|
|
Dyfarniadau Prifysgol GlyndŵrMae Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Glyndŵr wedi penderfynu rhoi cyfle i’r myfyrwyr sy’n graddio yr Hydref yma i fod ymhlith y graddedigion cyntaf i dderbyn dyfarniad Prifysgol Glyndŵr. Cwestiynau a holir yn aml1 A wnes i dderbyn gradd Prifysgol Cymru neu radd Prifysgol Glyndŵr ym mis Hydref? Mae’r seremoni yn gyflwyniad swyddogol o’ch gradd. Rydych wedi derbyn gradd Prifysgol Cymru (neu ddiploma neu dystysgrif) yn ystod y seremoni, ond bydd modd i chi dderbyn tystysgrif gradd Prifysgol Glyndŵr yn y dyfodol pe bai’n well gennych chi hynny na thystysgrif Prifysgol Cymru. Anfonwyd gwybodaeth ynghylch sut i wneud hyn at gyfeiriadau cartref graddedigion mis Hydref yn ystod yr wythnos a gychwynnodd ar y 7fed o Dachwedd 2011. Os nad ydych wedi derbyn y wybodaeth yma, gallwch brintio, cwblhau a dychwelyd y ffurflen yma (pdf format) neu nodi eich dewis erbyn y 5ed o Ragfyr 2011. Cofiwch wneud yn siŵr fod y ffurflen wedi’i chwblhau yn llawn cyn i chi ei dychwelyd. 2 Pam fod hyn yn digwydd? Yn 2011, penderfynodd Bwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Glyndŵr ddyfarnu graddau a addysgir Prifysgol Glyndŵr yn hytrach na graddau a addysgir Prifysgol Cymru. Daeth y penderfyniad hwn yn sgil llwyddiant y Brifysgol i gael pwerau i ddyfarnu ei graddau a addysgir ei hun yn 2008. Mae’r tair blynedd diwethaf wedi bod yn bwysig i ddatblygiad Prifysgol Glyndŵr fel Prifysgol annibynnol a hunanlywodraethol yn ardal Gogledd Ddwyrain Cymru, Cymru ac yn rhyngwladol. Ers cael pwerau dyfarnu graddau yn 2008, rydym wedi mynd ati’n hyderus i roi hyn ar waith, a gweithredu’n llawn yr hawl i ddyfarnu ein graddau a addysgir ein hunain. Mae’r myfyrwyr a raddiodd ym mis Hydref 2011 ymhlith y cyntaf erioed i gofrestru fel myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr a chredwn ei bod yn briodol i gynnig y cyfle i’r graddedigion hyn dderbyn dyfarniadau Prifysgol Glyndŵr. Bydd pob myfyriwr/wraig sy’n cychwyn rhaglenni a addysgir yn y Brifysgol yn y dyfodol yn cael eu cofrestru ar raglenni sy’n arwain at ddyfarniadau Prifysgol Glyndŵr. 3 Beth sy’n digwydd ym Mhrifysgol Cymru? Mae yna newidiadau yn digwydd ym Mhrifysgol Cymru, gyda chynlluniau i Brifysgol Cymru uno gyda Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitaidd Abertawe i ffurfio Prifysgol newydd. Bydd y Brifysgol newydd yn dyfarnu graddau Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Gweler datganiad i’r wasg Prifysgol Cymru yma. 4 Hoffwn drosglwyddo i radd (neu ddiploma neu dystysgrif) Prifysgol Glyndŵr; beth yw’r gwahaniaeth? Cafodd eich rhaglen astudio ei chynllunio, ei chyflenwi a’i hasesu gan staff Prifysgol Glyndŵr. Mae’r rhaglen astudio hon wedi cael ei dilysu a’i chymeradwyo gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol Glyndŵr, gan hynny yn eich galluogi i dderbyn dewis o ddyfarniadau. 5 Hoffwn dosglwyddo i ddyfarniad Prifysgol Glyndŵr, a fyddaf yn cael seremoni wobrwyo arall? Na fyddwch, roedd y seremonïau graddio a gynhaliwyd ym mis Hydref 2011 tn ddathliad o’ch llwyddiant, wedi’u trefnu gan Brifysgol Glyndŵr. Bydd modd trefnu ffotograffau yn y dyfodol, o 2012, mewn gynau Prifysgol Glyndŵr. 6 A allaf ddewis derbyn dyfarniad Prifysgol Glyndŵr? Gallwch ddewis derbyn dyfarniad Prifysgol Glyndŵr os gwnaethoch gymhwyso yn un o’r rhaglenni canlynol: Diploma Addysg Uwch; Tystysgrif Addysg Uwch; Gradd Sylfaen; Gradd Faglor; PGCE; Tystysgrif mewn Addysg; Tystysgrif i Raddedigion; Diploma i Raddedigion; Tystysgrif Uwchraddedig; Diploma Uwchraddedig; Gradd Feistr (MA; MSc; MBA; MPH; MTh; MRes). 7 Beth yw statws gradd Prifysgol Glyndŵr? Mae gan radd Prifysgol Glyndŵr yr un statws â gradd o unrhyw Brifysgol arall yn y DU. Dyfranwyd Pwerau Dyfarnau Graddau a Addysgir i Brifysgol Glyndŵr gan y Cyfrin Gyngor yn 2008. Gallwch weld fod Prifysgol Glyndŵr yn un o’r Cyrff Cydnabyddedig sy’n meddu ar eu pwerau dyfarnu graddau eu hunain yn y DU o’r rhestr o Gyrff Cydnabyddedig a gyhoeddwyd gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau http://www.bis.gov.uk/policies/higher-education/recognised-uk-degrees/recognised-bodies#Alpha_G 8 A oes angen i mi ymgynghori â’m noddwr cyn dewis derbyn gradd Prifysgol Glyndŵr? Byddai’n ddoeth i chi ymgynghori â’ch noddwr. Awgryma profiad mewn sefydliadau eraill y byddai rhai noddwyr sydd wedi noddi myfyriwr/wraig i dderbyn gradd Prifysgol Cymru yn bryderus ynglŷn â’r myfyrwyr yn derbyn dyfarniad arall yn ei lle. Os na allwch gael ymateb gan eich noddwr cyn cyfnod y Brifysgol ar gyfer cadarnhau eich dyfarniad, cysylltwch ag awards@glyndwr.ac.uk 9 Rwyf wedi derbyn HND/HNC. A oes modd i mi ddewis derbyn dyfarniad Prifysgol Glyndŵr? Nac oes, y corff dyfarnu ar gyfer y Dyfarniadau Cenedlaethol Uwch yw Edexcel, ac ni fydd hyn yn newid. 10 Derbyniais radd ymchwil (MPhil; PhD; Doethuriaeth Broffesiynol). A oes modd dewis derbyn dyfarniad Prifysgol Glyndŵr? Prifysgol Cymru yw’r corff dilysu ar gyfer graddau ymchwil o hyd, felly nid oes opsiwn dewis dyfarniad Prifysgol Glyndŵr. 11 Pe bawn yn colli fy nhystysgrif gradd, a oes modd i mi gael un newydd? Ac a fydd yr un newydd yn gyfnewid am radd Prifysgol Glyndŵr? Bydd modd derbyn tystysgrif yn ei lle. Bydd Prifysgol Cymru yn parhau i ddosbarthu graddau cyfnewid i raddedigion a dderbyniodd radd Prifysgol Cymru. Pe dewisoch ddyfarniad Prifysgol Glyndŵr, yna fe allech gael tystysgrif gyfnewid gan Brifysgol Glyndŵr. 12 A oes dyddiad cau ar gyfer derbyn dyfarniad Prifysgol Glyndŵr? Oes. Os na dderbyniwn ymateb gennych erbyn 5 Rhagfyr 2011, anfonir tystysgrif Prifysgol Cymru atoch yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar 12 Rhagfyr. 13 Pryd fuaswn yn derbyn tystysgrif Prifysgol Glyndŵr? Cyn gynted ag y bydd wedi’i gadarnhau fod eich dyfarniad Prifysgol Cymru wedi cael ei ddirymu, bydd Prifysgol Glyndŵr yn ysgrifennu atoch i gadarnhau eich bod yn gymwys i dderbyn dyfarniad gan Brifysgol Glyndŵr. Bydd tystysgrifau Prifysgol Glyndŵr yn cael eu dosbarthu yn gynnar yn 2012. |
|