Fel cynfyfyrwyr, mae croeso i chi ddefnyddio’r Ganolfan Yrfaoedd a’r Siop Swyddi ym Mhrifysgol Glyndŵr, ni waeth pryd wnaethoch raddio, ble byddwch yn cael gwneud defnydd o wasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ac adnoddau am ddim i bobl sy’n chwilio am waith*.
Bwriad y Ganolfan Yrfaoedd yw darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd a phroffesiynol. Yr ydym yn aelod o AGCAS (Cymdeithas Gynghorol Gyrfaoedd Graddedig) a’r Sefydliad Arweiniad Gyrfaoedd ac wedi’n hachredu gan Matrics.
Oriau Agor y Ganolfan Yrfaoedd
(gwiriwch yr oriau agor yn ystod y gwyliau gan y gall yr amseroedd amrywio)
- 9.00am-5.00pm Dydd Llun, Dydd Mercher,Dydd Iau
- 9.00am-7.00pm Dydd Mawrth (yn ystod y tymor)
- 9.00am-4.30pm Dydd Gwener
Oriau Agor y Siop Swyddi
(gwiriwch yr oriau agor yn ystod y gwyliau gan y gall yr amseroedd amrywio)
- 10.00am-4.00pm Dydd Llun-Dydd Gwener
Am fwy o wybodaeth ac adnoddau, ewch i www.glyndwr.ac.uk/careers.
Gwasanaethau
- Cyngor Gyrfaoedd – mynediad i gyfweliadau arweiniad gyrfaoedd; gwneud apwyntiadau i siarad gyda Chynghorydd Gyrfaoedd, ac EArweiniad hefyd
- Siop Swyddi – wedi’i lleoli yn adeilad Urdd y Myfyrwyr, yn hysbysebu swyddi graddedig, swyddi rhan-amser, gwaith yn ystod y gwyliau, gwaith gwirfoddol, interniaethau a lleoliadau
- Lleoliadau Profiad Gwaith – mynediad i leoliadau gwaith cyflogedig 6-10 wythnos trwy’r cynllun GO Wales
- Profi Gwaith – cyfleoedd profi gwaith digyflog trwy’r rhaglen GO Wales
- Digwyddiadau – teithiau coets i ffeiriau graddedigion; cyflwyniadau cyflogwyr a chyfweliadau
- Gwasanaeth gwirio CV a cheisiadau am ddim – yfle i gael gwirio eich CV neu ffurflen gais er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich hun yn y ffordd orau bosibl
- Paratoi ar gyfer cyfweliad – gallwn eich helpu ar sail un-i-un a hefyd i greu cyfweliadau ffug
- Cyfleusterau cyfrifiadurol a ffôn am ddim
- Llyfrgell Gwybodaeth am Yrfaoedd helaeth – gyda llawer o ffeiliau cyfeiriadurol, canllawiau, llyfrau, fideos, taflenni a chyhoeddiadau am ddim
- Papurau newydd lleol ar gael yn y Ganolfan Yrfaoedd a’r Siop Swyddi
- Sesiynau paratoi ar gyfer cyflogaeth a chyfleoedd
- Ymarfer Prawf-ffeiliau Seicometrig
- Rhestr o wefannau gyrfaoedd defnyddiol
Pe hoffech daith o amgylch y cyfleusterau, galwch heibio’r Ganolfan neu cysylltwch o flaen llaw pe bai’n well gennych drefnu amser.
Mwy o wybodaeth a manylion cyswllt
Rhif ffôn: 01978 293240
E-bost: careerscentre@glyndwr.ac.uk
Gwefan: www.glyndwr.ac.uk/careers
*Gweler Polisi Defnyddio’r Ganolfan Yrfaoedd am fwy o fanylion am ein gwasanaethau a’n canllawiau defnyddio.