Cyfiawnder Troseddol
BA (Anrh) Cyfiawnder Troseddol
Mae’r cwrs hwn yn eich annog i ddatblygu dealltwriaeth eang o gyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol trosedd. Y themâu allweddol yw: deall a chyd-destunoli trosedd, archwilio rôl asiantaethau allweddol, astudio maes datblygol asesu risg ac edrych ar ffyrdd o weithio yn adeiladol gyda throseddwyr. Yn ogystal byddwch yn datblygu dealltwriaeth o natur, cyd-destun a heriau ymddygiad troseddol.
Ffeithiau allweddol
- Mae gan y darlithwyr yn y maes hwn brofiad helaeth o weithio yn y sector cyfiawnder troseddol ac maent wrthi’n ymchwilio ym meysydd cyfiawnder ieuenctid, menywod a throsedd, a chamddefnyddio sylweddau
- Cysylltiadau da gyda chyflogwyr ac asiantaethau cyfiawnder troseddol
- Defnyddir dulliau arloesol a hyblyg gan gynnwys 50% o addysgu yn cael ei gyflenwi ar-lein
Cyfleoedd gyrfa
Mae yna ystod ragorol o gyfleoedd gyrfa ym maes cyfiawnder troseddol a chymuned. Mae graddedigion wedi symud ymlaen i yrfaoedd gyda’r heddlu a’r gwasanaethau prawf, cefnogi dioddefwyr, y gwasanaeth carchar, y gwasanaeth troseddau ieuenctid ac asiantaethau alcohol a chyffuriau, yn ogystal â swyddi yn y sector gwirfoddol.
