Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Astudiaethau Anifeiliaid

BSc (Anrh) Astudiaethau Anifeiliaid

FdSc Animal Studies

Beth am yrfa mewn amgylchedd amrywiol a gwerth chweil? Amcangyfrifir fod y diwydiant gofal anifeiliaid yn werth oddeutu £1 biliwn i Gynnyrch Domestig Gros y Deyrnas Unedig. Mae yna dros 13,000 o fusnesau yn cyflogi 47,500 o staff yn y DU. Gyda’r sgiliau cywir fe allech fod yn rhan o’r diwydiant cynyddol yma.

A ydych yn chwilio am yrfa foddhaus a llwyddiannus? Yna beth am baratoi ar gyfer swydd ym maes gofal anifeiliaid, ble gallech gael eich hun yn gweithio yn unrhyw le yn y byd gyda rhywogaethau gwahanol yn amrywio o fwncïod i bryfaid.

Bydd ein gradd sylfaen astudiaethau anifeiliaid yn sicrhau eich bod wedi’ch paratoi i roi’r driniaeth orau bosibl i anifeiliaid.

Mae yna alw cynyddol am arbenigwyr cymwys a medrus. Byddwn yn eich cyflwyno i fywyd yn y diwydiant gofal anifeiliaid, ac i’r materion a’r trafodaethau cyfredol yn ymwneud â lles ac anifeiliaid.

Ffeithiau allweddol

  • Astudiwch yn ein campws yn Llaneurgain, wedi’i osod yng nghefn gwlad gogoneddus Gogledd Cymru – amgylchedd delfrydol ar gyfer astudiaethau anifeiliaid
  • Mynediad i uned anifeiliaid ble ceir cannoedd o wahanol rywogaethau o anifeiliaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid egsotig
  • Cewch brofiad ymarferol o weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid mewn cyfleuster newydd sbon ar gyfer anifeiliaid a fferm anifeiliaid prin
  • Cewch ddatblygu gwybodaeth fanwl am ymddygiad anifeiliaid, hwsmonaeth, a hyfforddi
  • Amgylcheddau astudio trefol a gwledig – rhannwch eich amser rhwng Sir y Fflint a’n campws yn Wrecsam, ar gyrion y dref fwyaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
  • Cysylltiadau rhagorol gyda diwydiant. Cyfleoedd i sicrhau lleoliadau gwaith a fydd yn hybu eich rhagolygon gyrfaol. Cewch brofiad mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ymarferol, o waith mewn sw i hyfforddi cŵn cymorth
  • Staff sy’n weithredol mewn diwydiant ac sydd â sgiliau academaidd arbenigol a sgiliau ymarferol, ynghyd â phrofiad o weithio gydag amrywiaeth o anifeiliaid domestig a gwyllt
  • Ewch ymlaen i wneud gradd BSc (Anrh) lawn mewn Astudiaethau Anifeiliaid ar ôl cwblhau’r radd sylfaen (mae angen blwyddyn arall o astudio ar gyfer hyn, yn amodol ar gael ei ddilysu)

Cynnwys nodweddiadol y cwrs:

  • profiad gwaith yn y sector anifeiliaid
  • hwsmonaeth anifeiliaid caeth a chynllunio llociau
  • etholeg ac anthroswoleg
  • iechyd anifeiliaid
  • deiet a bwydo anifeiliaid
  • dysgu a hyfforddi anifeiliaid
  • cadwraeth

Cyfleoedd gyrfa

Mae’r cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant gofal anifeiliaid yn eang. Gallech fod yn gweithio mewn cyrff lles anifeiliaid, cadwraeth, swau a pharciau bywyd gwyllt, milfeddygfeydd, cwmnïau bwyd anifeiliaid a chwmnïau milfeddygol neu fferyllyddol. Mae yna gyfleoedd ar gyfer astudiaethau pellach ar gael, megis symud ymlaen i flwyddyn olaf gradd anrhydedd gysylltiedig. Gallai hyn arwain at yrfa mewn addysg neu ymchwil.

Cynnwys y cwrs

FdSc Astudiaethau Anifeiliaid

Bydd y pynciau a drafodir yn rhoi ystod o wybodaeth arbenigol a sgiliau ymarferol i chi.

Bydd y modiwl ‘gwyddor swolegol’ yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau labordy. Bydd astudio ‘moeseg a lles anifeiliaid’ yn rhoi cyfle i chi bwyso a mesur materion a gweithdrefnau sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid. Cewch ddysgu sut i reoli casgliadau o anifeiliaid a chynllunio llociau yn y rhan ‘hwsmonaeth anifeiliaid caeth’. Cewch astudio ymddygiad anifeiliaid a sut mae pobl yn rhyngweithio ag anifeiliaid.

Mae gwybodaeth am iechyd a deietau anifeiliaid, sut mae anifeiliaid yn dysgu a dulliau hyfforddi yn hanfodol os ydych am weithio ym maes gofal anifeiliaid felly byddwn yn eich cyflwyno i’r rhain hefyd.

Bydd ein cwrs FdSc Astudiaethau Anifeiliaid yn eich helpu i gael y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn
diwydiant cystadleuol sy’n datblygu’n gyflym. Ar ben y dysgu sy’n benodol i’r pwnc, byddwch hefyd yn ennill sgiliau gweithio mewn tîm, rheoli amser a gwerthuso beirniadol wrth i chi symud ymlaen trwy’r cwrs gradd.

Asesu

Mae’r cwrs yn cynnwys ystod o fodiwlau a asesir gan waith cwrs damcaniaethol, ac ymarferol mewn rhai achosion. Ceir arholiadau diwedd modiwl ar gyfer rhai modiwlau yn ogystal.

Gofynion mynediad

120 pwynt o lefel A/UG, Diploma Cenedlaethol neu gyfwerth (cyfanswm o 60 pwynt wedi’u cael o lefelau UG). Croesewir cymhwyster cysylltiedig ag anifeiliaid, megis Diploma Cenedlaethol mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu gymwysterau A2 cysylltiedig â Gwyddoniaeth yn arbennig. Yn ogystal, 4 TGAU gradd C neu uwch (gan gynnwys Gwyddoniaeth, Saesneg a Mathemateg) neu gyfwerth.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr heb gymwysterau safonol ond sy’n gallu dangos eu gallu i ddilyn y rhaglen yn llwyddiannus. Mae mynediad yn ddibynnol ar asesu profiad blaenorol, cyfweliad llwyddiannus, geirda ac asesu diagnostig i benderfynu a ydych yn addas ar gyfer y cwrs. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad yn hanfodol.

Côd UCAS

Llawn amser: D300
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 2 flynedd
Rhan amser: 4 blynedd


BSc (Anrh) Astudiaethau Anifeiliaid

Mae’r radd atodol yma am flwyddyn yn rhoi cyfle i chi barhau â’ch astudiaethau yn y maes a chael gradd anrhydedd lawn.

Gofynion mynediad

Gradd sylfaen neu gyfatebol mewn astudiaethau anifeiliaid neu bwnc cysylltiedig.

Côd UCAS

D301

Hyd

Llawn amser: 1 flwyddyn (atodol)

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk