|
Text begins here:
Cylchlythyr electronig Hydref 2010
Helô unwaith eto!
Mae dal yn teimlo’n braidd yn gynnar i alw hwn yn rhifyn yr Hydref, felly gobeithio nad ydwyf yn chwalu unrhyw obaith o weld yr haul unwaith eto’r flwyddyn yma, yn enwedig gan fod y Swyddfa Dywydd wedi addo Haf Bach Mihangel i ni!
Yma ym Mhrifysgol Glyndŵr rydyn ni ar fin cychwyn ar flwyddyn academaidd newydd ac yn aros am yr adlif o fyfyrwyr hen a newydd, gan ei bod hi wedi bod yn dawel iawn ar y campws dros y misoedd diwethaf. Os oes gennych unrhyw atgofion am eich diwrnod neu wythnosau cyntaf yn y Brifysgol, anfonwch e-abost ataf fel ein bod yn gallu eu rhannu gyda’r myfyrwyr newydd yn ystod Wythnos y Glas.
Efallai bydd rhai ohonoch chi yn dychwelyd i astudio gyda ni unwaith eto? Os felly, a ydych chi’n ymwybodol y gallech fod yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Uwchraddedig Prifysgol Glyndŵr a fydd yn golygu 50% oddi ar eich ffioedd eleni? Neu os ydych chi’n ystyried astudiaethau pellach ond heb benderfynu eto, mae ychydig o lefydd yn dal ar gael gennym ar rai o’n cyrsiau yn cynnwys Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM)*, MBA Meistr mewn Gweinyddu Busnes rhan amser a’r MA Rheolaeth Adnoddau Dynol newydd yn ogystal ag ystod o gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac eto efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer ein Hysgoloriaeth Uwchraddedig.
Rydym hefyd yn cadw llygad ar agor am berfformwyr dawnus sydd â diddordeb mewn ymddangos yn y pantomeim Aladdin eleni, gyda’r cyflwynydd teledu Tim Vincent o Wrecsam. Gweler y manylion llawn isod!
Os oes rhywbeth penodol yr hoffech ddarllen amdano neu os oes gennych erthygl yr hoffech i ni ei hystyried ar gyfer y dyfodol, anfonwch e-bost at alumni@glyndwr.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!
Leigh Ann
Leigh Ann Hills Rheolwraig Datblygu Cynfyfyrwyr Cymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr e - alumni@glyndwr.ac.uk ff - 01978 293945
* Dim yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth
newyddion
Dawn creadigol Kaleidoscopic
Cynhaliwyd gŵyl newydd a edrychodd ar y modd y gellir ailffurfio syniadau creadigol a’u haddasu yn ffurfiau celf amrywiol ym Mhrifysgol Glyndŵr a Llyfrgell Wrecsam yn gynharach y mis hwn.
Roedd Kaleidoscopic yn cynnwys artistiaid adnabyddus yn siarad am y broses greadigol a’r busnes o addasu syniadau ar gyfer ffilm, teledu, radio, theatr, a llawer mwy.
Roedd uchafbwyntiau’r ŵyl yn cynnwys dosbarth meistr gan Tim Firth a fydd yn trafod addasu ei sgript ffilm o Calendar Girls yn ddrama lwyfan lwyddiannus, sesiwn holi ac ateb orlawn gyda chast a chriw y gyfres Sherlock, sef ailymgnawdoliad cyfoes o Sherlock Holmes yn ogystal â sesiynau ar ysgrifennu ar gyfer radio, sut i ddod o hyd i gefnogaeth ar gyfer awduron a sesiwn Pierhead unigryw i benderfynu a all gwlad fod yn frand.
“Roeddem yn gyffrous iawn ynglŷn â chynnal yr ŵyl newydd yma oedd yn ychwanegiad allweddol i’r calendr diwylliannol yng Nghymru,” meddai Lynda Powell, Pennaeth Gwasanaethau Masnachol, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.
“Yn ystod yr amser anodd iawn sydd ohoni, yn enwedig ar gyfer cwmnïau bychain a chanolig eu maint, efallai y byddai nifer o bobl yn meddwl ei fod yn adeg gwael i lansio gŵyl newydd,” meddai Trefnydd yr Ŵyl, Berwyn Rowlands o’r Festivals Company.
“Fodd bynnag, rydym yn credu fod Kaleidoscopic wedi dynodi bwlch yn y farchnad trwy ganolbwyntio yn gyfan gwbl ar y broses a’r busnes o addasu un cyfrwng celfyddydol i’r llall, ac rydym yn hyderus y bydd y ffocws unigryw yma, ynghyd ag ansawdd y rhaglen, yn sicrhau y bydd yr ŵyl yn ymsefydlu fel digwyddiad diddorol, gwreiddiol a chyffrous gyda hyn.
"Fel cwmni, rydym yn gyffrous iawn ynglŷn â threfnu ein gŵyl gyntaf yn y Gogledd Ddwyrain a gweithio gyda phartneriaid mor wych â Phrifysgol Glyndŵr a Llyfrgell Wrecsam.”
Mae Partneriaid a noddwyr yr Ŵyl yn cynnwys Prifysgol Glyndŵr, Cyngor Wrecsam, Asiantaeth Ffilm Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, BAFTA Cymru, a Greenland.
Cynhyrchir yr ŵyl gan y Festivals Company.
www.kaleidoscopicfest.org
Tirlun Prifysgol Glyndŵr yn ennill y dwbwl yn Tatton
Gwobrwywyd medalau i Peter Styles, darlithydd celf, dylunio a thirlunio ym Mhrifysgol Glyndŵr ac i Sally Griffiths, myfyrwraig dylunio gerddi yn ei blwyddyn olaf, am y gerddi yr oeddent yn eu harddangos yn Sioe RHS Tatton Park.
Cyn y sioe, dyfarnwyd £6000 yr un i’r cynlluniau ar gyfer defnyddiau a chael eu creu gan yr RHS. Ymddangosodd y gerddi yn y categori Gweledigaethol, sy’n rhoi cyfle i ddylunwyr dorri mowld garddio traddodiadol a dangos dyfeisgarwch a gweledigaeth. Ysbrydolwyd gardd Sally, "Ysbrydoliaeth a Mi" yn wreiddiol gan waith Fiona Rae, ac enillodd fedal Efydd.
Meddai Sally: "Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill, roeddwn i jyst yn hapus gyda’r ffaith fod yr RHS wedi derbyn fy nghynllun. Dim ond yn gobeithio y caf ddod yn ôl eto’r flwyddyn nesa."
Dyluniwyd gardd Sally fel cyfrwng gweledol i roi mewnwelediad i’r gwylwyr i’w hysbrydoliaeth. Mae Sally yn gobeithio parhau i arddio, a chychwyn ei busnes garddio ei hun.
Ychwanegodd Sally: "Mi faswn i’n hapus pe bai’r ardd yma yn helpu i ysbrydoli dim ond un person, yna mi faswn yn teimlo ’mod i wedi cyflawni fy nod."
Ysbrydolwyd gardd Peter, "Y Caleidosgop" gan waith Lucy Skaer. Mae ei gynllun yn ymgorffori’r defnydd o ddrychau i greu’r syniad o bedair gardd ar wahân gyda gofod dibendraw. Gwobrwywyd y fedal Haen-Arian i’r ardd.
Meddai Peter: "Rwyf wrth fy modd gyda’r canlyniad. Mae’n llwyddiant gwych ac yn adlewyrchu’r gwaith caled a’r ymdrech a wnaed gan y tîm."
Hon yw’r ail flwyddyn i Brifysgol Glyndŵr gystadlu gyda gardd ac ennill yn Sioe Tatton. Mae Peter a Sally yn gobeithio dychwelyd i Tatton mewn blynyddoedd i ddod, gan barhau i ddylunio gerddi newydd creadigol sy’n procio’r meddwl.
Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ystod o gyrsiau tirol gan gynnwys, FdA Dylunio Gerddi, FdSc Rheolaeth Cynhyrchu Garddwriaeth, FdSc Rheolaeth Tirlun ac FdSc Rheolaeth Cynhyrchu Organig. Cliciwch ar deitlau’r pynciau am fanylion am y cyrsiau.
Prifathro Georgetown yn dod yn gymrawd er anrhydedd o Brifysgol Glyndŵr
Mae Prifathro un o’r prifysgolion hynaf yn yr Unol Daleithiau wedi dod yn gymrawd er anrhydedd o Brifysgol Glyndŵr.
Dr Jack DeGioia yw 48fed prifathro Prifysgol Georgetown, Washington DC a daeth i gasglu’r wobr mewn seremoni ar gampws Wrecsam y Brifysgol. Ers dod yn Brifathro Georgetown yn 2003, mae Dr DeGioia wedi arolygu cynnydd mawr yn y brifysgol, a hynny yn dilyn ymgyrch lwyddiannus i godi biliwn o ddoleri, y mwyaf yn hanes prifysgolion yr Unol Daleithiau.
Mae hefyd wedi bod yn llais cryf dros gyfiawnder cymdeithasol, gan agor Prifysgol Georgetown i filoedd o fyfyrwyr o gefndiroedd tlawd.
Dywedodd yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr fod rhannu’r ethos hwn o ehangu mynediad wedi gwneud Dr DeGioia yn gymrawd priodol o Brifysgol Glyndŵr.
Yn ôl yr Athro Scott: “Georgetown yw un o brifysgolion mawr yr Unol Daleithiau, ac yno caiff pawb eu trin yn gyfartal, ac rwyf mor falch ein bod yn croesawu Jack yn gymrawd o Brifysgol Glyndŵr.”
Graddiodd Dr DeGioia, a gafodd ei fagu yn Orange, Connecticut, ac yn Hanford, Califfornia, mewn Saesneg. Cafodd ei enwi yn ddiweddar yn ‘Washingtonian of the Year’ mewn cylchgrawn yn yr Unol Daleithiau.
Dywedodd Dr DeGioia: “Mae hwn yn amser gwirioneddol gyffrous i fod yn ymuno â chymuned Prifysgol Glyndŵr. Mae Cymru yn esiampl i’r byd oherwydd ei hysbryd mentrus a does unman arall lle dangosir hynny yn fwy nag yma.
"Mae’r brifysgol yn ymgorffori ysbryd ei harwr mawr cenedlaethol, Owain Glyndŵr, ac un agwedd lle caiff hyn ei amlygu yw trwy ei gwaith gyda diwydiant.
“Ni allwch gyflawni cenhadaeth brifysgol drwy fod yn ynysig ac mae Prifysgol Glyndŵr yn enghraifft wych o sut y gall prifysgolion gyfrannu at ffyniant economaidd eu hardal. Mae’n fraint cael bod yn rhan o’i chymuned ac rwy’n ddiolchgar iawn.”
Yn y seremoni gymrodoriaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr, cafodd rhai o staff y Brifysgol sydd wedi gwasanaethu hiraf hefyd eu hanrhydeddu am eu gwaith. Cyflwynwyd tystysgrifau i’r staff gan Ganghellor y Brifysgol, y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Jones.
Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr yn mynd ati i brofi ffitrwydd y Celtic Crusaders
Mae sêr tîm rygbi cynghrair y Celtic Crusaders yn ddynion pwerus a chryf o ran natur eu gêm, ond bydd myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr yn profi yn union sut siâp sydd arnynt.
Gan ddefnyddio cyfleusterau yn labordai ymchwil y brifysgol, bydd myfyrwyr gwyddor chwaraeon a hyfforddi y brifysgol yn Wrecsam yn dechrau asesu lefelau ffitrwydd y chwaraewyr fel rhan o’u gradd.
Mae’r rhaglen yn cynnwys asesu cryfder, nerth, chwimder a hyblygrwydd y chwaraewyr. Bydd ffitrwydd erobig yn cae ei brofi hefyd.
Dywedodd Dr Sue Taylor, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer fod y cyfle o weithio gyda thîm rygbi cynghrair proffesiynol yn darparu myfyrwyr gyda phrofiad bywyd go-iawn heb ei ail.
Meddai: “Rydym eisoes yn gweithio gyda nifer o dimau chwaraeon lleol, ond bydd y cyfle i weithio gyda chlwb mor amlwg â’r Crusaders yn gyfle gwych arall i’r myfyrwyr.
“Bydd yn brofiad ymarferol ardderchog o dreulio amser gydag athletwyr proffesiynol sy’n hyfforddi rownd y rîl ac yn cystadlu ar y lefel uchaf. Nid yw’n gyfle y byddai llawer o fyfyrwyr yn ei gael yn y brifysgol, ac rydym yn ddiolchgar i’r Crusaders am eu cefnogaeth.”
Yn ogystal â’r fenter gyda’r Crusaders, mae myfyrwyr gwyddor chwaraeon Prifysgol Glyndŵr eisoes yn elwa o gysylltiadau gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam, Canolfan Tennis Rhanbarthol Gogledd Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Phêl-fasged Gogledd Cymru – â phob un ohonynt yn helpu i sicrhau eu bod ymhlith y myfyrwyr mwyaf bodlon yn y DU.
Parodd atborth ar bob agwedd o’u gradd, gan gynnwys yr ansawdd addysgu, asesu ac atborth, i Brifysgol Glyndŵr fod yn y ddau uchaf yn y DU ar gyfer gwyddor chwaraeon yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddar.
“Rydym wedi cyrraedd y pump uchaf yn y DU yn nhair blynedd ddiwetha’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol ac rydym yn falch ein bod yn cwrdd yn gyson â disgwyliadau’r myfyrwyr,” meddai Dr Taylor.
“Mae gan y myfyrwyr i gyd staff deinamig a chyfeillgar sydd yn weithredol ym maes ymchwil ac mae cyfleoedd fel y gwaith gyda’r Crusaders yn help garw i hybu eu profiad a’u gwneud yn fwy cyflogadwy pan fyddant yn gadael y brifysgol.”
newyddion cynfyfyrwyr
Cynfyfyrwyr yn agor eu stiwdios fel rhan o Helfa Gelf ym mis Medi
Bydd sawl o’n cynfyfyrwyr Celf & Dylunio yn cymryd rhan yn digwyddiad Stiwdios Agored Helfa Gelf eleni. Mae’r prosiect, sydd wedi derbyn cyllid gan Gynllun Datblygu gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yw’r Digwyddiad Stiwdio Agored fwyaf ac mae’n rhoi’r cyfle i artistiaid wahodd aelodau’r cyhoedd i ymweld â nhw yn eu gwaith yn ystod y mis nesaf.
Bydd Ann Bridges (BA Anrh Dylunio, 1999 – Dosbarth Cyntaf) yn agor ei stiwdio yn Dôl Rhedyn ar Ffordd Llanfair yn Rhuthun i ymwelwyr i weld gweithiau newydd sydd ar y gweill, pori trwy lyfrau braslunio a’r rhestlau argraffu. Bydd Ann hefyd yn dangos sut mae’n defnyddio inciau argraffu a stensilau wedi’u torri â llaw i greu delweddau argraffedig gwreiddiol. Mi fydd paentiadau, cardiau post a matiau diod ar werth, yn ogystal â cherdyn Nadolig newydd ‘Llusernau Tsieineaidd yn yr Eira’ a wnaed trwy astudio’r planhigion hyfryd yma a welwyd mewn ardd cymydog y gaeaf dwethaf. Bydd yna hefyd ‘flwch bargeinion’ o argraffiadau i chi edrych drwyddo.
Oriau agor: Medi 25ain a 26ain o 11:00am i 5:00pm. Gall unrhyw un sydd am ymweld â’r stiwdio tu allan i’r oriau yma gysylltu ag Ann ar 01824 703991 neu trwy ebostio abridges@gotadsl.co.uk.
Am fanylion llawn ymwelwch â www.helfagelf.co.uk/cy/annbridges neu â wefan Ann ei hun www.ann-bridges.com.
Mae June McHenry (BA Anrh Celfyddyd Gain – Dosbarth Cyntaf) yn eich gwahodd chi i weld ei gosodiadau, ffotograffiaeth, printiau ac eitemau syd’n cyflwu emosiwn, gwethiau wedi’u creu o eitemau wedi’u hadennill yn ei stiwdio yn Awelfryn, Rhewl yn Rhuthun.
Oriau Agor: Medi 25ain & 26ain o 11:00am i 5:00pm.
Am fanylion llawn ymwelwch â www.helfagelf.co.uk/cy/junemchenry.
Bydd Diana Baur (BA Anrh Celfyddyd Gain 2010) yn arddangos ei gwaith yn ystafell eistedd yn The Hand at Llanarmon. Mae ei gwaith yn cynnwys paentiadau haniaethol-fynegiadol, darluniau pen ac inc a gosodiadau ffabrig.
Oriau agor: Medi 24ain, 25ain a’r 26ain o 11:00am i 5:00pm. Gan bod gwaith Diana yn The Hand at Llanarmon bydd yn bosib gweld ei gwaith yn ystod oriau agor y gwesty yn ystod yr wythnos hefyd.
Am fanylion llawn ymwelwch â www.helfagelf.co.uk/cy/dianabaur neu â gwefan Diana www.dianabaur.co.uk sydd hefyd a wybodaeth am ei sioeau eraill yn cynnwys ei arddangosfa yn Oriel The Willow yng Nghroesoswallt o Hydref 2ail 2010.
Mae Judy Pemberton (BA Anrh Celfyddydau Cymwysedig, 2009) yn creu cerfluniau cerameg ac yn arbenigo mewn portreadau a fydd ar gael i’w gweld yn The Garage, 55 Victoria Road ym Mhrestatyn. Mae Judy hefyd yn rhan o’r cydweithredfa o artistiaid sydd yn redeg Scala ym Mhrestatyn, ble gallwch hefyd weld ei gwaith, ac mae Judy hefyd wedi’i cynnwys yn arddangosfa Helfa Gelf yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog ger Pwllheli, Gwynedd sydd ar agor hyd at Hydref 31 2010.
Oriau agor: Medi 25ain & 26ain o 11:00am i 5:00pm
Am fanylion llawn ymwelwch â http://www.helfagelf.co.uk/cy/judypemberton neu â gwefan Judy www.judypemberton.co.uk.
Bydd Kurt Francis (BA Anrh Celfyddyd Gain, 2009) yn arddangos ei waith sydd yn hynafol a’r modern wedi’u cyfuno mewn gweithiau syml a chfoes yn 13 Maesglas yn Nimbych.
Oriau agor: Medi 25ain & 26ain o 11:00am i 5:00pm
Am fanylion llawn ymwelwch â http://www.helfagelf.co.uk/cy/kurtfrancis neu â gwefan Kurt www.frantecmosaics.co.uk.
Yn dringo pob mynydd er mwyn ariannu trip i gefnogi plant yn Ne Affrica
Bydd y weithwraig ieuenctid Ruth Holden yn hedfan i Dde Affrica y mis yma i gwrdd a thîm o Operation Mobilisation, elusen ryngwladol Gristnogol sydd â mwy na 5,000 o weithwyr mewn 110 o wledydd ar draws y byd, sydd â’i phencadlys Prydeinig yn Quinta ger Croesoswallt.
Cafodd Ruth ei hyfforddi fel Gweithwraig Ieuenctid ym Mhrifysgol Glyndŵr ac roedd yn arweinydd ieuenctid llawn amser yn Eglwys Carreg Llwyd, Croesoswallt, am naw flynedd cyn treulio tair blynedd fel arweinydd plant a ieuenctid gyda Deoniaeth Hodnet.
Tra yn y swydd yma, arweinodd Ruth dîm o bobl ifanc o Cheswardine i ymweld â phrosiect eglwysig yn Ne Affrica a noddir ganddynt. Syrthiodd mewn cariad gyda’r wlad a’i phobl a dychwelodd y flwyddyn ganlynol ar ei phen ei hun i weithio gyda phrosiect i helpu plant y stryd a’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan AIDS. Bu hefyd yn helpu mewn ysgol i blant yn Uganda.
Er mwyn codi arian ar gyfer ei thaith, nid yn unig y gwnaeth Ruth werthu ei thŷ ond aeth ati hefyd i drefnu sawl digwyddiad noddedig yn cynnwys dringo hyd at 50 mynydd dros 2,000 troedfedd yng Nghymru.
Am y chwe mis cyntaf yn Ne Affrica, bydd Ruth yn hyfforddi trwy ymgymryd â gwaith ymarferol mewn pentrefi diarffordd a chyda plant y stryd, puteiniaid a’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan AIDS. Ar ôl hyfforddi mae’n gobeithio dod yn arweinydd gyda thîm Operations Mobilisation yn Ne Affrica.
Dywedodd Ruth: “Amcangyfrifir fod 25 y cant o boblogaeth De Affrica wedi’u heffeithio gan AIDS ac mae yna dros filiwn o blant sy’n amddifad yn sgil AIDS. Mae Operations Mobilisation wedi lansio AIDS Hope yn Ne Affrica i helpu rhai o’r bobl yma a dwi’n gobeithio bod yn rhan o’r gwaith hwnnw.”
Gall unrhyw un â hoffai noddi Ruth gysylltu â hi trwy ebostio roobies36@gmail.com neu er mwyn darllen mwy am waith AIDS Hope, cliciwch yma. Hefyd gallwch dilyn blog Ruth yn www.ruthes.co.uk.
digwyddiadau
Gyda thri lleoliad adloniant cwbl hygyrch ar y campws, llefydd parcio ar y safle ac amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, mae yna rywbeth at ddant pawb.
Cliciwch yma am restr lawn o ddigwyddiadau i ddod.
Yr Is-Ganghellor Mike Scott yn helpu i Ddatgelu Falstaff
Mewn cydweithrediad, mae Prifysgol Glyndŵr a Mid Wales Opera yn dod â diwrnod o berfformio, dadansoddi a thrafod i chi gyda Flastaff Revealed ar Ddydd Sadwrn, Medi 25ain rhwng 10am a 5pm yng Nghanolfan Catrin Finch ar brif gampws y Brifysgol.
Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda chyflwyniad agoriadol gan Yr Athro Scott a fydd yn cynnwys pynciau fel Sut mae drama yn troi’n opera? Pam fod Falstaff yn un o hoelion wyth llwyfannau drama ac opera? Ysbrydolwyd Verdi a’r libretydd Boito gan gymeriad trasicomig Shakespeare o Henry IV a’r Merry Wives of Windsor ar gyfer yr hyn a oedd, erbyn gweld, yn opera olaf Verdi.
Mae’r cymeriad operatig Falstaff yn dal ei afael ar rywfaint o urddas y cymeriad o’r ddrama gyntaf ac yn ennyn mwy o gydymdeimlad na’r ffigwr pathetic braidd a grëwyd gan Shakespeare er mwyn i’w Wragedd Llon ei wawdio a chael y llaw uchaf arno – ond pam fod cynulleidfaoedd yn dal i gymryd at y cymeriad hwn, ag yntau’n amlwg yn dipyn o ddihiryn?
Hefyd yn cynnwys Nicholas Cleobury, cyfarwyddwr artistig MWO, ac Amanda Holden a Martin Lloyd-Evans, bydd y diwrnod yn cynnwys trafodaethau ynghylch detholiadau o’r ddrama a’r opera, mae hwn yn argoeli i fod yn ddiwrnod dadlennol a difyr dros ben i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ehangu eu gwerthfawrogiad o’r broses ddramatig ac o gyfoeth y plot a’r cymeriad yn y gweithiau hyn.
Tocynnau £8 (consesiynau £5) ar gael yma ar ein gwefan.
Dychweliad Fforwm Ymchwil
Ym mis Hydref, bydd y sesiynau Fforwm Ymchwil amser cinio yn eu holau. Cynhelir y sesiynau ar Ddydd Mercher cyntaf y mis ac mae yna groeso i bawb. Fel arfer, mi fydd te, coffi a bisgedi ar gael ond bydd angen i chi ddod â’ch cinio eich hyn. Noder bod y sesiynau yma yn Saesneg.
Dydd Mercher Hydref 6ed, 12:30pm – 1:30pm, Ystafell C112
12:30 Dr Clive Buckley Using Web 2.0 Technologies to build learning communities
1:00 Richard Mottershead At the coal face: How do individual practitioners interact with mentally disordered offenders?
Dydd Mercher Tachwedd 3ydd, 12:30pm – 1:30pm 12:30 Jenny Welstand Research as a Conversation: Gadamer’s truth and method
1:00 Edna Astbury-Ward Women’s emotions after abortions
Uchafbwyntiau’r calendr
Mae misoedd prysur ar y gweill gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y campws. Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys digrifwr Kevin Bridges a enwebwyd am wobr y “Newydd-ddyfodiad Gorau” yng Ngwobrau Comedi Caeredin a Falstaff Revealed ym mis Medi, tra ym mis Hydref gwelir ystod eang o gerddoriaeth yn amrywio o’r clasurol gyda Cherddorfa Siambr Cymru, Côr Meibion Y Rhos a’r cyngerdd Môr o Gân i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Cylch 2011 i gerddoriaeth gyfoes a gwerin gyda Mabon, Kate Rusby a Phatfish – heb sôn am y sbloets o gerddoriaeth Abba, Waterloo!
Mae’r gerddoriaeth a’r comedi yn parhau trwy fis Tachwedd gyda perfformiadau gan Blake, Côr Meibion Y Fron a Cherddorfa Symffoni Wrecsam a’r digrifwr Micky Flanagan yn ogystal â mwy o’r gyfres stand-yp Comedy Central Live. Hefyd ym mis Tachwedd bydd yr anturiaethwraig Tori James yn siarad am ei chyrchari Everest. Mae Shakin All Over yn sioe sy’n siŵr o godi gwên, a bydd y Vienna Festival Ballet yn perfformio Sleeping Beauty. Ar ben arall y sbectrwm, bydd y Circus of Horrors yn cyflwyno’u hoffrwm diweddaraf o’r enw The Four Chapters from Hell. Yn llawn o rai o’r perfformiadau Syrcas gorau, harddaf a mwyaf bisâr yn y byd, mae mynediad i rai dros 18 yn unig ac mae’n anaddas i’r gwangalon!
Am restr llawn o ddigwyddiadau ac i archebu tocynnau, cliciwch yma neu ffoniwch y Swyddfa Tocynnau ar 01978 293293.
Pe hoffech ysgrifennu adolygiad o unrhyw berfformiad yr ydych wedi’i weld neu’n bwriadu ei weld yma ym Mhrifysgol Glyndŵr, cliciwch yma i gysylltu â Swyddfa’r Cynfyfyrwyr.
Mae Cymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr ar gyfer Cynfyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr, Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI) a’r holl golegau eraill sy’n rhan o hanes y Brifysgol.
Mae aelodaeth am ddim ac yn darparu ein cynfyfyrwyr ledled y byd gydag ystod o fanteision yn ogystal â’ch cadw chi mewn cysylltiad gyda’r Brifysgol a chynfyfyrwyr eraill. Er mwyn sicrhau nad ydych yn colli allan, .
Mae ein cynfyfyrwyr yn rhan bwysig o’n hanes, a thrwy’r Gymdeithas gallwch fod yn rhan o’n gorffennol a’n dyfodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn alumni@glyndwr.ac.uk neu ar 01978 293945. |
|---|
|
|