Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Astudiaethau Adeiladu

BSc (Anrh) Astudiaethau Adeiladu (Rheoli Adeiladu)

Mae cadwraeth a rheoli ein hamgylchedd a’n treftadaeth adeiledig wrth wraidd y cwrs hwn. Ond rydym yn canolbwyntio ar y dyfodol – mae’r heriau sy'n wynebu gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn yn hanfodol i lwyddiant unrhyw strategaeth i frwydro yn erbyn cynhesu byd-eang a newid yn yr hinsawdd.

Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer ymarfer proffesiynol. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn technegau adeiladu traddodiadol a modern, yn ogystal ag ehangu eich gwybodaeth am y gyfraith, cynaliadwyedd, economeg, rheoli busnes a phatholeg diffygion a dirywiad.

Mae’r galw am adeiladau newydd yn gyson sefydlog, ac adeiladau presennol hefyd angen gofal a sylw i gynnal eu potensial. Mae’r amgylchedd adeiledig hefyd angen addasu i ofynion deddfwriaethol neu rai’r perchennog a’r preswylydd, yn ogystal â bodloni meini prawf perfformiad ac ymarferoldeb economaidd.

Ffeithiau allweddol

  • Grwpiau tiwtorial bychan eu maint yn golygu fod myfyrwyr yn cael llawer o gefnogaeth gan diwtoriaid
  • Mae’r cyrsiau wedi’u hachredu’n llawn gan ddau gorff proffesiynol - Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB) a Chymdeithas y Peirianwyr Adeiladu (ABE), gan roi mynediad i gymwysterau trosglwyddadwy yn Ewrop a Statws Siartredig yn y DU. Mae llwyddo i gael gradd anrhydedd yn sicrhau eithriad llawn o arholiadau proffesiynol yr ABE a’r CIOB
  • Pwyntiau mynediad a llwybrau dilyniant hyblyg
  • Mynediad uwch i’r rheiny sydd â chymwysterau proffesiynol neu academaidd perthnasol
  • Cyfleoedd ar gyfer ymweliadau i Ewrop a thramor

Dyma elfennau allweddol y cwrs:

  • cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni
  • y gyfraith
  • rheoli iechyd a diogelwch
  • tirfesur ymarferol
  • adeiladu
  • economeg
  • sgiliau rheoli proffesiynol a gwybodaeth fusnes

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn:

  • dylunio â chymorth cyfrifiadur
  • arwain tîm
  • dadansoddi ac ymchwilio
  • cyflwyno
  • datrys problemau
  • arloesi a sgiliau rheoli prosiect 

Cyfleoedd gyrfa

  • mae’r diwydiant adeiladu yn parhau i fod yn un o sectorau mwyaf yr economi
  • mae cyfleoedd ar gael yn lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol. Er enghraifft, mewn llywodraeth leol a chanolog, cymdeithasau tai, contractio adeiladu, datblygu eiddo a phractis proffesiynol
  • mae rheoli adeiladu yn gysylltiedig agos â gyrfaoedd mewn rheoli cynnal a chadw a datblygu cynaliadwy

Cynnwys y cwrs

BSc (Anrh) Astudiaethau Adeiladu (Rheoli Adeiladu)

Mae’r radd hon yn eich paratoi ar gyfer rheoli prosiectau adeiladu o bob maint. Mae'n eich paratoi i gymryd cyfrifoldebau rheoli cleientiaid, yn ogystal â bodloni cyflogwyr fod prosiectau yn cael eu cwblhau mewn pryd, a hynny i safon benodol ac o fewn y gyllideb.

Asesu

Mae asesu ar gyfer y cwrs yn seiliedig ar bortffolios, tasgau gweithle dynwaredol megis adroddiadau, papurau briffio, cyngor i gleientiaid a chyflwyno defnyddiau. Mae yna hefyd seminarau a gweithgareddau tîm.

Gofynion mynediad

240 pwynt UCAS yn lefel A2 neu gyfatebol.

Côd UCAS

Llawn amser: Astudiaethau Adeiladu (Rheolaeth Adeiladaeth) K222
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5/6 mlynedd

O 2012, ein gofynion academaidd cyffredinol ar gyfer gradd anrhydedd fydd 240 pwynt UCAS, a 120 pwynt UCAS ar gyfer gradd sylfaen. Os nad yw’r pwyntiau sydd eu hangen gennych, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol a chydag ystod o brofiadau. 

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk