|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cynfyfyrwyr > Manteision i gynfyfyrwyr > Llogi cyfleusterau a lleoliadau cynadledda
|
||
|
|
Llogi cyfleusterau a lleoliadau cynadledda
Mae gan Brifysgol Glyndŵr bortffolio arobryn o gyfleusterau a lleoliadau cynadledda, ac fel cynfyfyrwyr, gallwch fanteisio ar ostyngiad o hyd at 75% ar eu llogi*†.
Mae’r cyfleusterau yn amrywio o ddarlithfeydd ac ystafelloedd cyfarfod i Neuadd William Aston gyda’i sain a’i goleuadau tra modern a lle i hyd at 890mo bobl a Chanolfan Gynadledda Catrin Finch – ein canolfan cynadledd a pherfformio gwerth miliynau o bunnoedd. Bydd ein tîm profiadol o staff Cynadledda yn gyfrifol am roi trefniadau eich digwyddiad ar ben ffordd ac yn sicrhau y bydd yr achlysur yn un cofiadwy. Arlwyo Mae gan Brifysgol Glyndŵr ystod ardderchog o gyfleusterau arlwyo ar gael i gydfynd â’ch diwrnod gan gynnwys ystod o fwydlenni ar gyfer pob achlysur yn amrywio o brydau bwffe ysgafn i giniawau ffurfiol crand. Hygyrchedd Mae’r Brifysgol yn amgylchedd Agored i Bawb, felly mae gennym fynediad i gadeiriau olwyn ym mhob man, a’r system dolen sain yn y prif theatrau. Llefydd parcio Mae gan Brifysgol Glyndŵr diroedd neilltuedig a chyfleusterau parcio (yn dibynnu ar argaeledd). Gellir gwneud trefniadau i gadw llefydd parcio ar gais. Cysylltu A fwy o wybodaeth neu i drafod archebu, cysylltwch yn uniongyrchol â Swyddfa’r Cynfyfyrwyr ar: Rhif ffôn: 01978 293565 † Nid yw’r gostyngiad yn cynnwys TAW ac y mae’n amrywio yn dibynnu ar y lleoliad – cysylltwch â Swyddfa’r Cynfyfyrwyr am fanylion llawn. |
|