|
|
Llyfrgell Prifysgol Glyndŵr
Os oes angen cael gafael ar wybodaeth ar gyfer gwaith, astudiaeth gyfredol neu ymchwil arnoch neu awydd darllen ffuglen, fel aelod o Gymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr mae croeso i chi ymuno â’r llyfrgell.
Gall cynfyfyrwyr fenthyg dau lyfr yn ddi-dâl ar unrhyw un adeg, fodd bynnag, codir tâl am unrhyw fenthyciadau ychwanegol. Ymuno Er mwyn ymuno fel aelod sy’n gynfyfyriwr/wraig, gallwch ymweld â neu ffonio’r llyfrgell gyda naill ai eich hen gerdyn myfyriwr/wraig neu lythyr gyda’ch enw a’ch cyfeiriad arno. Yna byddwch yn derbyn cerdyn llyfrgell a fydd yn eich caniatáu chi i ddefnyddio’r cyfleusterau sydd ar gael. Cyfleusterau Fel yr ydych yn siŵr o fod yn gwybod yn sgil eich cyfnod yn astudio yma, mae’r llyfrgell yn cynnig cyfoeth o adnoddau. Hefyd, mae staff y llyfrgell wrth law i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd i’ch helpu i ddeall byd cynyddol a digon dryslyd gwybodaeth. Fel cynfyfyrwyr byddwch yn gallu cael budd o’r gwasanaethau ychwanegol fel rhan o rwydwaith gwybodaeth ehangach y llyfrgell:
Oriau agor yn ystod y tymor
Mwy o wybodaeth a manylion cyswllt Desg Gymorth y Llyfrgell |
|