.
 
FdA Cymraeg Proffesiyno*

Mae’r rhaglen yma wedi’i chynllunio ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n dymuno gweithio mewn amryw o feysydd sy’n ymwneud â chyfathrebu ac yn galw am y defnydd o sgiliau ieithyddol Cymraeg uwch. Gallai’r rhain gynnwys meysydd fel marchnata, newyddiaduraeth a’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a chyfieithu. Gallwch symud ymlaen o’r FdA Cymraeg Galwedigaethol i’n gradd anrhydedd lawn, BA Cymraeg Galwedigaethol.

Asesu

Mae’r strategaeth asesu yn fyfyriwr ganolog ac yn adlewyrchu gofynion arfer gorau parthed cyfieithu. Asesir myfyrwyr mewn amrywiaeth eang o ddiwygiau gan gynnwys gwaith cwrs, ymarferion seiliedig ar amser, portffolios a chyfnodolion, a chyflwyniadau.

Gofynion mynediad

120 pwynt UCAS neu gyfwerth. Ystyrir pob ymgeisydd yn unigol, ac ystyrir ysgogiad ac ymroddiad ynghyd â gofynion academaidd. Os nad ydych yn cwrdd â’r gofynion mynediad academaidd arferol fe allwch gael eich derbyn i flwyddyn gyntaf y cwrs, ar ôl cyfweliad, fel y gwêl tiwtor y rhaglen yn ddoeth ac yn unol fel arfer â rheolaethau academaidd Prifysgol Glyndŵr ar gyfer cyrsiau israddedig. 

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 2 flynedd

*Cael eu dilysu

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk