|
Text begins here:
Cylchlythyr electronig Hâf 2010
Croeso i Gylchlythyr electronig cyntaf Cymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr!
Nod y cylchgrawn electronig chwarterol hwn yw eich diweddaru chi gyda newyddion o ddydd i ddydd o’r Brifysgol, eich cyn-ddarlithwyr, ffrindiau a chyd-ddisgyblion. Hoffem glywed gennych chi hefyd - am beth ydych chi’n ei wenud nawr yn ogystal ag am beth hoffech ei ddarllen yn y bwletin chwarterol yma.
Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion o Ŵyl Gwyddoniaeth Wrecsam eleni, sydd unwaith eto yn cael ei chynnal yma ym Mhrifysgol Glyndŵr o Orffennaf 1 – 10 ac yn cynnwys dros 50 o sgyrsiau a sioeau newnweledol gan ein darlithwyr ein hunain yn ogystal ag arbenigwyr gwyddonol gwadd.
Gallwch hefyd ddarllen am datblygiadau diweddar yma yng Nglyndŵr a newyddion gan Gynfyfyrwyr eraill yn y DU a ledled y byd.
Os oes rhywbeth arbennig hoffech ddarllen amdano neu os oes gennych erthygl yr hoffech i ni ei hystyried ar gyfer y dyfodol, anfonwch e-bost i alumni@glyndwr.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!
Leigh Ann
Leigh Ann Hills Rheolwraig Datblygu Cynfyfyrwyr Cymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr e - alumni@glyndwr.ac.uk ff - 01978 293945
NEWYDDION
Darlithwraig disglair yn lansio Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus Prifysgol Glyndŵr
Lansiwyd Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus Prifysgol Glyndŵr 2010 gyda darlith gan yr astroffisegydd flaenllaw Yr Ahtro Fonesig Jocelyn Bell Burnell a amlinellodd sut yr ydym wedi ein creu o’r un peth a sêr.
Rhoddodd Y Fonesig Jocelyn, un o ddarganfyddwyr pylsarau radio, ei darlith “Rydych wedi eich gwneud o stwff y sêr” ar ddydd Mawrth, Mehefin 29ain ar Gampws Plas Coch yn Wrecsam.
Esboniodd Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Yr Athro Michael Scott: “Mae Rhaglen Darlithoedd Cyhoeddus yn rhan mor hanfodol o’r Brifysgol ac o'r hyn sydd gennym i'w gynnig i’r gymuned ehangach. Mae’r darlithoedd am ddim a'n nod yw dod a meddwl ac ymchwil blaenllaw i’r gymuned ehangach i’w trin a trafod.
“Rydym wrth ein bodd bod y Rhaglen eleni wedi cael ei lansio gan wyddonwraig mor blaenllaw a gan bwnc mor ddiddorol."
Ceir manylion llawn am Raglen Darlithoedd Cyhoeddus eleni yma.
Er mwyn rhoi rhagflas i chi, mae Rhaglen 2010 yn cynnwys darlithoedd gan Johnny Ball a fydd yn archwilio darganfyddiadau gwyddonol enwocaf, yr Athro Jeff Forshaw yn ystyried y gwir ystyr tu ôl i un o’r hafaliadau enwocaf, E=mc², yn ogystal â mewnwelediad difyr i ymddygiad bleiddiaid gan Shaun Ellis, sydd wedi byw yn eu plith fel un ohonyn nhw.
Er bod y digwyddiadau am ddim, mae'n hanfodol archebu lle o flaen llaw. Gellir archebu tocyn trwy cysylltu â Swyddfa Cynfyfywryr ar alumni@glyndwr.ac.uk.
Johnny Ball yn cychwyn Gŵyl Gwyddoniaeth Wrecsam 2010
Eleni, mi fydd Prifysgol Glyndŵr unwaith eto yn cynnal Gŵyl Gwyddoniaeth Wrecsam a dechreuodd y sbloets wyddonol deg diwrnod gyda darlith gyhoeddus gan y cyflwynydd teledu a'r arbenigwr gwyddonol Johnny Ball. Edrychodd ei ddarlith - Gorffennol Amherffaith, Dyfodol Ffantastig – ar hanes gwyddoniaeth, yn benodol ar rai o’r dangarfyddiadau mwyaf enwog erioed.
Mae’r Ŵyl eleni wedi cynnwys dros 50 o ddarlithoedd cyhoeddus, wedi’u rhoi gan rai o’n staff academaidd yn ogystal ac amrywiaeth o gyflwynwyr gwadd, gan gwmpasu ystod enfawr o bynciau o fewn pedair themau’r digwyddiad - Y Ddaear a’r Bydysawd, Byd yr Anifeiliaid, Y Corff a’r Meddwl Dynol a Gwreichion Llachar.
Mae'r digwyddiadau eraill yn cynnwys sgwrs ar ymddygiad bleiddiaid gan Shaun Ellis, seren rhaglen ddogfen Sianel 5 The Wolfman, a chyflwyniad yn seiliedig ar lyfr arloesol Why Does E=MC² gan Yr Athro Jeff Forshaw. Mae'r Athro Forshaw yn gyd-awdur y llyfr gyda'r Athro Brian Cox, sy'n ystyried y gwir ystyr tu ôl i ddilyniant eiconig y symbolau sy’n llunio hafaliad enwog Einstein.
Roedd uchafbwyntiau eraill y rhaglen yn cynnwys rhagolwg o gar heulol newydd sy’n cael ei adeiladu ym Mhrifysgol Glyndŵr ac yn dal i ddod mae mewnwelediad i gyfranogiad y Brifysgol o brosiect i greu drychau optegol ar gyfer telesgop mwya’r byd a fydd, ar ôl iddo gael ei gwblhau, yr un maint â stadiwm Wembley.
Mae'r defnydd o gyffuriau wedi bod yn ffocws sawl sgwrs yn cwmpasu’r farchnad gyffuriau mewn carchardai, golwg ar y modd y mae mwy a mwy o bobl yn mynd i gaeth i feddyginiaethau dros-y-cownter o’u fferyllfa leol, ac effaith defnyddio cyffuriau ar bobl ifanc Prydain.
Unwaith eto, cynhaliwyd y digwyddiad i’r teulu Gwychoniaeth fel rhan o’r Ŵyl, oedd yn llawn arbrofion ymarferol gwyddonieth, arddangosiadau gwyddoniaeth byw, sioeau diddorol ac arddanogsfeydd gwyddoniaeth llawn gwybodaeth er mwyn eich cyflwyno i syniadau newydd ac yn herio’r ffordd yr ydych yn meddwl am wyddoniaeth.
Heblaw am Gwychoniaeth*, mae’r digwyddiadau a darlithoedd cyhoeddus am ddim, ond mae’r llefydd i’r digwyddiadau sy'n weddill yn gyfyngedig ac mae’n rhaid archebu o flaen llaw yma neu wrth alw 01978 293466.
Ceir manylion llawn am Ŵyl Wyddoniaeth Wrecsam 2010 yn www.wrexhamsf.com/cy/ ble gallwch hefyd lawrlwytho copi llawn o’r raglen. Mae hefyd yn bosib dilyn yr Ŵyl ar Facebook a Twitter yn @wrexhamscifest (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd) i sicrhau eich bod chi’n derbyn y newyddion a 'r datblygiadau diweddaraf ac er mwyn rhyngweithio gyda Gŵyl-wyr o’r un anian a chi.
* Pris Tocynnau Gwychoniaeth: Oedolion: ar y diwrnod £7; archebu o flaen llaw £6Plant: ar y diwrnod £5; o flaen llaw £4 Teulu (2 oedolyn, 2 blentyn): ar y diwrnod £20; o flaen llaw £15Grwpiau (10+): ar y diwrnod £4 y pen; o flaen llaw £3 y pen
Ymchwilwyr yn cynnig ateb diheintio am bris micro
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi datblygu technoleg ar gyfer cynhyrchu dyfais symudol er mwyn diheintio offer meddygol – gan ddefnyddio popty micro-don gwerth £40.
Darparodd y dyfais cegin cyffredin yr ateb i ymdrechion tîm o ymchwilwyr, dan arweiniad yr Uwch Wyddonydd Ymchwil, Dr Andy Wright, i feddwl am ffordd rad, rhydd o gemegion i ladd bacteria niweidiol ar offer meddygol a ddefnyddir mewn meddygfeydd Meddygon Teulu, deintyddion a milfeddygon.
Yn draddodiadol, defnyddiwyd ager ar dymheredd uchel i ddiheintio offer meddygol cyn eu defnyddio ar gleifion.
Fodd bynnag, wrth i facteria allu gwrthsefyll mwy ar driniaethau o’r fath, defnyddiwyd mwy ar gemegion ffyrnig yn ystod y blynyddoedd diweddar.
Yn awr, mae ymchwilwyr yn Uned Uwch-Ddefnyddiau’r Brifysgol wedi darganfod, trwy roi sugn-lestr yn sownd i bopty micro-don, y gellir cynhyrchu arllwysiadau plasma ar ffurf osôn ac ocsigen atomig – dau nwy ffyrnig sy’n effeithiol iawn i ladd bacteria.
Mae’r system yn dibynnu ar y meysydd trydanol dwys a gynhyrchir y tu mewn i ficro-don sy’n rhedeg ar bŵer isel.
Dywedodd Dr Wright fod profion wedi dangos fod y dechnoleg yr un mor effeithiol â’r dulliau ager presennol o ddiheintio, os nad yn fwy effeithiol – ond am gyfran fechan o’r gost.
Mae’r ddyfais yn gallu diheintio offer mewn pum munud neu lai gydag aer.
Meddai: “Y popty a ddewiswyd gennym yw’r math symlaf sydd ar gael ar y farchnad a gyda’r newidiadau a wnaethpwyd gennym, mae’r system yn costio llai na £2000.
"Ar hyn o bryd mae’r systemau diheintio mwyaf dibynadwy yn costio tua £70,000, sy’n golygu fod y system yma yn gost-effeithiol iawn.
“Mae'r dechnoleg ar gael yn awr er mwyn i ysbytai, meddygfeydd a deintyddion gyfnewid y dulliau diheintio ager am ddull plasma a brofwyd i fod yn 100% effeithiol yn erbyn y pathogenau mwyaf trafferthus.
"Achan fod y gost yn llawer is, mae’n addas iawn i’w ddefnyddio mewn meddygfeydd meddygon, deintyddion neu filfeddygon bychain, ble gellir diheintio offer meddygol bach yn gyflym cyn eu defnyddio.
“Fodd bynnag, un o’r prif fanteision yw ei faint bychan a’i bwysau isel.
"Mae’n golygu y gellir ei ddefnyddio hefyd gan ysbytai maes milwrol ynghyd â generadur symudol bychan.
"Gan hynny, nid oes yn rhaid anfon offer i ffwrdd i gael eu trin a gellir gostwng y gost o ddefnyddio eitemau tafladwy.”
Datblygwyd y dechnoleg ar gyfer y system yn sgil ymchwil sylfaenol y Brifysgol i ddefnyddiau haen denau nano-strwythuredig, a ddefndyddir i gynhyrchu dyfeisiau megis gwydr hunanlanhaol a chaenau caled mewn peirianneg.
Mae ymchwil i haenau tenau a’r hyn sy’n eu nodweddu yn ffurfio craidd gweithgareddau’r Uned Ymchwil Uwch-Ddefnyddiau.
Mae’r labordy ymchwil yn un o chwe chanolfan ymchwil gwyddor defnyddiau ym Mhrifysgol Glyndŵr.
NEWYDDION CYNFYFYRWYR
Bardd Ar Daith
Mae cynfyfyrwraig o Brifysgol Glyndŵr Sophie McKeand wedi’i dewis fel bardd preswyl cyntaf ar gyfer Pafiliwn Llangollen sydd newydd ei hadnewyddu.
Graddiodd Sophie yn 2007 gyda BA (Anrh) mewn Llenyddiaeth Saesneg ac erbyn hyn mae hi'n awdur yn ogystal â bod yn un o sylfaenwyr ac yn oylgydd www.theabsurd.co.uk, sef cylchgrawn diwylliant amgen ar gyfer Gogledd Cymru. Mae hefyd yn disgrifio’i hun fel bardd perfformio cymunedol.
“Mae'n bleser gen i weithio gyda Pafiliwn Llangollen er mwyn dod a’r gair llafar at gynulleidfa ehangach” meddai.
“Mae pobl yn amheus o farddoniaeth yn aml, ar ôl cael profiad gwael o farddoniaeth yn yr ysgol. Rydw i wrth fy modd gyda'r clasuron fel Byron, Shelley a Keats ond dydi eu gwaith nhw ddim wastad yn cael ei dysgu mewn fford dynamig mewn ysgolion.
“Dwi’n gweld fy rôl i fel un sy'n ysbrydoli cynulleidfaoedd i ymwneud â'r gair llafar unwaith eto a deall ei rym i diddanu a chyfareddu.”
Dechreuodd Sophie ysgrifennu a perfformio barddoniaeth tra’n astudio ar gyfer ei gradd a rhoddodd ei pherfformiad cyntaf yn yr Everyman Theatre yn Lerpwl sydd ag enw da am gefnogi beirdd.
O’r fan honno, sefydlodd ei hun fel bardd gwadd a compère ac erbyn hyn y mae'n perfformio yn rheolaidd ledled Gogledd Cymru.
Ond nid yw'n hawdd, ychwanegodd Sophie: “Dim on ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar gael i feirdd i berfformio. Dwi’n ffeindio fy mod i’n gorfod cynhyrchu diwyddiadau fy hun er mwyn i farddoniaeth cael ei chydnabod fel rhan o fyd y celfyddydau.
“Mae’n drueni oherwydd mae cymaint o feirdd dawnus yn lleol ond does dim digon o ddigwyddiadau ble gallant berfformio. Dwi’n gobeithio, fel Bardd Pafiliwn Llangollen 2010, y byddaf yn gallu cynyddu cynulleidfa barddoniaeth a gweithio gyda grwpiau cymunedol yn ogystal â beirdd lleol eraill er mwyn datblygu mwynhad pobl o’r gair llafar.”
Croesawodd Sophie westeion i gyngerdd ailagor Y Pafiliwn ym mis Mai, ble bu’n croesawi a difyrru’r gwesteion wrth iddynt gyrraedd. Dywedodd swyddog cyfarthrebu Pafiliwn Llangollen, Elin Williams: “Mae’n bleser mawr gennym groesawu Sophie fel bardd y Pafiliwn ar gyfer 2010.
“Mae ei phenodiad yn bennod newydd yn hanes y lleoliad wrth i ni geisio adlewyrchu yr amrywiaeth eang o artistiaid a cherddorion dawnus yng Ngogledd Cymru a chynnig cyfleoedd iddynt berfformio mewn lleoliad lleol.”
Ysgrifenwyd yr erthygl newydd fer ganlynol fel rhan o brosiect gan y fyfyrwraig ail flwyddyn Darlledu, Newyddiaduraeth ac Ysgrifennu, Melanie Salisbury.
Wedi’i chyfyngu i 300 gair, nod Melanie oedd rhoi darlun cytbwys o fywyd myfyrwyr graddedig, gan gynnwys ystod mor eang o brofiadau â phosib, a chymysgedd amrywiol o fyfyrwyr. Ysgrifenodd Melanie gyfres o erthyglau newyddion a fydd yn cael eu cynnwys yn ein e-gylchlythyrau nesaf.
Diolch yn fawr i’r holl Gynfyfyrwyr a wirfoddolodd i gymryd rhan!
Ffilm gan Fyfyriwr Graddedig yn cael ei Rhyddhau yn Rhyngwladol
Mewn ymgais i ddeall poblogrwydd cynyddol tatŵs, mae ffilm ddogfen SJ Evans, ‘Tattoos: A Scarred History,’ yn cynnwys celfyddyd ar bob rhan o’r corff.
Meddai SJ am ei ffilm, a gymrodd dair blynedd i’w gwneud, ‘Roedd cerdded i mewn i HMV a gweld fy ffilm ar y silff wrth ymyl ffilmiau mawr fel Avatar yn deimlad anhygoel, bythgofiadwy.’
Mae ‘Tattoos: A Scarred History,’ yn edrych ar atyniad cadair yr artist tatŵs ac yn dilyn trywydd un ddynes wrth iddi chwilio am datŵydd sy’n gallu incio tethi iddi yn dilyn llawdriniaeth canser y fron. Mae’r cast yn cynnwys wynebau cyfarwydd fel Pete Postlethwaite, Joe Calzaghe a’r diweddar David Carradine – gorchest y mae SJ yn ei thadogi i hyfdra a dyfalbarhad. Mae SJ yn ystyried cyfarfod Carradine ymhlith ei ffefrynnau, gan ddisgrifio’r actor fel ‘gŵr bonheddig hyfryd o’r iawn ryw.’
Roedd SJ a’i bartner-busnes a’i ddyweddi Sousila Pillay, mewn arwerthiant cist-ceir pan drawyd ef gan y syniad ar gyfer y ffilm. ‘Fe wnaethon ni sylwi ar res o bobl yn cerdded heibio, pob un ohonyn nhw gyda tatŵs. Fe sylweddolon ni mor boblogaidd ydyn nhw erbyn hyn ar ôl bod yn gymaint o dabŵ. Ar ôl hynny, trodd y syniad yn gaseg eira,’ meddai.
Oherwydd eu hamserlen brysur a’u hawydd i gael popeth yn berffaith, ni wnaeth SJ na Sousila fynychu dangosiad cyntaf y ffilm yn yr UDA nac yn y DU. Pan fydd SJ benderfynol yn gwireddu ei freuddwyd o ennill BAFTA, gobeithio y bydd yn gallu mynychu’r seremoni bryd hynny.
DIGWYDDIADAU
Gyda thri lleoliad adloniant cwbl hygyrch ar y campws, llefydd parcio ar y safle ac amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, mae yna rywbeth at ddant pawb.
Cliciwch yma am restr lawn o ddigwyddiadau i ddod.
Cantores Gymraeg yn cyfareddu’r gynulleidfa
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi gweld cyfoeth o artistiaid dawnus yn perfformio ar y campws yn ystod y misoedd diwethaf, yn eu plith y gantores a’r gyfansoddwraig adnabyddus, Cerys Matthews.
Daeth cyn gantores y grŵp Catatonia i Neuadd Aston Hall y Brifysgol yn ystod ei thaith Paid Edrych i Lawr hynod lwyddiannus, gan berfformio caneuon – yn Gymraeg ac yn Saesneg – oddi ar ei halbymau canmoladwy diweddar, Don’t Look Down a Paid Edrych i Lawr.
Gwerthwyd y tocynnau i gyd ar y noson, a diddanwyd y gynulleidfa gan amrywiaeth o ganeuon oddi ar ei halbymau fel artist unigol, wedi’u perfformio ganddi hi a dau gyd-gerddor, yn ogystal â rhoi cip ar bethau i ddod gyda chaneuon oddi ar ei darpar albwm, Tir, a fydd yn cael ei ryddhau ddiwedd Mehefin 2010. Roedd y gynulleidfa astud wrth eu bodd hefyd gyda’i fersiwn o glasur Catatonia, Mulder and Scully.
Seiclwr yn ein hysbrydoli i chwilio am antur ar garreg ein drws
Uchafbwynt diweddar arall oedd sgwrs a roddwyd gan yr anturiaethwr Alistair Humphreys a adawodd y DU yn 24 oed i seiclo o gwmpas y byd. Gan bacio dim byd ac eithrio’r hanfodion moel, cwmpasodd ei daith anhygoel dri tirfas mawr y Ddaear gan gymryd dros bedair blynedd i’w chwblhau. Fe’i disgrifiwyd gan Syr Ranulph Fiennes fel “antur fawr gyntaf y Mileniwm newydd”. Yn ystod ei sgwrs, soniodd Alistair fel y bu i’r daith – a arianwyd o’i boced ei hun – lwyddo yn sgil caredigrwydd dieithriaid a phenderfyniad aruthrol.
Yn ogystal â’r daith ryfeddol hon, bu’n siarad hefyd am rai o’i gredoau sylfaenol - er enghraifft, fod modd cael antur ar eich carreg eich drws eich hun, a brofwyd ganddo gyda’i daith fwy diweddar o amgylch yr M25! Yn ystod yr antur fechan wyth niwrnod hon, cerddodd Alistair a’i gyd-anturiaethwr Ron Lilwall lap o’r llwybr cylchdroadol 118-milltir, gan gadw mor agos at y draffordd â phosib trwy stadau tai, ar hyd tiroedd diffaith a thrwy wrychoedd, yn ystod yr hyn a drodd allan i fod yn wythnos oeraf y gaeaf gwaethaf ers 30 mlynedd.
Gyda lluniau o’i anturiaethau i gyd ac arddull unigryw Alistair Humphreys o adrodd hanesion a’i frwdfrydedd dros fywyd a phobl, roedd hon yn noson ysbrydoledig.
Roedd y ddau ddigwyddiad yma yn ddim ond rhan o’r cymysgedd eclectig o berfformiadau a gynhaliwyd yma ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Mae digwyddiadau cerddorol eraill wedi cynnwys artistiaid yn amrywio o’r perfformiwr o sylwedd Joe Longthorne i’r band gwreiddiau trefol o Ganada, Po’ Girl, yn ogystal â pherfformiadau gan Gerddorfa Symffoni Wrecsam, Cerddorfa Gymreig y BBC a Cherddorfa Siambr Cymru. Yn ogystal â pherfformiadau cerddorol, mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnal cyfres o Nosweithiau Comedi hefyd, a sgyrsiau a darlithoedd amrywiol. Am restr lawn o ddigwyddiadau i ddod, cliciwch yma.
Pe hoffech ysgrifennu adolygiad o unrhyw berfformiad yr ydych wedi’i weld neu’n bwriadu ei weld yma ym Mhrifysgol Glyndŵr, cliciwch yma i gysylltu â Swyddfa’r Cynfyfyrwyr.
Cynfyfywyr yn dathlu dawn myfyrwyr
Ymunodd Cynfyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr â myfyrwyr Celf a Dylunio blwyddyn olaf a oedd yn arddangos eu gwaith yn Sioe Gelf Myfyrwyr Blwyddyn Olaf eleni yn Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru ar gampws Stryt Y Rhaglaw y Brifysgol.
Lansiwyd y Sioe – o’r enw Blue Sky Thinking – gan y cynfyfyriwr Maurice Cockrill RA PCRA, peintiwr o fri a Cheidwad Ysgolion yr Academi Frenhinol gydag Arddangosfa Breifat o’r sioe ar gyfer Cynfyfyrwyr a ffrinidiau’r Brifysgol.
Mae’r Sioe Blwyddyn Olaf yn uchafbwynt yng nghalendr yr Ysgol Gelf a Dylunio ac yn deyrnged teilwng i waith caled, dawn a chyrhaeddiad ein myfyrwyr.
Fel mewn blynyddoedd a fu, mae yna ystod eang o gyfryngau yn cael eu dangos gan gynnwys peintio a darlunio, gwneud printiau, cerflunio, ffotograffiaeth, dylunio a gwaith cyfryngau creadigol, gwydr, fideo a gosodwaith – sy'n siŵr o ysbrydoli pawb sy’n mwynhau celfyddyd neu unrhywun sydd â ddiddordeb mewn unrhyw ddisgyblaeth celf a dylunio.
"Gall graddedigion o’r sioe yma edrych ymlaen yn awr at greu gyrfa yn eu maes dethol diolch i’r gefnogaeth a gawsant ym Mhrifysgol Glyndŵr,” meddai John McClenaghen, Uwch Ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain.
“Erbyn iddynt adael, mae’r myfyrwyr yn gwybod beth mae’n ei olygu i fod yn artist proffesiynol; rydym yn credu ei bod yn bwysig darparu’n myfyrwyr gyda’r sgiliau proffesiynol sydd arnynt eu hangen er mwyn dod ymlaen mewn byd cystadleuol.”
Mae myfyrwyr celfyddyd gain Prifysgol Glyndŵr wedi sicrhau nawdd ymchwil a chyflogaeth o fewn orielau megis Tate Lerpwl. Mae eraill wedi ennill efrydiaethau yn ogystal ag ystod o wobrau mewn arddangosfeydd agored neu wedi symud ymlaen at astudiaethau uwchraddedig, tra bod eraill wedi troi at addysgu ym mhob lefel, o gynradd i Addysg Uwch a Phellach.
Ac mae Prifysgol Glyndŵr yn parhau i gefnogi'r diwydiannau creadigol, a amlygwyd pan godwyd yr Adeilad Diwydiannau Creadigol newydd gwerth £2.4m ar ein prif gampws Plas Coch yn Wrecsam. Disgwylir i'r adeilad, a fydd yn gartref i fyfyrwyr Celf & Dylunio, Cyfrifiadura, Dyniaethau a Theatr a Pherfformio, yn ogystal â bod yn gyfleuster ardderchog i Wrecsam, gyda stiwdios radio a theledu o'r radd flaenaf, agor yn nes ymlaen eleni.
Mae Cymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr ar gyfer Cynfyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr, Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI) a’r holl golegau eraill sy’n rhan o hanes y Brifysgol.
Mae aelodaeth am ddim ac yn darparu ein cynfyfyrwyr ledled y byd gydag ystod o fanteision yn ogystal â’ch cadw chi mewn cysylltiad gyda’r Brifysgol a chynfyfyrwyr eraill. Er mwyn sicrhau nad ydych yn colli allan, cwblhewch y Ffurflen Diweddaru Cynfyfyrwyr.
Mae ein cynfyfyrwyr yn rhan bwysig o’n hanes, a thrwy’r Gymdeithas gallwch fod yn rhan o’n gorffennol a’n dyfodol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn alumni@glyndwr.ac.uk neu ar 01978 293945. |
|---|
|
|