Gwobr Cymdeithas Owain Glyndŵr
Cefndir
Yn 2010 fe dderbyniodd Prifysgol Glyndŵr rodd o hambwrdd arian gan Gymdeithas Owain Glyndŵr, i’w ddyfarnu i anrhydeddu cyn-fyfyriwr o’r brifysgol trwy ei gyflwyno yn y seremonïau graddio blynyddol. Caiff yr hambwrdd ei arddangos yn llyfrgell y Brifysgol a bydd enw’r enillydd yn flynyddol yn cael ei nodi ar fwrdd gerllaw. Bydd yr enillydd yn derbyn tystysgrif.
Canllawiau'r wobr
Dyfernir y wobr i gyn-fyfyriwr cymwys sy wedi gwneud cyfraniad sylweddol mewn unrhyw un o’r meysydd hyn:
- hyrwyddo dysg ac addysg
- hyrwyddo dysg ac addysg trwy gyfrwng y Gymraeg
- hyrwyddo Cymru
- cryfhau a gwella cysylltiadau rhyngwladol
- menter ac arloesi
Caiff fyfyrwyr cymwys enwebu eu hunain neu eu henwebu gan sefydliad neu unigolyn arall (nad oes raid iddo fe/hi fod yn fyfyriwr Prifysgol Glyndŵr).
Bydd raid i’r sawl sy’n enwebu ddangos rhesymau penodol am eu henwebiadau ar y ffurflen enwebu. Bydd y penderfyniad terfynol ar enillydd y wobr yn nwylo panel yn cynnwys aelod o Grŵp Gweithredol Prifysgol Glyndŵr (Cadeirydd), Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol, Llywydd Urdd y Myfyrwyr a chynrychiolydd o’r Adran Farchnata.
Am fanylion llawn o reolau a rheoliadau’r wobr, ymwelwch ag adran y Myfyrwyr ar wefan Prifysgol Glyndŵr.
Amser cau ar gyfer enwebiadau ydi 5yp ar ddydd Gwener, Medi’r 16eg., 2011. Dylid e-bostio ffurflenni wedi’u cwblhau at g.bianco@glyndwr.ac.uk neu eu postio at Gwobr Myfyrwyr, Gabriella Bianco, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd Yr Wyddgrug, Wrecsam. LL11 2AW.
RHEOLIADAU GWOBRAU’R BRIFYSGOL
- Er mwyn bod yn gymwys am wobr, mae’n rhaid i’r enwebedigion fod wedi astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr neu un o’i sefydliadau rhagflaenol ac wedi derbyn gwobr gan Brifysgol Cymru, Edexcel neu un o’i chyrsiau Proffesiynol
- Mae’r gwobrau ar gael i gyn-fyfyrwyr llawn a rhan-amser ym Mhrifysgol Glyndŵr neu unrhyw un o’i sefydliadau rhagflaenol, ar yr amod eu bod yn boddhau’r meini prawf cymhwyster a restrir yn rheoliadau’r gwobrau unigol
- Os bydd mwy nag un cynfyfyriwr sy’r un mor haeddiannol â’i gilydd, bydd enwau pob cynfyfyriwr yn cael eu cerfio ar fwrdd wrth ymyl yr hambwrdd a bydd pob cynfyfyriwr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif gwobr Prifysgol Glyndŵr
- Os bydd cynfyfyriwr llwyddiannus yn gymwys ar gyfer mwy nag un wobr (fel cynfyfyriwr neu fel myfyriwr), fel arfer fe’u hargymhellir ar gyfer un wobr yn unig, os nad oes yna wahaniaeth penodol yn y meini prawf gwobrwyol sy’n gwarantu dyfarnu mwy nag un wobr
- Ceidw’r brifysgol yr hawl i ymatal rhag dyfarnu gwobr benodol os, mewn unrhyw flwyddyn, y tybier nad yw’r lefel angenrheidiol o gyrhaeddiad wedi cael ei gwrdd
- Mae’n bosib nad ystyrir cynfyfyriwr ar gyfer y wobr os na fydd ef/hi wedi talu’n llawn unrhyw ffioedd ac unrhyw daliadau eraill sy’n ddyledus i Brifysgol Glyndŵr neu unrhyw un o’i sefydliadau rhagflaenol, gan gynnwys dychwelyd unrhyw offer neu eitemau llyfrgell a fenthycwyd
- Os bydd y wobr yn cael ei chyflwyno yn Seremoni Raddio’r Brifysgol, dylid rhoi manylion y cynfyfyrwyr sy’n derbyn y wobr i’r Cydlynydd Graddio yn y Ffurflen Hysbysu Enillydd Gwobr yn ddim hwyrach na thair wythnos cyn y seremoni
- Dim ond unwaith y flwyddyn y gall cynfyfyrwyr gael eu henwebu / enwebu eu hunain
- Gall cynfyfyrwyr gael eu henwebu / enwebu eu hunain mewn unrhyw nifer o flynyddoedd, gan gynnwys y cynfyfyrwyr hynny sydd yn enillwyr blaenorol, ar yr amod fod pob enwebiad ar gyfer cyrhaeddiad rhagorol gwahanol
