Text begins here:
Astudiaethau Ieuenctid a Chymuned
BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Gall strategaethau ymgysylltu ac ailymgysylltu wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc a’r cymdeithasau y maent yn rhan ohonynt. Gall eich ymroddiad a’ch arloesedd chi yrru’r strategaethau hyn yn eu blaen.
Mae fframweithiau polisi – gan gynnwys Cymunedau’r Gyntaf, Strategaeth Genedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru, yn ogystal ag Aiming high for young people, Neighbourhood Renewal ac Every Youth Matters yn Lloegr – oll wedi cyfuno i osod gwaith ieuenctid a chymuned wrth graidd polisïau cyfredol y llywodraeth.
Gan geisio gwella gwaith gyda phobl ifanc, grwpiau a chymunedau wedi’u heithrio, mae’r newidiadau wedi dod â buddsoddiad anferth yn eu sgil gan greu llawer o fentrau a phrosiectau newydd o fewn y sectorau statudol, gwirfoddol a chymunedol.
Bydd rhai o’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu ar y cwrs yma yn ffurfiau datblygedig o gyfathrebu, technoleg gwybodaeth a gwaith tîm a fydd yn hybu eich datblygiad personol. Gyda galw heb ei ail am bobl sydd â chymwysterau ieuenctid a chymuned, bydd y cyrsiau hyn yn rhoi cymhwyster proffesiynol a statws proffesiynol i chi.
Ffeithiau allweddol
- Y radd Astudiaethau Ieuenctid a Chymuned yw’r cwrs hynaf a mwyaf helaeth o’i fath yng Nghymru
- Mae’r cwrs wedi cael cydnabyddiaeth broffesiynol ers 1978 ac yn cael ei ddiweddaru i gwrdd â gofynion mynediad gradd-gyfan i’r proffesiwn yn 2010
- Mae cynnwys y cwrs yn ymwneud ag agendâu polisi’r DU, gan ganolbwyntio ar Gymru, er gyda safbwyntiau Ewropeaidd a Rhyngwladol yn cael eu cyflwyno trwy fodiwlau dewisol
- Mae modiwlau gwaith maes yn rhan allweddol o’r cwrs er mwyn helpu i integreiddio damcaniaeth ac ymarfer
- Mae dysgu seiliedig ar waith yn cael eu goruchwylio gan ymarferwyr profiadol
Cyfleoedd gyrfa
Mae gan lawer o raddedigion y cyrsiau hyn yrfaoedd o fewn awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol a chymunedol neu ddarparwyr addysg. Ledled Cymru a Lloegr, mae’r proffesiwn ieuenctid a chymuned wedi dod yn un gradd-gyfan mewn ymateb i anghenion cyflogwyr i gael gweithlu tra addysgedig.
Cynnwys y cwrs
BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Bydd y cwrs yma yn eich darparu gyda gwybodaeth fanwl am waith ieuenctid a chymuned, gan gynnwys sefydlu gwerthoedd a sgiliau craidd, datblygu a chyflenwi cyfleoedd addysg anffurfiol ac archwilio prosesau rheolaeth a pholisi mewn cyflenwi gwasanaeth.
Byddwch yn gallu dewis modiwlau i adlewyrchu eich diddordebau eich hun. Bydd yna amrywiaeth o opsiynau ar gynnig sydd, yn y gorffennol, wedi cynnwys diwylliant ieuenctid a chelfyddydau cymunedol, dysgu anffurfiol, safbwyntiau Ewropeaidd a’r cyfle i ymgymryd â phrosiect dysgu trafodedig. Mae elfen ymarferol sylweddol i’r cwrs sy’n golygu y cewch eich lleoli gyda chyflogwyr yn y Deyrnas Unedig, er bod myfyrwyr wedi bod ar leoliadau ledled Ewrop a Tsieina mewn blynyddoedd diweddar.
Blwyddyn 1
Deall Cymdeithas Datblygu a Rheoli Arfer Myfyriol Deall yr Hunan ac Eraill Datblygu Dysg Seiliedig ar Faterion Lleoliad Gwaith Maes 1 ‘Sylfeini Arfer Myfyriol’
Blwyddyn 2
Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol Sgiliau Creadigol ar gyfer Ymlyniad Rheoli Arfer Seiliedig ar Dystiolaeth Lleoliad Gwaith Maes 2 ‘Arfer Effeithiol’
Blwyddyn 3
Dadansoddiad Beirniadol o Addysg Anffurfiol Arwain a Rheoli Addysg Anffurfiol Safbwyntiau Rhyngwladol mewn Dysgu Gydol Oes Astudiaethau Proffesiynol mewn Goruchwyliaeth Lleoliad Gwaith Maes 3 ‘Arfer Myfyriol Proffesiynol’
Cwestiynau a Holir yn Aml - BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Asesu
Mae dulliau asesu yn cynnwys tasgau mewn ymarfer, adroddiadau a chyflwyniadau. Bydd angen i chi wneud traethawd estynedig fel rhan o’ch asesiad terfynol.
Gofynion mynediad
Ceir mynediad i’r radd anrhydedd yma ac i un o’r ddwy radd sylfaen trwy UCAS ar gyfer myfyrwyr llawn-amser a thrwy wneud cais uniongyrchol i’r brifysgol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser. Bydd pob ymgeisydd a ystyrir yn addas yn cael eu cyfweld, a’r rheiny gydag anableddau neu o gyrsiau mynediad perthnasol yn cael cynnig cyfweliad yn awtomatig.
Cyn i chi gael cynnig lle diamod ar y cwrs yma bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen a thalu’r ffi briodol, fel y gellir gwirio a ydych yn addas i weithio gyda phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed.
Gweler y gofynion cyffredinol.
Côd UCAS
Llawn amser: L593 Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd Rhan amser: 5 mlynedd
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|